Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch am y cwestiynau. O ran cyfarpar diogelu personol, gwneuthum y penderfyniad a'r cyhoeddiad dros y penwythnos ynghylch cyfarpar diogelu i fynd i ymarfer cyffredinol. Rydym yn disgwyl i hynny gael ei gwblhau o fewn yr wythnos ar draws y wlad, felly, yn Islwyn, yn amlwg, buaswn yn disgwyl y bydd pob practis yn Islwyn yn ei gael o fewn yr amser hwnnw. Os oes unrhyw Aelod yn ymwybodol fod ganddo bractis lleol lle nad yw hynny wedi digwydd, yna buaswn yn falch o glywed am hynny fel y gallwn ei ddatrys. Cyhoeddais ddoe y bydd fferyllfeydd cymunedol hefyd yn cael cyfarpar diogelu personol a bydd y cyflenwadau hynny’n mynd allan cyn diwedd yr wythnos hon. Felly, ar ôl gwneud y penderfyniad, byddwn yn gallu symud yn gyflym, ac rydym yn y sefyllfa ffodus ein bod yn disgwyl y bydd yr holl gyfarpar wedi'i ddosbarthu yng Nghymru ac yn ei le o fewn amserlen fyrrach na Lloegr—yn rhannol oherwydd maint a logisteg. Felly rydym mewn sefyllfa dda o ran hynny.
Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y pethau y gall y cyhoedd eu gwneud eu hunain. Y cyngor arferol ynghylch 'ei ddal, ei daflu, ei ddifa', golchi'ch dwylo, ond hefyd y cyngor arferol y byddem yn gofyn i chi ei ddilyn os oes gennych symptomau tebyg i ffliw, i beidio â dod i'r gwaith; peidio â mynd i leoedd lle rydych mewn perygl o’i roi i bobl eraill, a'r canlyniadau sylweddol. Mae hwnnw'n gyngor arferol; nid dim ond yn awr, gyda’r posibilrwydd fod coronafeirws yn cylchredeg, dyna'r cyngor arferol y byddem yn gofyn i bobl ei ddilyn.
I bobl sy'n pryderu ac eisiau sylw meddygol, mae'n bwysig iawn nad yw pobl yn mynd i'w meddygfa leol nac i ysbyty. Dilynwch y cyngor i ffonio 111. Mae ar gael ledled y wlad, ac yna dylech gael cyngor ac arweiniad ar beth i'w wneud. Os oes angen i chi gael prawf, rydym eisoes wedi gallu profi dros 90 y cant o bobl yn eu cartrefi eu hunain, ond hefyd mae o leiaf 11 o ganolfannau profi gyrru drwodd ledled Cymru. Mae mwy yn cael eu creu gan wahanol fyrddau iechyd, ac mae'r rheini ar gyfer pobl sy'n cael eu cynghori i fynd iddynt. Felly rydym yn gwneud popeth y gallwn ac y dylem ei wneud i gadw pobl gartref lle mae angen iddynt fod, rhoi'r cyngor a'r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, ac unwaith eto, os bydd y sefyllfa'n newid bydd y Llywodraeth a'n prif swyddog meddygol, ynghyd â Llywodraethau eraill yn y DU, yn glir ynglŷn â'r rheswm dros y newid yn y cyngor a'r hyn y byddwn yn cynghori pobl i'w wneud bryd hynny. Mae'n bwysig iawn i bob un ohonom ysgwyddo ein cyfrifoldeb unigol fel Aelodau etholedig yn yr hyn a wnawn i gadw ein hetholwyr yn ddiogel, a'r hyn y mae ein hetholwyr yn eu tro yn ei wneud i gadw eu hunain, eu teuluoedd a phobl eraill yn ddiogel hefyd.