11. Dadl Plaid Cymru: Darllediadau Gemau Rygbi'r Chwe Gwlad

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:46, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n dwli ar chwaraeon. Rwyf wrth fy modd yn cymryd rhan mewn chwaraeon a'u gwylio. Rwyf wrth fy modd yn dilyn ac yn gwylio ein timau pêl-droed a rygbi cenedlaethol. Rydym ni yng Nghymru yn dwli ar ein chwaraeon. Mae'n treiddio'n ddwfn i'n seicoleg genedlaethol, ein diwylliant. Pêl-droed—roedd Euro 2016 yn brofiad gwych, ac rwy'n edrych ymlaen at lawer o brofiadau tebyg drwy bêl-droed eto. Ond fel cystadleuaeth flynyddol, mae rhywbeth am y chwe gwlad sy'n ein clymu mewn ffordd nad oes unrhyw beth arall yn ei wneud—y ffigwr anhygoel hwnnw o 82 y cant o bobl yn ei wylio. Ac os ydych yn amddifadu'r boblogaeth o fynediad ato drwy deledu am ddim, nid dim ond rhaglen deledu rydych chi'n ei dwyn oddi wrthynt, ond rhan greiddiol o ddiwylliant ein cenedl, ac rydych yn bygwth iechyd rygbi yn uniongyrchol fel camp i gymryd rhan ynddi. Felly, gadewch inni bleidleisio gyda'n gilydd ar hyn heddiw, a gwneud datganiad clir a diamwys fel ein Senedd genedlaethol.