Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am gyfraniadau'r holl Aelodau y prynhawn yma, yn enwedig i'r Aelodau hynny sy'n cefnogi ein cynnig, ac i'r Aelodau hynny ar feinciau'r Ceidwadwyr sydd nawr yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru yn groes i bolisi Llywodraeth y DU.
Rwyf yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ar y cyd yw cefnogi a hyrwyddo'r maes awyr—nid ei fychanu ar gyfryngau cymdeithasol na'i ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Ni fyddech byth, byth, byth yn clywed gweision cyhoeddus etholedig yn lladd ar faes awyr John F. Kennedy neu faes awyr Charles de Gaulle, neu unrhyw feysydd awyr eraill y byd sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus.
Gadewch imi fod yn gwbl glir, ni fyddwn yn caniatáu i Faes Awyr Caerdydd ddod allan o reolaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac yn gweithredu ar eu rhan, Llywodraeth Cymru. Mae ein sefyllfa heddiw yn parhau i fod yn gyson â'n sefyllfa yn 2013, yn 2014, yn 2015, hyd heddiw. Rydym ni, wrth gwrs, yn agored i fuddsoddiad gan y sector preifat yn y maes awyr, a'r posibilrwydd i'r sector preifat gymryd cyfran, ond rydym ni, Llywodraeth Cymru, wedi adfer rheolaeth dros y darn holl bwysig hwnnw o seilwaith, a byddwn yn cadw rheolaeth arno ar ran pobl Cymru.
Gofynnwyd cwestiwn i mi gan Russell George—cwestiwn pwysig iawn am yr hyn y mae arbenigwyr hedfan yn ei gredu sydd er pennaf les meysydd awyr y byd: a ddylent fod yn eiddo cyhoeddus neu'n eiddo preifat. Nawr, pan soniwn am arbenigwyr, Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hoffi ystyried ei hun yn arbenigwr mewn llawer iawn o bethau, ond nid ydych yn ei glywed yn rhuthro i geisio dod o hyd i brynwyr yn y sector preifat ar gyfer yr holl feysydd awyr hynny sy'n eiddo cyhoeddus yn yr Unol Daleithiau. Ac fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae perchenogaeth gyhoeddus yn norm byd-eang. Yn wir, mae tua 85 y cant o feysydd awyr y byd sy'n cludo teithwyr yn eiddo cyhoeddus.
Nawr, fe glywais David Melding yn cellwair, mi gredaf, nad yw David Rowlands yn gyfalafwr mwyach oherwydd ei fod yn gefnogol i'r maes awyr fod mewn perchnogaeth gyhoeddus, ond ni fyddech yn cyhuddo'r Arlywydd Donald Trump neu gyn-faer Efrog newydd, Rudy Giuliani, neu unrhyw un arall asgell dde sy'n cefnogi perchnogaeth gyhoeddus o feysydd awyr yn yr Unol Daleithiau o beidio â bod yn gyfalafwyr. Ni fyddech yn cyhuddo Nicolas Sarkozy ac ni fyddech wedi cyhuddo Jacques Chirac o fod yn wrth-gyfalafol am eu cefnogaeth o berchnogaeth gyhoeddus Charles de Gaulle a llawer, llawer o feysydd awyr eraill yn Ffrainc.
Nawr, ar ddechrau'r ddadl hon, cynigiais weithio ar y cyd ag Aelodau yn y Siambr hon, a dyna'r sefyllfa o hyd. Ond, os gwelwch yn dda, peidiwch â defnyddio ystadegau wedi eu dethol yn ofalus a'u cyflwyno mewn modd sydd wedi'i gynllunio i ystumio dyfodol y maes awyr. A heddiw, credaf y crybwyllwyd unwaith eto yr ystadegyn hwnnw a ddefnyddir amlaf gan y rhai sy'n dymuno bychanu'r maes awyr, ac mae'n ymwneud â'r benthyciad—y buddsoddiad—sy'n cael ei wneud yn y maes awyr. Ond fel y dywedodd Jenny Rathbone yn gwbl briodol, mae'r buddsoddiad cymharol fach hwnnw yn y maes awyr yng Nghaerdydd yn ddibwys o'i gymharu â rai o'r dyledion sydd gan lawer o feysydd awyr eraill, gan gynnwys maes awyr Bryste sydd â baich dyledion o fwy na £0.5 biliwn.
Nawr, roeddwn yn credu bod Nick Ramsay wedi gwneud sylw hollbwysig—ei bod hi'n hanfodol inni ystyried effaith cwymp unrhyw gwmnïau awyrennau pan fyddwn yn ystyried cefnogi'r maes awyr gyda benthyciadau masnachol. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni, yn rhan o'n gwaith diwydrwydd dyladwy, wedi profi cryfder ariannol y maes awyr petai cwmni Flybe yn mynd i'r gwellt. Nawr, nid yw Maes Awyr Caerdydd yn yr un sefyllfa ag y mae llawer o feysydd awyr rhanbarthol bach eraill ynddi heddiw o ganlyniad i gwymp Flybe—meysydd awyr fel Southampton, lle y darparwyd 95 y cant o drafnidiaeth gan Flybe, neu feysydd awyr eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, megis Belfast neu Gaerwysg—ac mae hynny oherwydd yr arallgyfeirio sydd wedi digwydd yn y maes awyr yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Roedd hi'n ddiddorol yr wythnos diwethaf, Dirprwy Lywydd, fod y BBC wedi ail-redeg stori ar-lein o 2018. Roedd y pennawd rywbeth yn debyg i 'Byddai cwymp Flybe yn drychinebus i Faes Awyr Caerdydd'. Nid yw hynny'n wir heddiw, ond byddai wedi bod yn wir yn 2018. Rwyf yn argyhoeddedig, petai'r Ceidwadwyr wedi ennill yr etholiad yn 2016 ac wedi gwerthu'r maes awyr ar ôl yr etholiad hwnnw, yna heddiw, o ganlyniad i gwymp Flybe, y byddai'r maes awyr wedi mynd i'r wal hefyd.