Cynllun Gweithredu Coronafeirws

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:40, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, gofynnir i ysbytai yn Lloegr gynnal mwy o ymgynghoriadau drwy gyfrwng fideo gyda chleifion er mwyn lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws. Mae GIG Lloegr wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd y cam hwn yn lleihau nifer y bobl mewn ysbytai ac yn lleihau'r perygl o'i drosglwyddo. Weinidog, a wnewch chi edrych ar y syniad hwn i weld a fyddai o fudd i gleifion yng Nghymru? A pha fesurau rydych chi'n eu hystyried i ddiogelu cymunedau yn Islwyn ac mewn mannau eraill yng Nghymru?

Yn olaf, fe wyddom oll fod Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi £20 biliwn o gyllid i fynd i'r afael â coronafeirws, felly faint o arian rydych chi'n gobeithio'i gael yng Nghymru i beidio â chael y clefyd gwirion hwnnw'n dod i'r rhan hon o'r byd? Diolch.