Part of the debate – Senedd Cymru am 6:12 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw, heddiw.
Daeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer y ddadl fer hon yn sgil cyhoeddi 'The State of the Coalfields 2019'. Roedd yr adroddiad yn ymchwiliad i'r amodau economaidd a chymdeithasol yn hen ardaloedd glofaol Prydain, ac fe'i comisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo, a'i gynhyrchu gan dîm yn y Ganolfan Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Ranbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, sef Christina Beatty, Steve Fothergill a Tony Gore.
Mae'r adroddiad wedi bod yn allweddol wrth lunio strwythur fy nadl heddiw. Wrth gwrs, daw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y ddadl hefyd o ddau ben-blwydd glofaol pwysig eleni. Ym mis Mawrth 2020 mae'n 35 mlynedd ers diwedd streic y glowyr 1984-85, ac mae 2020 hefyd yn nodi 25 mlynedd ers ailagor Glofa'r Twr yn fy etholaeth fel cwmni cydweithredol y gweithwyr: dau ddigwyddiad yn ystod fy oes i a oedd mor allweddol i ffurfio gwleidyddiaeth a hunaniaeth, a hynny i mi'n bersonol ac yn ehangach i lawer o aelodau eraill o fy nghymuned hefyd. Roedd un yn foment o orchfygiad, ond eto'n llawn o ysbryd herfeiddiol; a'r llall yn foment o fuddugoliaeth. Mae'r ddau'n ffactorau ysgogol pwysig sy'n sail i'r ddadl heddiw.
Roedd yr adroddiad ei hun yn ddiweddariad o ddarn o waith a gynhyrchwyd yn 2014. Rwyf wedi sôn am streic y glowyr. Mae'n bwysig cofio bod yr adroddiad gwreiddiol wedi cael ei gyhoeddi i nodi 30 mlynedd ers dechrau'r anghydfod. Y nod oedd cyfleu profiad cymunedau glofaol, archwilio pa mor effeithiol y mae cynlluniau adfywio wedi bod a gofyn, 30 mlynedd yn ddiweddarach, a oedd cymunedau glofaol wedi dal i fyny â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol, a oeddent mewn iechyd economaidd a chymdeithasol da. Wel, gwnaeth adroddiad 2019 yr ymchwil honno'n gyfredol, ac mae fy nghyfraniad i'n ddyledus iawn i'r dystiolaeth y mae'n ei chyflwyno. Cymerwyd gwybodaeth ychwanegol hanfodol o gyfarfod diwethaf y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol a gadeirir gennyf. Rwy'n gobeithio y bydd Dirprwy Weinidog yr economi yn gallu cyfarfod ag ysgrifenyddiaeth y grŵp hwnnw i drafod ei gynnwys yn fanwl.