– Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Cymru ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dwi'n galw ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7296 Siân Gwenllian
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG.
2. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gefnogi cadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn cydnabod bod recriwtio yn allweddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
4. Er mwyn helpu recriwtio, yn galw ar y Gweinidog Iechyd i ddiddymu'r penderfyniad a wnaed yn 2014 i ddileu'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys a arweinir gan feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fel rhan o Raglen De Cymru.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig sy'n siarad drosto'i hun. Rydym wedi ailadrodd y ddadl fod pobl angen gwasanaeth damweiniau ac achosion brys o fewn pellter rhesymol i'w cartrefi yma ar sawl achlysur. Mae'r dystiolaeth glinigol yn glir fod perthynas rhwng pellter a chyfraddau marwolaeth mewn sefyllfaoedd o argyfwng, ac mae hynny hyd yn oed yn gliriach yn achos cyflyrau anadlol; mewn geiriau eraill, y mathau o gyflyrau sy'n amlwg yn ardaloedd tlotaf Cymru fel fy etholaeth i yn y Rhondda.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn penderfynu peidio â bwrw iddi yn awr. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb a chyflwyno dadl ynglŷn â pham y dylai Cymru gael llai o unedau damweiniau ac achosion brys, a fyddai o leiaf yn safbwynt polisi gonest, mae'r Llywodraeth hon yn cuddio y tu ôl i'r syniad na allant wneud unrhyw beth: 'Nid yw'n bosibl', dywedir wrthym. Ond dywedwyd wrthym ei fod yn amhosibl o'r blaen. Bydd fy nghyd-Aelod, Helen Mary Jones—a fu'n gyfrifol yn llythrennol am ysgrifennu'r ddeddfwriaeth sy'n dweud y gallant ymyrryd a rhwystro hyn dan Lywodraeth Cymru'n Un, sef y glymblaid a gafwyd rhwng 2007 a 2011—yn esbonio yn nes ymlaen sut y newidiodd Plaid Cymru yr hyn a oedd yn amhosibl unwaith o'r blaen.
Ond rwyf am ychwanegu dadl arall at yr achos diwrthdro o blaid cadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a'r holl ysbytai eraill sydd â'r cyfleuster hwnnw. Y ddadl yw ein bod yn debygol iawn o fod angen yr holl gapasiti posibl yn ystod yr wythnosau nesaf i ymdopi â COVID-19. Ceir prinder gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Nid oes ganddi'r gweithlu angenrheidiol ar gyfer staffio'r gwelyau gofal critigol hynny. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i ddadlau bod hon yn adeg addas i ganiatáu i fwy o gapasiti gael ei golli. Dylem fod yn cynllunio ar sail gwneud y defnydd gorau o'r capasiti sydd gennym, a bod yn barod i addasu wardiau os bydd angen.
Ond mae'r fath obsesiwn ideolegol gan y Llywodraeth hon ynghylch symud gwasanaethau i mewn i'r gymuned—ffordd arall o ddweud cau wardiau—fel eu bod bellach yn methu gweld pwysigrwydd cael gofal eilaidd pan fo'i angen. Roedd y datganiad ddoe am salwch COVID-19 yn enghraifft glasurol o ba mor wreiddiedig yw'r obsesiwn hwn fel nad ydynt hyd yn oed yn sylweddoli hynny mae'n debyg. Nid oedd y datganiad ddoe yn cyfeirio o gwbl at welyau gofal critigol. Does bosibl fod gwelyau gofal critigol yn cael eu hystyried yn llai o flaenoriaeth na chael gwiriwr symptomau ar-lein, cyfleusterau ar gyfer cynnal profion yn y gymuned, neu gyfarpar diogelu i feddygon teulu? Bydd 5 y cant o'r bobl a fydd yn cael y feirws yn mynd yn ddifrifol wael, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n debygol o newid gyda'r mesurau hyn. Mae angen capasiti arnom i drin pobl sâl.
Nawr, nid oes amheuaeth ein bod eisiau gweld buddsoddiad yn y gwasanaethau iechyd sy'n cadw pobl yn iach ac yn galluogi pobl i osgoi gorfod aros mewn ysbytai; mae hyn yn wir yn yr un ffordd â'n bod am weld atal tanau cyn bod yn rhaid galw'r gwasanaeth tân. Ond mae'n dal i fod angen y gwasanaeth tân arnom pan fydd tân yn digwydd; ac mae'n dal i fod angen uned damweiniau ac achosion brys arnom pan fydd damweiniau ac achosion brys yn digwydd. Gyda phob ewyllys yn y byd, mae gan lawer o fy etholwyr gyflyrau cronig eisoes na ellir eu hatal, a bydd rhai ohonynt yn anochel yn gorfod cael triniaeth frys o bryd i'w gilydd. Byddant yn cael eu rhoi mewn perygl wrth orfod teithio ymhellach.
