Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 10 Mawrth 2020.
Cyn i ni symud i'r cyfnod pleidleisio a'r ddadl Cyfnod 3 ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), byddaf yn atal y trafodion am 15 munud. Dyna bymtheg munud. Cenir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull, ond a gaf i annog yr Aelodau i ddychwelyd i'r Siambr ar unwaith? Felly, egwyl o 15 munud ac fe genir y gloch bum munud cyn inni ailymgynnull. Felly, mae'r cyfarfod llawn bellach wedi'i ohirio.