Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:50, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Bydd angen capasiti mewn meysydd eraill hefyd, islaw gofal critigol. Ofnaf y bydd colli ysbytai cymunedol yn rhywbeth y byddwn yn ei ddifaru, i ryw raddau, yn y misoedd i ddod. Efallai y bydd angen inni adeiladu capasiti ar gyfer ynysu, er enghraifft, a gallaf gyfleu ichi'r cynnig a wnaeth un perchennog gwesty, er enghraifft, a oedd yn cynnig gwesty i'w ddefnyddio, fel rhywle lle gellir ynysu pobl o bosibl. A oes cynlluniau i greu'r math hwnnw o gapasiti o fewn y system—gan droi efallai at westai, neu leoliadau eraill, neu hyd yn oed at y fyddin hefyd. Oherwydd ceir capasiti y gellir ei adeiladu o fewn y fyddin pan ddaw'n fater o ynysu.