Mae prinder staff, wrth gwrs, wedi cael ei chrybwyll fel y brif broblem—ac mae hyn yn real—ond nid yw'r bwrdd wedi gwneud unrhyw ymdrech. A pham y byddent yn gwneud hynny? Cafodd rhaglen de Cymru ei chymeradwyo gan Lafur a rhoddwyd caniatâd iddi barhau, ac nid oedd neb yn mynd i weithio mewn uned y gwyddent y byddai'n cau. Dyna'n union pam y mae angen i'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb, newid llwybr, a chyhoeddi nad yw rhaglen de Cymru yn berthnasol mwyach a bod anghenion iechyd heddiw yn galw am gadw uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Gallwch wneud hyn. Rydych chi wedi'i wneud o'r blaen. Gwnewch hynny eto.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi:
a) yn unol â Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, mai’r byrddau iechyd lleol perthnasol yng Nghymru sydd â’r cyfrifoldeb statudol am ddarparu gwasanaethau’r GIG mewn ardaloedd daearyddol yng Nghymru;
b) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n adolygu ei ddarpariaeth ar gyfer y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hynny yn ardal y bwrdd iechyd sy'n benodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg;
c) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wrthi’n ystyried nifer o opsiynau yn ymwneud â'r gwasanaeth hwn ar hyn o bryd;
d) bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal dadansoddiadau data, modelu a recriwtio, ac yn ymgysylltu â'r staff a’r cyhoedd er mwyn cynorthwyo penderfyniad gan ei fwrdd;
e) nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â dyfodol y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd ac nad yw wedi sicrhau bod byrddau iechyd hefyd wedi cadw at yr egwyddorion ar ymgysylltu cyhoeddus sydd wedi’u diogelu yn 'Cymru Iachach'.
Gwelliant 5—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder, dystiolaeth lafar ddiweddar Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 27 Chwefror 2020 nad oedd y Bwrdd wedi bod wrthi'n recriwtio ymgyngynghorwyr meddygol adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon eto. Gwta dair neu bedair wythnos yn ôl roeddem yn trafod yr union bwnc hwn gyda chynnig gan y Ceidwadwyr ger ein bron, a chafwyd cefnogaeth i'r cynnig hwnnw, gyda gwelliannau. Ac mae'n drueni nad yw'r Llywodraeth wedi symud ar y safbwynt penodol hwn, pan fo'r Cynulliad yn siarad mewn ffordd mor gadarnhaol. Hoffwn weld ymateb mwy cadarnhaol gan y Llywodraeth.
Rwy'n cynnig y gwelliannau a gyflynwyd yn enw Darren Millar yn ffurfiol. Yn amlwg, mae gwelliant 2 yn edrych ar y ddadl honno a gynhaliwyd, fel y dywedais, ryw dair neu bedair wythnos yn ôl ac a gafodd ganlyniad cadarnhaol mewn perthynas â chadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae gwelliant 3 a gwelliant 4 yn cyffwrdd ar y broses ymgysylltu y dylai'r bwrdd iechyd ei dilyn bob amser wrth drafod unrhyw gynigion mawr, ac i fod yn deg â'r bwrdd iechyd, maent wedi gwneud hynny i ryw raddau. Ac yn amlwg, gwnaeth rhaglen de Cymru hynny yn ei thro hefyd. Ond yr hyn sy'n ddiffyg sylfaenol yma yw gwendid rhaglen de Cymru pan fo'n sôn am ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhan arbennig hon o'r gymuned rwy'n ei chynrychioli fel Aelod rhanbarthol dros Ganol De Cymru.
Nid hen ysbyty yw Ysbyty Brenhinol Morgannwg; mae'n ysbyty cymharol newydd. Mae'r ardal gyfagos yn ehangu'n gyflym. Rwyf wedi clywed yr Aelod dros Bontypridd yn sôn am oddeutu 20,000 o dai newydd yn cael eu codi yn yr ardal benodol honno. Mae'r ardal gyfan yn ardal sy'n tyfu—nid yw'n ardal sy'n crebachu, mae'n ardal twf. Ac wedyn rydych yn cysylltu hynny â gwelliant 5, sef y dystiolaeth a gyflwynwyd gan Gwm Taf eu hunain yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, lle nad oedd y bwrdd iechyd wedi bod wrthi'n weithredol yn ceisio hyrwyddo swyddi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. A heddiw, ceir stori yn y papurau lleol sy'n nodi bod ceisiadau rhyddid gwybodaeth wedi dangos na fu unrhyw weithredu cadarnhaol i ddenu meddygon ymgynghorol llawnamser—ac rwy'n defnyddio'r gair 'llawnamser'. Cymerwyd camau i geisio denu staff locwm i lenwi'r bylchau. Wel, fel y gŵyr pawb, ni allwch adeiladu gwasanaeth cynaliadwy ar staff locwm. Ac felly, mae popeth yn pwyntio at yr angen i gadw'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg—ysbyty modern, gyda phoblogaeth gynyddol o'i gwmpas a galw cynyddol.
