Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch. Rwy'n credu bod fy nghwestiwn nesaf wedi'i gyfeirio'n fwy at y Gweinidog iechyd. Yn anffodus, mae rheswm da dros boeni hefyd am staff iechyd rheng flaen. Rwyf wedi derbyn gohebiaeth gan ymarferydd cyffredinol yng Nghymru sydd wedi tynnu sylw at ddiffyg cyfarpar diogelu personol a mygydau ar gyfer staff rheng flaen, ond hefyd ar gyfer pobl fel derbynyddion, nyrsys a staff cynnal a chadw. Mae wedi esbonio'n gywir nad oes digon ohonynt i allu hunanynysu, os yw'n bosibl eu bod wedi'u heintio, a dal i ymdopi â maint y pwysau ar ein gwasanaeth iechyd. Pa gamau brys a gymerir i sicrhau bod pob aelod o staff rheng flaen yn derbyn ac yn defnyddio'r cyfarpar diogelu personol yn ôl y cyfarwyddyd?