10. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 5:30, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Ar y pwynt hwn, nid yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad eto ynglŷn â beth fydd ei gynlluniau. [Torri ar draws.] Fe drof at raglen de Cymru yn awr, pan fyddaf yn siarad. Ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto. Credaf mai dyna'r pwynt pwysig. Mae'n rhaid ei wneud yn lleol, ond nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto.

Felly, i droi at y pwyntiau am ymgysylltu sy'n cael eu gwneud yn y cynnig, nid ydym yn cydnabod y materion a godwyd mewn perthynas ag ymarferion ailstrwythuro blaenorol byrddau iechyd, ac egwyddorion ymgysylltu â'r cyhoedd. Mae protocolau clir ar waith sy'n nodi ein disgwyliadau o ran ymgysylltu â'r cyhoedd. Os yw hyn yn benodol i newid ffin Pen-y-bont ar Ogwr, gallaf sicrhau'r Aelodau y bu cryn ymgysylltu, ac felly bydd y Llywodraeth yn gwrthwynebu gwelliant 3. Mae'r bwrdd iechyd ar hyn o bryd yn cynnal proses ymgysylltu barhaus gyda staff, cynrychiolwyr lleol a'r cyhoedd ar eu cynigion mewn perthynas â'r uned damweiniau ac achosion brys, ac ni fyddai'n briodol i Weinidogion ymyrryd drwy gyfarwyddo neu geisio cyfarwyddo unrhyw fwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth i weithredu gwasanaeth anniogel cyn belled â'i fod yn lleol.

Rydym wedi bod yn glir fod rhaid i'r bwrdd iechyd, mewn unrhyw newid o'r fath, fod yn agored ac yn dryloyw. Gwn fod nifer o ddigwyddiadau wedi'u cynnal eisoes. Mae'r Gweinidog iechyd hefyd wedi dweud yn glir y dylai'r dystiolaeth sy'n sail i'r cynigion ar gyfer newid a'u heffaith fod ar gael i'r cyhoedd neu dylid esbonio pam na wnaed hynny. Felly, bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 4. Ceir mecanwaith clir ar gyfer uwchgyfeirio pryderon ynglŷn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar newidiadau sylweddol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Hoffwn ailadrodd hefyd na chafodd rhaglen de Cymru ei llunio'n ganolog gan Lywodraeth Cymru. Daeth yn sgil ymgysylltu â dros 500 o glinigwyr rheng flaen sy'n byw, yn gweithio ac yn gwasanaethu cymunedau ar draws de Cymru. Cafodd hyn ei arwain gan y GIG, a hynny'n briodol. Wrth ystyried ffordd ymlaen, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd yn ystyried canlyniad y rhaglen, y newidiadau a wnaed wrth ddarparu gofal iechyd, ac anghenion gofal iechyd y boblogaeth yn yr ardal ar hyn o bryd ac yn y dyfodol—felly maent yn edrych ar y boblogaeth yn yr ardal yn y dyfodol, fel y nododd Andrew R.T. Davies.