Ac eto, mae'r bwrdd iechyd, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn benderfynol o gyflwyno rhaglen de Cymru, rhaglen y mae wedi'i fandadu i'w chyflawni, i ryw raddau am ei bod yn rhaglen y mae'r Llywodraeth yn amlwg wedi'i chymeradwyo, ac yn y pen draw mae wedi dweud wrth y byrddau iechyd sydd wedi ei chefnogi, 'Dyma'r glasbrint ar gyfer gwasanaethau iechyd yn yr ardal.' Ni chredaf fod neb o'r farn fod y glasbrint hwnnw'n ffordd synhwyrol o gyflwyno darpariaeth damweiniau ac achosion brys yn ardaloedd Llantrisant a'r Cymoedd. Ac yn wir, mae'r gweithwyr proffesiynol meddygol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi dweud hynny eu hunain. Maent yn nodi, yn amlwg, fod bylchau yn y rota—nid oes neb yn amau'r ffaith honno—ond pan ystyriwch nad yw'r bwrdd iechyd wedi bod yn mynd ati'n rhagweithiol i hyrwyddo argaeledd gwaith yn y cylch hwnnw o feddygon ymgynghorol, ac i fwrw ymlaen â'u gyrfaoedd, a oes ryfedd iddi fod yn anodd llenwi swyddi gwag?
Ac felly, ym mhob ffordd, ceir achos cadarnhaol dros gadw gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac mae gwelliant y Llywodraeth sy'n dweud mai bai'r bwrdd iechyd yw hyn i gyd yn hurt, mae'n rhaid i mi ddweud, am fod y Llywodraeth mewn sefyllfa i roi arweiniad i'r bwrdd iechyd ynglŷn â chyfeiriad strategol cyffredinol y ddarpariaeth iechyd yma yng Nghymru. Rwy'n derbyn bod y gwaith o redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd wedi ei ddirprwyo i'r byrddau iechyd, ond mae cyfeiriad strategol cyffredinol y ddarpariaeth iechyd yma yng Nghymru yn gyfrifoldeb i'r Gweinidog iechyd. Dyna yw rôl pwy bynnag sydd yn y swydd. Ac felly, mae'n ddyletswydd ar y Gweinidog iechyd i wrando ar y sylwadau a wneir yn y Siambr hon, ar sylwadau a wneir yn ehangach gan y cymunedau a wasanaethir gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn y pen draw ar y dystiolaeth sy'n cefnogi cadw'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac rwy'n gobeithio y cawn ymateb cadarnhaol gan y Dirprwy Weinidog y prynhawn yma a bod hyn yn adeiladu ar y bleidlais a gynhaliwyd oddeutu pythefnos neu dair wythnos yn ôl yn y Siambr hon, yn hytrach na 'Nid oes a wnelo hyn ddim â ni. Trosglwyddwch ef yn ôl i'r bwrdd iechyd'. Ni wnaiff hynny'r tro a gobeithio y bydd y cynnig, gyda gwelliannau, yn cael ei gefnogi y prynhawn yma.
Diolch. A gaf fi atgoffa'r Aelodau'n garedig, mewn dadl hanner awr, tri munud ydyw—mae pob cyfraniad yn dri munud, ar wahân i gyfraniad y Gweinidog? Mae gennyf nifer o siaradwyr yr hoffwn geisio eu cynnwys. Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yn y ddadl hon oherwydd fy mod yn poeni, os na chedwir yr uned damweiniau ac achosion brys ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn agored fel y mae, y bydd hynny'n effeithio'n negyddol ar nifer o ysbytai eraill, gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, sydd yn fy rhanbarth i.
Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, cydnabu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn 2017 fod 60,072 o achosion o gleifion yn mynychu'r uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac roedd 63,691 wedi mynychu Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Erbyn 2019, aeth 63,341 o gleifion i Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac aeth 64,649 i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, beth y mae'r ffigurau hynny'n ei olygu? Os bydd un o'r unedau damweiniau ac achosion brys hynny'n cau, mae'n amlwg na fydd y degau o filoedd o gleifion sydd angen gofal brys yn gwasgaru neu'n diflannu—rhaid iddynt fynd i rywle arall. Bydd angen iddynt deithio ymhellach, ar fwy o draul iddynt hwy a mwy o berygl i'w hiechyd.
Diolch, Delyth. Nid oeddwn eisiau torri ar eich traws yno, ond mae'r ffigurau hynny hefyd yn dangos bod angen pob un o'r unedau damweiniau ac achosion brys hynny arnom. Os bydd rhaglen de Cymru yn cael ei dileu, ni all hynny fod yn esgus i ddechrau edrych ar gau unedau damweiniau ac achosion brys eraill.
Buaswn yn cytuno'n llwyr â'r pwynt, yn bendant.
