10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:19, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n siarad yn y ddadl hon oherwydd fy mod yn poeni, os na chedwir yr uned damweiniau ac achosion brys ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn agored fel y mae, y bydd hynny'n effeithio'n negyddol ar nifer o ysbytai eraill, gan gynnwys Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, sydd yn fy rhanbarth i.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, cydnabu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn 2017 fod 60,072 o achosion o gleifion yn mynychu'r uned damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac roedd 63,691 wedi mynychu Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Erbyn 2019, aeth 63,341 o gleifion i Ysbyty'r Tywysog Siarl, ac aeth 64,649 i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, beth y mae'r ffigurau hynny'n ei olygu? Os bydd un o'r unedau damweiniau ac achosion brys hynny'n cau, mae'n amlwg na fydd y degau o filoedd o gleifion sydd angen gofal brys yn gwasgaru neu'n diflannu—rhaid iddynt fynd i rywle arall. Bydd angen iddynt deithio ymhellach, ar fwy o draul iddynt hwy a mwy o berygl i'w hiechyd.