Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 10 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hi'n galonogol clywed gan y Gweinidog nad yw'r newyddion diweddar a hynod anffodus fod Flybe wedi rhoi'r gorau i fasnachu ar 4 Mawrth yn effeithio ar hyfywedd cyffredinol Maes Awyr Caerdydd; ond yn yr un modd, mae awyrennau'n cael cyfnod anodd iawn, a gwyddom fod Brexit yn chwarae ei rhan yn hyn.
Ond, mae'r codi bwganod ar goedd gan y Blaid Geidwadol gyferbyn ynglŷn â dyfodol hirdymor y maes awyr wedi profi'n ddi-sail, ac nid yw'r maes awyr a'r rhai y mae eu swyddi'n dibynnu arnynt yn ei groesawu. Felly, awgrymaf hefyd nad ydym yn bychanu Cymru. Drannoeth cyhoeddiad Flybe, cadarnhaodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi sicrhau cytundeb gyda Loganair i gamu i'r adwy a chynnal y gwasanaeth hanfodol hwn o Gaerdydd i Gaeredin gan ddechrau ar 23 Mawrth, felly mae'n drueni nad oedd y blaid gyferbyn yn croesawu hyn. Os ydynt yn cefnogi'r maes awyr ac yn cefnogi seilwaith Cymru, rwy'n credu y dylent ei groesawu.
Mae hi hefyd yn briodol, unwaith eto, rwy'n credu, i bwysleisio yma fod Maes Awyr Caerdydd yn wir yn ddarn pwysig o seilwaith trafnidiaeth strategol. Mae'n ased economaidd allweddol i Gymru, ac fel y cyfryw mae ei helfennau hanfodol yn gryf. Hedfanodd bron i 1.7 miliwn o deithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn 2019. Mae hynny'n 7 y cant yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, y flwyddyn brysuraf ers 2009, ac i fyny 65 y cant ers i Lywodraeth Cymru ddechrau ymwneud â'r maes awyr. Y llynedd hefyd cafwyd twf o 34 y cant mewn refeniw masnachol yn y maes awyr. Mae'r rhain yn ffeithiau go iawn.
Mae llawer o sôn yn y Siambr hon am Gymru'n dod yn genedl aeddfed yn ei hawl ei hun yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig. Felly, pa genedl gyda'r rhithyn lleiaf o hunan-barch nad oes ganddi, neu nad yw'n dymuno cael, ei maes awyr ei hun yn gwasanaethu ei phrifddinas a'r genedl ehangach, a'r 52,000 o swyddi yn y gadwyn gyflenwi sy'n mynd gyda hynny, gan gynnwys ymchwil a datblygu? Os byddwn yn dewis osgoi ein cyfrifoldebau cenedlaethol tuag at Gymru, byddem yn sefyll o'r neilltu wrth i feysydd awyr dinasoedd rhanbarthol Lloegr fel Bryste a Chaerwysg dyfu. Rydym yn genedl gyda dyheadau ac uchelgais, ac rwy'n gwybod na fydd Llywodraeth Lafur Cymru yn gyndyn o sefyll dros Gymru. Mae'n hanfodol i economi masnachu Cymru ar ôl Brexit ein bod yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel, integredig a charbon isel.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru hefyd wedi galw'n gyson am ddatganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru, ac rwy'n falch bod y Torïaid gyferbyn yn gefnogol o hyn bellach. Byddwn yn gofyn iddynt fynd â'r neges honno'n ôl i'w meistri yn y DU. Mae dadansoddiad arbenigol annibynnol yn dangos manteision economaidd amlwg i Gymru pe bai'r doll teithwyr awyr wedi'i datganoli, ac yn amlwg pe bai Gweinidogion Cymru wedyn yn penderfynu lleihau'r doll teithwyr awyr honno. Wrth i'r DU adael yr UE, mae datganoli'r doll teithwyr awyr yn ffordd y gall Llywodraeth Cymru hyrwyddo atyniad economaidd Cymru, a thwf yng Nghymru ar y cyd â pholisïau economaidd presennol Llywodraeth Cymru, ac mae'n atyniad allweddol i'n buddsoddwyr. Felly, rwy'n falch bod cefnogaeth drawsbleidiol nawr ar draws y Cynulliad i Gymru fod â'r grymoedd dros y doll teithwyr awyr.
A byddwn hefyd yn dweud—a'i roi yn syml iawn, felly—os yw Aelodau yn cefnogi Cymru, yna byddant yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd. Mae'n bryd i ni i gyd sefyll dros Gymru, ac mae'n bryd inni roi terfyn ar fychanu Cymru.