Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 11 Mawrth 2020.
Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig y prynhawn yma, ac mae gennyf gydymdeimlad mawr â rhinweddau'r cynnig hwn. Fel chithau, nid wyf yn meddu ar deledu Sky o gwbl ac nid wyf erioed wedi ei gael, ond mae model ariannol Undeb Rygbi Cymru yn seiliedig ar rygbi rhyngwladol. Os nad ydynt yn gallu dod â'r refeniw i mewn, beth yw'r dewis arall i sicrhau y gall y gêm ar lawr gwlad a'r gêm broffesiynol yng Nghymru fod yn gystadleuol?