Nawr, rwy'n gwybod eisoes o brofiad personol pa mor hir yw'r amseroedd aros yn uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl. Mae'r staff yn gwneud gwaith rhagorol o dan bwysau aruthrol, ond mae cleifion yn cael eu gadael i aros am oriau fel mater o drefn ac nid oes digon o welyau. Bu farw fy nain y llynedd ar ôl nifer o flynyddoedd o afiechyd. Yn ystod ei blwyddyn olaf, mynychodd uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl ar sawl achlysur gyda fy rhieni, ac yn ddiweddarach gyda gofalwyr ar ôl iddi gwympo. Ar un achlysur, bu fy nain yn aros am naw awr ar droli mewn coridor am nad oedd unrhyw welyau ar gael. Roedd hi'n 99 ar y pryd ac yn dioddef o ddementia. Nawr, unwaith eto, gwnaeth y staff bopeth a allent, ond nid oedd yn briodol i fenyw o'r oedran hwnnw fod heb wely am gymaint â hynny o amser. Dychmygwch pa effaith a gaiff llif o gleifion newydd ar uned damweiniau ac achosion brys sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd ymdopi.
Nawr, mae amser yn brin, felly rwyf am ddweud un peth arall. Rwy'n mynd i adleisio'r hyn sydd wedi cael ei ddweud yn barod yn y ddadl hon. Rwy'n siomedig ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth sy'n awgrymu, mewn rhyw ffordd, nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y GIG yn y pen draw, ond y byrddau iechyd. Nid yw hynny'n wir, a bron nad yw gwelliannau'r Llywodraeth yn taflu llwch i'r llygaid yn hynny o beth, ac fe fydd yn drysu pleidleiswyr.
Prif ddadl y rhai sy'n ceisio tanseilio'r Senedd yw ei bod wedi methu cyflawni, ond mae hyn yn chwarae ar y ffordd y mae pobl yn cymysgu rhwng y ddeddfwrfa a'r weithrediaeth—hynny yw, y Senedd sy'n sefydliad a'r Llywodraeth sy'n gosod y polisïau. Mae arnaf ofn ei bod o fudd i Lywodraeth Cymru fwydo'r dryswch hwn yn yr achos dan sylw er mwyn osgoi atebolrwydd, a dyma a wnaethant gydag Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn ddiweddar, aeth aelod o feinciau cefn Llafur cyn belled â honni'n gyhoeddus nad yw Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli'r GIG, dim ond am ei gyllid. Nawr, nid yw hynny'n wir, a dylai Llafur, rwy'n ofni, fod â chywilydd eu bod yn ceisio peintio'r Senedd gyfan hon â brwsh eu methiant eu hunain.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dileu cymal cyntaf cynnig Plaid Cymru, ac wrth wneud hynny, mae'r Llywodraeth wedi methu cydnabod ei rôl ei hun yn goruchwylio'r GIG a'i reoli yn y pen draw. Nawr, yn waeth byth, gweithredoedd fel hynny sy'n bwydo awyrgylch o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth a dryswch cyffredinol ynglŷn â pha feysydd sydd wedi'u datganoli a phwy sy'n rheoli beth. Nawr, rwy'n gorffen yn awr. Efallai nad yw'n ymddangos yn llawer—y cymal 'dileu popeth' gan y Llywodraeth—ond mae gweithredoedd fel hyn yn fwy niweidiol nag y gallwn ei sylweddoli. Mae ymddiriedaeth yn bwysig, a dylem i gyd falio am hynny.
Mae fy nghefnogaeth i gadw adran damweiniau ac achosion brys o dan arweiniad meddyg ymgynghorol 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gyfan gwbl ac yn ddiysgog, a chredaf mai dyna'r unig ddewis ymarferol. Mae'r gymuned rwy'n byw ynddi wedi ei symbylu mewn ffordd nas gwelwyd erioed o'r blaen i frwydro dros y canlyniad hwn, ac rwy'n falch fod yr ymgyrch hefyd yn cael cefnogaeth prif undebau llafur yr ysbytai—Unite, Unsain a'r GMB. Rwyf wedi mynychu cyfarfodydd diweddar y bwrdd iechyd lleol; rwyf wedi siarad yn y ralïau a'r cyfarfodydd cyhoeddus i gefnogi cadw uned damweiniau ac achosion brys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac rwyf hefyd yn falch fod y cynnig a gyflwynais yn y Cynulliad sawl wythnos yn ôl, gyda chefnogaeth fy nghyd-Aelodau a chyda chefnogaeth drawsbleidiol, o blaid cadw'r uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn llwyddiannus, ac wedi'i gefnogi gan bob plaid. Rwyf am ailadrodd y cynnig hwnnw ar gyfer y cofnod, gan ei fod yn galw ar y bwrdd iechyd i ddiystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, neu gael uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol, ac adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn dan arweiniad meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Ar fater mor bwysig â hwn, rwy'n drist fod Plaid Cymru wedi dewis caniatáu 30 munud yn unig ar gyfer dadl, sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar allu Aelodau i gymryd rhan, ac rwy'n gyfyngedig i dri munud. Mae cynnig Plaid Cymru a gyflwynwyd heddiw yn anghywir ac yn gamarweiniol, a dyna pam na fyddaf yn ei gefnogi. Mae'n cyfeirio at ddiddymu penderfyniad gan Lywodraeth Cymru, nad yw erioed wedi bodoli—nid oes dim i'w ddiddymu. Mae hefyd yn galw ar y Gweinidog iechyd i weithredu, rhywbeth na all ei wneud hyd nes bydd y bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad. Nawr, efallai y bydd y sefyllfa honno'n newid, ond dim ond ar ôl i benderfyniad gael ei wneud a dyna pam y caiff fy ymdrechion i gyd hyd nes y daw'r amser hwnnw eu canolbwyntio ar berswadio'r bwrdd iechyd lleol a'i aelodau y dylid cadw uned damweiniau ac achosion brys 24 awr a chredaf ein bod yn ennill y ddadl ac y byddwn yn llwyddo.
