Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 11 Mawrth 2020.
Rwyf innau'n croesawu'r ddadl hon a gyflwynwyd gan David Rees AC. Mae'n wir ein bod yn gwneud cynnydd gwirioneddol yn y wlad hon, ond mae'n wir o hyd, fel y mae llawer wedi'i nodi, fod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd tebyg o ran cyfraddau goroesi canser, er gwaethaf y gostyngiad yn y cyfraddau marwolaeth. Credir mai'r prif ffactor sy'n gyfrifol am yr oedi hwn yw'r ffaith bod llawer o ganserau'n cael eu canfod yn hwyr, ac mae Ymchwil Canser Cymru wedi dweud bod diagnosis hwyr yn gymhleth ac yn aml-ffactor, ac y gall ddeillio o ddiffyg ymwybyddiaeth o symptomau, cleifion yn teimlo gormod o embaras i weld eu meddyg teulu, neu fel arfer, yn gorfod gwneud sawl ymweliad dros gyfnod hir o amser cyn bod y meddyg teulu'n atgyfeirio'r claf i gael archwiliad arbenigol. Bydd system y faner goch, fel y nodwyd gan Dai gyferbyn, yn cynorthwyo'r proffesiwn meddygol i wneud y dasg benodol honno.
Mae Llywodraeth Cymru a'i Gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wedi deall pwysigrwydd yr oedi hwn, a bydd hefyd yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r her real hon. Bydd y llwybr canser sengl pwysig a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2019 fel dull newydd o fesur amseroedd aros canser yn ffactor ychwanegol hefyd. Ond mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu diagnosteg a systemau sylfaenol o fewn y llwybr canser sengl i neud diagnosis a thrin cynifer o gleifion cyn gynted â phosibl, a bydd strategaeth ganser newydd, fel y nododd llawer ohonoch, yn disodli'r cynllun cyflawni presennol—mae'n adeg lle gallem ganolbwyntio ar y diagnosis cynnar critigol hwn a'i bwysleisio, ac yn yr un modd, gwneud gwaith ar gynllunio'r gweithlu arbenigol a hyfforddiant ar lwybrau canser arbenigol, er enghraifft, endosgopi a llawer o rai eraill.
Bydd y ffocws newydd ar atal a diagnosis cynnar yn allweddol er mwyn nodi symptomau clefyd yn gynnar, eu trin yn gynnar a gwella cyfraddau goroesi, a bydd y gronfa triniaethau newydd a gweithredu'r gweithiwr allweddol arbenigol i gynorthwyo cleifion canser yn helpu ac yn gwella, unwaith eto, y cyfraddau goroesi fel y maent ar hyn o bryd. Ond nid ar ystadegau y mae sylw'r ddadl hon heddiw. Fel y mae eraill wedi dweud, mae'n ymwneud â phobl go iawn, fel fy nhad, a gafodd ddiagnosis cam cynnar o ganser y coluddyn yn ddiweddar. Oherwydd y diagnosis cynnar a chynllun gofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar y claf, mae bellach yn gwella. Mae'n lwcus, ac mae'n rhaid i'w daith gael ei hailadrodd yn awr drwy bob dull newydd ledled Cymru.