Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw ac mae'n llygad ei lle fod pobl hŷn, a phobl hŷn sydd ag anghenion iechyd cymhleth, mewn mwy o berygl o lawer. Ac felly rydym am wneud popeth yn ein gallu i'w diogelu cymaint â phosibl, ac rydym yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Mae'r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio yn arwain y blaen yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos iawn â'r awdurdodau lleol, sy'n amlwg yn agos iawn at y sector gofal, ac rydym wedi penodi cyfarwyddwr arweiniol i edrych ar y pwnc hwn. Daw'r cyfarwyddwr arweiniol o Bowys. Rydym wedi sefydlu gweithgor sy'n edrych ar yr holl fathau o faterion y mae'n eu codi. Mae canllawiau eisoes wedi'u cyhoeddi i'r sector gofal cymdeithasol. Mae'n ganllaw ar y cyd â Lloegr. Felly, yr un yw'r canllawiau, ond rydym yn bwriadu llunio set arall o ganllawiau, a gwneir hynny gan weithgor gyda'r holl bobl sy'n gysylltiedig.