Credaf fod y cynnig yn tynnu ein llygad oddi ar y bêl, ac yn dargyfeirio ein ffocws o ble y gwneir y penderfyniad allweddol, a dyna lle byddaf fi a fy nghyd-Aelodau'n canolbwyntio ein cefnogaeth. Fodd bynnag, byddaf yn cefnogi gwelliant 2 a gwelliant 5 y Ceidwadwyr, gan eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig i'r ddadl hon. Yn gyntaf, yn wahanol i gynnig Plaid Cymru, maent yn ailadrodd y cynnig pwysig a basiwyd eisoes gan y Cynulliad hwn—mae hyn yn bwysig.
Yn ail, maent yn tynnu sylw at fater allweddol yr ymgyrch hon, sef methiant y bwrdd iechyd lleol am y saith mlynedd diwethaf i recriwtio meddygon ymgynghorol, ac mewn gwirionedd, y methiant i hysbysebu am feddygon ymgynghorol llawnamser tan yn ddiweddar. Nid oes ryfedd fod yr uned damweiniau ac achosion brys dan fygythiad. Mae ymrwymiad i uned damweiniau ac achosion brys 24 awr parhaol yn hanfodol i allu recriwtio.
Lywydd, mae fy nghyd-Aelodau a minnau'n awyddus iawn ac yn ymrwymedig i sicrhau y bydd uned damweiniau ac achosion brys 24 awr yn cael ei chadw yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar ennill yr ymgyrch hon, a chredaf y gwnawn hynny.
Hoffwn gofnodi unwaith eto fy nghefnogaeth i gael uned damweiniau ac achosion brys lawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae hwn yn bwnc mor bwysig, felly mae'n ddirgelwch i mi, mewn gwirionedd, pam nad yw Plaid Cymru ond wedi defnyddio 30 munud ar gyfer y ddadl hon. Gobeithio nad yw'n ymgais i fygu lleisiau aelodau o feinciau cefn Llafur, sy'n cynrychioli ardaloedd y mae hyn yn effeithio arnynt. Buaswn wedi meddwl y byddent wedi dymuno rhoi mwy o amser ar gyfer trafodaeth lawn a digonol.
Rwyf hefyd yn siomedig oherwydd yn fy meddwl i, nid yw'r cynnig hwn yn un gonest. Mae Plaid Cymru yn gwybod yn iawn fod penderfyniadau ynglŷn â darparu'n lleol yn cael eu gwneud, a bod yn rhaid iddynt gael eu gwneud, gan fyrddau iechyd ar sail ddyddiol. Nawr, efallai y bydd pleidiau eraill yn anghytuno â'r ffordd y mae'r system honno'n gweithio, ac mae hwnnw'n safbwynt cwbl ddilys, ond wedyn mae angen iddynt gyflwyno cynllun i newid y system, yn hytrach na dim ond sgorio pwyntiau.
Nid yw'r cynnig ychwaith yn ystyried y darlun ehangach—
A ydych yn derbyn ymyriad? Na.
—a gafodd sylw yn y gwelliant ychydig wythnosau'n ôl a gyflwynais ar y cyd â Mick Antoniw, Dawn Bowden a Huw Irranca-Davies. Dyna eiriad llawer mwy trwyadl a oedd yn ystyried darpariaeth y gwasanaethau ledled Cwm Taf yn gyfannol ac nid ceisio gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd. Er enghraifft, roedd ein gwelliant yn galw am gadw gwasanaeth uned damweiniau ac achosion brys llawn, nid dim ond yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond hefyd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru ac mae'n hanfodol bwysig fod gennym y geiriad hwnnw wedi'i roi yn y fan honno, fel nad ydym yn gwarchod uned damweiniau ac achosion brys un ysbyty ar draul y llall o bosibl—[Torri ar draws.]
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaiff.
Roedd ein gwelliant hefyd yn galw am welliannau i wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau ac am ymestyn amseroedd agor unedau mân anafiadau, er enghraifft, yn Ysbyty Cwm Cynon—ateb ymarferol i wella perfformiad unedau damweiniau ac achosion brys drwy gael gwared ar rywfaint o'r pwysau.
