Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 11 Mawrth 2020.
Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia yn ogystal â chymorth cofleidiol helaeth, sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth a chyfeirio at wasanaethau cyhoeddus eraill y gallwn eu darparu ledled Cymru.