Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n falch o allu gwneud y cynnig yma heddiw. Mae o wedi ei gyflwyno a'i ysgrifennu mewn ffordd yr oeddem ni'n gobeithio fuasai'n gallu denu cefnogaeth drawsbleidiol, yn ddigon tebyg i'r ddadl ddiwethaf, mewn difrif. Dwi'n deall bod y Llywodraeth yn bwriadu cefnogi ein cynnig ni hefyd, felly dyma ni heddiw â chyfle i wneud datganiad unedig fel Senedd yn nodi mor bwysig ydy gemau'r chwe gwlad i ni yng Nghymru.
Mae'r cynnig yn dweud y cyfan, mewn difrif: mae chwaraeon yn bwysig i'n hunaniaeth ni fel gwlad; mae angen gwneud chwaraeon mor hygyrch â phosibl; rydan ni wir yn bryderus am yr adroddiadau y gallai pobl Cymru orfod talu i wylio gemau'r chwe gwlad yn y dyfodol; ac yn ofni'r effaith y gallai hynny gael ar ddiddordeb ein pobl ifanc ni yn arbennig yn y gêm.
Mae rygbi yn bwysig iawn i fi yn bersonol, fel i lawer ohonom ni yma. Ar wahân i fod yn falch iawn o chwarae i dîm rygbi y Senedd—a ninnau yng nghanol ein twrnament chwe gwlad ein hunain ar hyn o bryd, ac yn ddi-guro—dwi'n dal i fod yn rhan o'r tîm hyfforddi yn adran iau Clwb Rygbi Llangefni, ac yn cael pleser mawr nid yn unig o dreulio amser yn dysgu'r gêm i fechgyn a merched ifanc, ond hefyd wir yn gwerthfawrogi y rôl mae'r clwb yn ei chwarae o fewn y gymuned. Rydym ni'n mynd drwy gyfnod arbennig o ffyniannus yn y clwb yn Llangefni ar hyn o bryd. Mae yna yn llythrennol gannoedd o chwaraewyr yn yr adran iau ar hyn o bryd, ac mae o'n hyfryd ei weld; does yna ddim digon o le i ni yn y clwb ar hyn o bryd. Mae'n dda gweld rygbi merched a dynion yn tyfu yng Nghaergybi hefyd. Mae'r clwb ym Mhorthaethwy yn dal yn un pwysig iawn.
Ond beth sydd yn creu y diddordeb yna, yn enwedig ymhlith pobl ifanc? Heb os, y gallu i wylio ac edrych i fyny a bod eisiau efelychu eu harwyr, boed hynny'n arwyr yn ddynion neu yn ferched. Yn digwydd bod, mi ofynnais i ar fore dydd Sul i'r hogiau faint o'r tîm dwi'n helpu i'w hyfforddi ar hyn o bryd—tîm o dan 16—faint ohonyn nhw sy'n gwylio rygbi rhyngwladol Cymru. Mi oedd bob un ohonyn nhw yn gwylio—y rhan fwyaf ohonyn nhw yn gwisgo crysau Cymru, ac ati. Mi ofynnais i faint sy'n gwylio gemau clwb yn rheolaidd, un ai ar deledu neu'n gwylio ein tîm cyntaf ein hunain yn Llangefni. Ychydig iawn oedd yn gwneud. Doeddwn i ddim yn hapus iawn am hynny, ac mae hynny yn broblem arall, ond beth roedd eu hymateb nhw yn ddweud wrthym ni oedd mai drwy wylio'r tîm dynion cenedlaethol i'r hogiau yma—Alun Wyn Jones, Dan Biggar, Leigh Halfpenny, yr arwyr yma, a George North, wrth gwrs, i ni yn Ynys Môn yn arbennig—dyna lle mae'r diddordeb yn cael ei greu, ac mae'r un peth yn wir, fel dwi'n dweud, am y ffordd mae sylw i'r tîm merched cenedlaethol yn creu diddordeb yn benodol ymhlith merched ifanc.
Dwi wir yn ofni felly beth fyddai'n digwydd os na fyddai'r gemau yn gallu bod yn rhan annatod a naturiol o'n bywyd diwylliannol ni drwy eu bod nhw'n cael eu darlledu ar deledu am ddim. Does yna erioed deledu Sky wedi bod yn fy nhŷ i—dewis personol ydy hynny—a llawer o bobl heb fodd o fforddio teledu Sky neu fforddio talu am wylio chwaraeon. Dydy mynd i dafarn neu rywle arall tebyg ddim yn gweithio i bawb. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i. Ie.