Felly, i gloi, hoffwn ailadrodd fy nghefnogaeth i wasanaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a chofnodi fy siom fod Plaid Cymru, wrth gyflwyno'r cynnig hwn, wedi dangos nad ydynt am gynnig atebion na syniadau newydd; y cyfan y maent ei eisiau yw sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, ni all y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod yma'n bersonol y prynhawn yma, gan fod ei angen yng nghyfarfod COBRA y DU gyfan mewn perthynas â'n hymateb i coronafeirws, ond rwy'n falch o fod yma i drafod hyn yma heddiw.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod y Gweinidog wedi siarad yn nadl y Ceidwadwyr ar y mater hwn ar 12 Chwefror, ac yn yr un modd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r holl staff ar y rheng flaen y mae llawer o'r Aelodau wedi cyfeirio atynt heddiw, gan eu bod yn gweithio'n ddiflino i ddarparu'r gofal a'r driniaeth sydd ei hangen ar gleifion o ddydd i ddydd.
Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y GIG, ac mae'r ymlyniad cyhoeddus iddo yn parhau i gael ei adlewyrchu yma yn y Siambr, a hynny'n gwbl briodol. Gallwn eich sicrhau chi a'r cyhoedd fod diogelwch ein GIG yn awr ac yn y dyfodol o'r pwys mwyaf. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod diogelwch a thryloywder y gwasanaeth yn hollbwysig. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i egluro, fel y dywedwyd eisoes yma heddiw, ei bod hi'n ofynnol yn statudol i fyrddau iechyd ddarparu gwasanaethau gofal iechyd diogel a chynaliadwy i'w poblogaeth leol. Yn y cyd-destun hwnnw, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar hyn o bryd yn ystyried y model mwyaf priodol ar gyfer darparu gofal brys yn eu hysbytai yn y dyfodol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn bendant.
A ydych chi'n derbyn bod rhaglen de Cymru yn rhwystro'r gwaith o recriwtio meddygon ymgynghorol? Os ydych yn derbyn y pwynt hwnnw, a gredwch y gall y Llywodraeth ymyrryd er mwyn newid hynny?
Ar y pwynt hwn, nid yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â beth fydd ei gynlluniau. [Torri ar draws.] Fe drof at raglen de Cymru yn awr, pan fyddaf yn siarad. Ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Credaf mai dyna'r pwynt pwysig. Mae'n rhaid ei wneud yn lleol, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto.
Felly, i droi at y pwyntiau am ymgysylltu sy'n cael eu gwneud yn y cynnig, nid ydym yn cydnabod y materion a godwyd mewn perthynas ag ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd, ac egwyddorion ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae protocolau clir ar waith sy'n nodi ein disgwyliadau o ran ymgysylltu â'r cyhoedd. Os yw hyn yn benodol i newid ffin Pen-y-bont ar Ogwr, gallaf sicrhau'r Aelodau y bu cryn ymgysylltu, ac felly bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliant 3. Mae'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn cynnal proses ymgysylltu barhaus gyda staff, cynrychiolwyr lleol a'r cyhoedd ar eu cynigion mewn perthynas â'r uned damweiniau ac achosion brys, ac ni fyddai'n briodol i Weinidogion ymyrryd drwy gyfarwyddo neu geisio cyfarwyddo unrhyw fwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth i weithredu gwasanaeth anniogel cyn belled â'i fod yn lleol.
Rydym wedi bod yn glir fod rhaid i'r bwrdd iechyd, mewn unrhyw newid o'r fath, fod yn agored ac yn dryloyw. Gwn fod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal eisoes. Mae'r Gweinidog iechyd hefyd wedi dweud yn glir y dylai'r dystiolaeth sy'n sail i'r cynigion ar gyfer newid a'u heffaith fod ar gael i'r cyhoedd neu dylid esbonio pam na wnaed hynny. Felly, bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 4. Ceir mecanwaith clir ar gyfer uwchgyfeirio pryderon ynglŷn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar newidiadau sylweddol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Hoffwn ailadrodd hefyd na chafodd rhaglen de Cymru ei llunio'n ganolog gan Lywodraeth Cymru. Daeth yn sgil ymgysylltu â dros 500 o glinigwyr rheng flaen sy'n byw, yn gweithio ac yn gwasanaethu cymunedau ar draws de Cymru. Cafodd hyn ei arwain gan y GIG, a hynny'n briodol. Wrth ystyried ffordd ymlaen, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd yn ystyried canlyniad y rhaglen, y newidiadau a wnaed wrth ddarparu gofal iechyd, ac anghenion gofal iechyd y boblogaeth yn yr ardal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol—felly maent yn edrych ar y boblogaeth yn yr ardal yn y dyfodol, fel y nododd Andrew R.T. Davies.
