Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 11 Mawrth 2020.
Roeddwn yn falch o gyflwyno'r achos i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys ddoe y dylid sicrhau bod pecyn cymorth i fusnesau yn y gyllideb hon, ac roeddwn yn falch o weld hwnnw'n cael ei ddarparu. Felly, fel y sonioch chi, bydd rhai pethau ynddo a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn yr argyfwng uniongyrchol. Er enghraifft, bydd y tâl salwch yn cael ei dalu o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 4 ymlaen; mae'r Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi hynny. Ond rwy'n credu bod pethau wedi mynd gam ymhellach heddiw, o ran tâl salwch statudol i bawb sy'n cael eu cynghori i aros gartref hyd yn oed heb symptomau. Bydd hynny'n digwydd, ac rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr. Gall pobl gael y nodyn salwch drwy 111, a bydd pobl yn yr economi gig yn ei chael yn haws cael mynediad at fudd-daliadau; rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, er fy mod yn credu bod angen i ni weld mwy o'r manylion.
Deallaf y bydd y lwfans cyflogaeth a chymorth ar gael o ddiwrnod 1 ymlaen yn hytrach nag o ddiwrnod 8 ymlaen, a bod Llywodraeth y DU hefyd yn dileu'r isafswm incwm ar gyfer credyd cynhwysol dros dro ac yn llacio'r gofyniad i fynychu canolfan waith, felly mae'n bosibl cael cymaint o'r sgyrsiau hynny ar-lein neu dros y ffôn. Rwy'n credu bod hynny i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio, bron, y bydd y rheidrwydd hwnnw'n arwain at gamau i sicrhau bod credyd cynhwysol yn gweithio'n well i bobl, yn enwedig i bobl yng Nghymru.
Gallai cost statudol tâl salwch i fusnesau bach a chanolig eu taro'n galed, felly rwy'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Canghellor heddiw y gall busnesau â llai na 250 o weithwyr hawlio cost tâl salwch yn ôl am hyd at 14 diwrnod, a bydd hwnnw'n cael ei ad-dalu'n llawn. Rwy'n credu bod hwnnw'n fesur pwysig i fusnesau. Roeddwn yn cyflwyno achos ddoe dros weld Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn ehangu'r gwasanaeth Amser i Dalu, ac unwaith eto, roeddwn yn falch o weld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyhoeddiad heddiw.
Mae gan Lywodraeth y DU linell gymorth benodol, a gyhoeddwyd heddiw, ond wrth gwrs, mae honno gennym eisoes drwy Busnes Cymru, sydd yno i gefnogi busnesau yn yr amgylchiadau arbennig hyn.