11. Dadl Plaid Cymru: Darllediadau Gemau Rygbi'r Chwe Gwlad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:45, 11 Mawrth 2020

A does dim ond angen edrych ar y ffigurau gwylio, nid ar gyfer gemau penodol, ond faint o bobl yn gyffredinol sy'n gwylio rhywfaint o'r gemau chwe gwlad—82 y cant o boblogaeth Cymru. Mae'r ffigur yn syfrdanol, ac mae'n dangos faint mae'r gêm yma yn treiddio i mewn i'n diwylliant penodol ni yng Nghymru.

Mi allwn i sôn am fater arall sy'n benodol Gymreig hefyd, sef y bygythiad i sylwebaeth darllediadau Cymraeg. Be fyddai'n digwydd i'r rheini yn y dyfodol? Mae darlledu wedi bod yn rhan o greu'r lexicon rygbi yng Nghymru dros y blynyddoedd. Allwn ni ddim fforddio colli hynny. 

Fel y dywedais i'n gynharach, mae criced wedi bod drwy'r profiad yma, a gallwn ni ddim fforddio gweld ein hunain mewn sefyllfa lle y byddem ni'n colli'r access yna i bobl i'r gêm sydd mor bwysig i ni.