Diolch am dderbyn yr ymyriad, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n derbyn eich bod wedi mynd drwy'r gwelliannau. Yr un gwelliant sylweddol y tynnodd yr Aelod dros Bontypridd sylw ato hefyd yw gwelliant 5, gan mai datganiad ffeithiol yw hwnnw, nad yw'r bwrdd iechyd, dros y 12 mis diwethaf, wedi mynd ati i recriwtio meddygon ymgynghorol i adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rwy'n cymryd y bydd y Llywodraeth yn cefnogi hynny, oherwydd mae hynny'n ffeithiol gywir, fel y cadarnhawyd gan y bwrdd iechyd i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yma yn y Cynulliad. A allech chi gadarnhau hynny? Oherwydd rwy'n sylwi na wnaethoch chi siarad am welliant 5.
Am welliant 5? Rwy'n mynd ymlaen at welliant 5 yn awr.
Felly, rwy'n deall, fel y dywedais, fod y bwrdd iechyd yn ystyried canlyniad y rhaglen, ac maent yn edrych ar y boblogaeth yn yr ardal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, ac wrth gwrs, realiti recriwtio staff. Bydd Aelodau ar draws y Siambr yn gwybod nad yw galw'n syml am roi diwedd ar raglen de Cymru yn ateb y broblem mewn gwirionedd—mae'n osgoi'r broblem. Mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am sicrhau bod ganddo ddigon o staff i ddarparu gwasanaethau diogel i gleifion, ac nid lle Gweinidogion yw ymyrryd mewn materion gweithredol lleol. Bydd y Llywodraeth felly yn ymatal ar welliant 5.
Er fy mod yn deall bod rhai pryderon wedi'u codi ynghylch ymdrechion y bwrdd iechyd i recriwtio, mae'n bwysig inni gydnabod bod y bwrdd iechyd wedi bod wrthi'n recriwtio i sicrhau bod digon o gymorth gan feddygon ymgynghorol, ond mae hynny wedi digwydd drwy ddibyniaeth ar staff locwm, ac yn fwy diweddar, defnyddio rhai meddygon ymgynghorol o Ysbyty Tywysoges Cymru, ond nid yw'n sefyllfa gynaliadwy wrth symud ymlaen. Mae'r Gweinidog iechyd hefyd wedi trafod yn fanwl ac ar nifer o achlysuron yr heriau o ddenu a chadw meddygon ymgynghorol ym maes meddygaeth frys mewn proffesiwn lle ceir prinder ledled y DU. Mae uniongyrchedd y sefyllfa bresennol yng Nghwm Taf Morgannwg wedi codi oherwydd prinder staff, a byddai'n anghywir anwybyddu'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru eisoes yn datblygu strategaeth gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Disgwylir i bedwar meddyg dan hyfforddiant gyflawni eu tystysgrif cwblhau hyfforddiant mewn meddygaeth frys yr haf hwn a chael swyddi fel meddygon ymgynghorol ledled Cymru. Rhwng 2021 a 2025, disgwylir i 62 o feddygon eraill gyflawni eu tystysgrif cwblhau hyfforddiant. Mae'r bwrdd cenedlaethol gofal heb ei drefnu wedi'i sefydlu ac mae wedi adolygu gofynion y gweithlu ar gyfer meddygaeth frys ac ehangu'r gweithlu meddygon ymgynghorol ymhellach, gyda chefnogaeth Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fodd bynnag, nid yw hynny ynddo'i hun yn ateb i holl bryderon yr Aelodau a'r cyhoedd. Nid oes unrhyw atebion hawdd a chyflym.
Gwyddom fod pobl yn poeni'n fawr am ddyfodol ein GIG, a bod pawb yma'n poeni hefyd. Rydym yn disgwyl i'r holl rai sy'n gwneud penderfyniadau yn y GIG wrando ar yr hyn sydd gan y cyhoedd a'u cynrychiolwyr etholedig i'w ddweud, i fod yn agored, yn onest ac yn dryloyw gyda'r cyhoedd a'u staff. Disgwyliwn i'n GIG wneud dewisiadau a darparu gwasanaeth cadarn a diogel.
Bydd y bwrdd iechyd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith archwiliadol sy'n cael ei wneud ar gynigion yn y dyfodol, gan gynnwys yr adborth a gafwyd yn ystod y broses ymgysylltu, yn eu cyfarfod bwrdd cyhoeddus nesaf ar ddiwedd mis Mawrth, lle byddant yn penderfynu ar y camau nesaf. Rwy'n ailadrodd: nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Helen Mary i ymateb i'r ddadl?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi ac i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Ni fydd gennyf amser i ymateb yn llawn i bwyntiau pawb, ond rwyf am ymateb i rai ohonynt.
Hoffwn ddweud wrth Mick Antoniw ac wrth Vikki Howells fy mod yn derbyn yn llwyr fod eu hymrwymiad i'r achos hwn yn ddiffuant, ond os ydynt am gael rhagor o amser i'w drafod, efallai y dylent ofyn i'w Llywodraeth. Nid busnes yr wrthblaid yw neilltuo amser i chi wneud eich pwyntiau. Mater i'r blaid rydych yn ei chynrychioli yw hynny.
