10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:09, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig sy'n siarad drosto'i hun. Rydym wedi ailadrodd y ddadl fod pobl angen gwasanaeth damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi yma ar sawl achlysur. Mae'r dystiolaeth glinigol yn glir fod perthynas rhwng pellter a chyfraddau marwolaeth mewn sefyllfaoedd o argyfwng, ac mae hynny hyd yn oed yn gliriach yn achos cyflyrau anadlol; mewn geiriau eraill, y mathau o gyflyrau sy'n amlwg yn ardaloedd tlotaf Cymru fel fy etholaeth i yn y Rhondda.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â bwrw iddi yn awr. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb a chyflwyno dadl ynglŷn â pham y dylai Cymru gael llai o unedau damweiniau ac achosion brys, a fyddai o leiaf yn safbwynt polisi gonest, mae'r Llywodraeth hon yn cuddio y tu ôl i'r syniad na allant wneud unrhyw beth: 'Nid yw'n bosibl', dywedir wrthym. Ond dywedwyd wrthym ei fod yn amhosibl o'r blaen. Bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones—a fu'n gyfrifol yn llythrennol am ysgrifennu'r ddeddfwriaeth sy'n dweud y gallant ymyrryd a rhwystro hyn dan Lywodraeth Cymru'n Un, sef y glymblaid a gafwyd rhwng 2007 a 2011—yn esbonio yn nes ymlaen sut y newidiodd Plaid Cymru yr hyn a oedd yn amhosibl unwaith o'r blaen.

Ond rwyf am ychwanegu dadl arall at yr achos diwrthdro o blaid cadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a'r holl ysbytai eraill sydd â'r cyfleuster hwnnw. Y ddadl yw ein bod yn debygol iawn o fod angen yr holl gapasiti posibl yn ystod yr wythnosau nesaf i ymdopi â COVID-19. Ceir prinder gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Nid oes ganddi'r gweithlu angenrheidiol ar gyfer staffio'r gwelyau gofal critigol hynny. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ddadlau bod hon yn adeg addas i ganiatáu i fwy o gapasiti gael ei golli. Dylem fod yn cynllunio ar sail gwneud y defnydd gorau o'r capasiti sydd gennym, a bod yn barod i addasu wardiau os bydd angen.

Ond mae'r fath obsesiwn ideolegol gan y Llywodraeth hon ynghylch symud gwasanaethau i mewn i'r gymuned—ffordd arall o ddweud cau wardiau—fel eu bod bellach yn methu gweld pwysigrwydd cael gofal eilaidd pan fo'i angen. Roedd y datganiad ddoe am salwch COVID-19 yn enghraifft glasurol o ba mor wreiddiedig yw'r obsesiwn hwn fel nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli hynny mae'n debyg. Nid oedd y datganiad ddoe yn cyfeirio o gwbl at welyau gofal critigol. Does bosibl fod gwelyau gofal critigol yn cael eu hystyried yn llai o flaenoriaeth na chael gwiriwr symptomau ar-lein, cyfleusterau ar gyfer cynnal profion yn y gymuned, neu gyfarpar diogelu i feddygon teulu? Bydd 5 y cant o'r bobl a fydd yn cael y feirws yn mynd yn ddifrifol wael, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n debygol o newid gyda'r mesurau hyn. Mae angen capasiti arnom i drin pobl sâl.

Nawr, nid oes amheuaeth ein bod eisiau gweld buddsoddiad yn y gwasanaethau iechyd sy'n cadw pobl yn iach ac yn galluogi pobl i osgoi gorfod aros mewn ysbytai; mae hyn yn wir yn yr un ffordd â'n bod am weld atal tanau cyn bod yn rhaid galw'r gwasanaeth tân. Ond mae'n dal i fod angen y gwasanaeth tân arnom pan fydd tân yn digwydd; ac mae'n dal i fod angen uned damweiniau ac achosion brys arnom pan fydd damweiniau ac achosion brys yn digwydd. Gyda phob ewyllys yn y byd, mae gan lawer o fy etholwyr gyflyrau cronig eisoes na ellir eu hatal, a bydd rhai ohonynt yn anochel yn gorfod cael triniaeth frys o bryd i'w gilydd. Byddant yn cael eu rhoi mewn perygl wrth orfod teithio ymhellach.

Mae prinder staff, wrth gwrs, wedi cael ei chrybwyll fel y brif broblem—ac mae hyn yn real—ond nid yw'r bwrdd wedi gwneud unrhyw ymdrech. A pham y byddent yn gwneud hynny? Cafodd rhaglen de Cymru ei chymeradwyo gan Lafur a rhoddwyd caniatâd iddi barhau, ac nid oedd neb yn mynd i weithio mewn uned y gwyddent y byddai'n cau. Dyna'n union pam y mae angen i'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb, newid llwybr, a chyhoeddi nad yw rhaglen de Cymru yn berthnasol mwyach a bod anghenion iechyd heddiw yn galw am gadw uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gallwch wneud hyn. Rydych chi wedi'i wneud o'r blaen. Gwnewch hynny eto.