Rwy'n ddiolchgar am gywair yr ymateb—[Torri ar draws.] Os oes rhywun yn dymuno ymyrryd, rwy'n fwy na parod i dderbyn ymyriad.
Yn fyr iawn, a bod yn deg â fy nghyd-Aelodau, dadl a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yw hon, ac mae gennych 60 munud i ddadlau; chi wnaeth benderfynu rhoi 30 munud i'r mater, nid y Llywodraeth. Eich penderfyniad chi yw hwn.
Na, fe wnaethom hynny a fy mhwynt i, David, oedd mai mater i ni yw penderfynu hynny ac os yw eich cyd-Aelodau am gael mwy o amser, mae ganddynt gyfleoedd eraill i wneud hynny, ond mater i ni yw sut rydym yn defnyddio'r amser hwnnw. Felly nid wyf am dderbyn unrhyw wersi ar hynny. Ond nid dyna'r prif bwynt.
Mae angen imi gywiro fy nghyd-Aelod, Leanne Wood, oherwydd dywedodd mai fi a ysgrifennodd y ddeddfwriaeth y cyfeiriodd ati. Nid yw hynny'n wir. Cynorthwyais y Gweinidog ar y pryd, Edwina Hart, i ysgrifennu'r ddeddfwriaeth honno, ond gwn beth y mae'n ei gynnwys. Mae'r Llywodraeth naill ai'n gwybod neu dylai wybod bod y ddeddfwriaeth y cyfeirioch chi ati, sef Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, wedi'i diwygio, a digwyddodd hynny yn ystod cyfnod Llywodraeth Cymru'n Un. Rwyf am atgoffa'r Aelodau am gywair y ddadl ar yr adeg y gwnaethom y penderfyniadau hynny. Cafwyd dadl ddilys ynglŷn ag a ddylai'r gwasanaeth iechyd gael ei reoli gan gyrff hyd braich, fel yr hen ymddiriedolaethau, neu a ddylai fod yn uniongyrchol atebol i'r broses ddemocrataidd. Roedd yn ddadl ddilys, a dyfynnaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ar y pryd. Yn ystod y ddadl honno, dywedodd Edwina Hart ei bod yn deall yn iawn yr achos o blaid cyrff hyd braich, sef yr hyn y mae gwelliant y Llywodraeth yn ei awgrymu, ond dyma a ddywedodd: mae angen i'r penderfyniadau am iechyd gael eu gwneud gan y bobl y gall pobl eu diswyddo, sef y gwleidyddion.
Gan fod y broses hon wedi dechrau bellach, nid wyf yn gwadu'r pwynt mai'r adeg y gallai'r Gweinidog ymyrryd o bosibl yw ar ôl gwneud penderfyniad y naill ffordd neu'r llall, ond cyd-destun hyn yw bod Llywodraeth Cymru yn penodi holl gyfarwyddwyr anweithredol y byrddau iechyd. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r gyllideb, Llywodraeth Cymru sy'n gosod y cyd-destun polisi y mae'n gweithredu o'i fewn, ac mae'n gwbl ffuantus i ddweud bod hwn yn fater i'r bwrdd iechyd ar ei ben ei hun. Nid yw hynny'n wir. Mae angen i'r Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb. Dywedodd Leanne Wood fod tuedd i ganoli'r gwasanaethau brys hyn. Os oes angen gwneud hynny, gadewch iddo gael ei wneud, ond gadewch iddo gael ei wneud mewn modd agored a gonest a gadael i'r bobl sy'n gyfrifol ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y penderfyniadau hynny.
Mae pobl wedi gwneud sylwadau yma a thu allan am chwarae gwleidyddiaeth gyda'r GIG. Wel, Ddirprwy Lywydd, mae'r GIG yn bodoli oherwydd gwleidyddiaeth. Mae'r GIG yn benderfyniad gwleidyddol ac ar adeg Llywodraeth Cymru'n Un, gwnaethom ymrwymiad clir iawn i bobl Cymru y byddai'r Llywodraeth, o ba liw bynnag, yn rhoi'r gorau i guddio y tu ôl i'r ymddiriedolaethau lled-annibynnol, ein bod wedi tynnu mecanwaith y farchnad allan ac wedi creu'r byrddau iechyd mwy o faint, ac mae'r byrddau iechyd hynny'n uniongyrchol atebol i'r Llywodraeth. Nawr, gallwch ei wisgo i fyny pa ffordd bynnag y dymunwch, gallwch ddyfynnu deddfwriaeth sydd wedi dyddio os mai dyna rydych chi am ei wneud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n falch o—
Na, mae'n ddrwg gennyf, mae eich amser ar ben.
Rwy'n ymddiheuro, Mick Antoniw; buaswn wedi derbyn yr ymyriad pe bawn i'n gallu.
Chi sy'n atebol, chi sy'n gyfrifol. Os ydych am newid hynny, newidiwch y ddeddfwriaeth, ond peidiwch â chuddio y tu ôl i annibyniaeth y byrddau iechyd nad yw'n bodoli.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.