Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 11 Mawrth 2020.
Ac yn olaf, gan aros gyda'r gyllideb, a chyda'r Canghellor yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn lansio adolygiad sylfaenol o drethi busnes, rydym yn sicr o'r farn ein bod angen adolygiad sylfaenol, a hoffem pe gallem fod wedi symud yn gyflymach yng Nghymru. Rydym wedi cael adolygiad ar ôl adolygiad; rwy'n siŵr y dylai rhai camau fod wedi cael eu cymryd beth amser yn ôl. Fel rhan o'r adolygiad sylfaenol hwnnw, bydd Llywodraeth y DU yn ystyried cynlluniau i ddileu ardrethi busnes a sefydlu treth gwerth tir yn eu lle. Nawr, ar hyn o bryd, mae Plaid Cymru yn edrych ar sut y gallai treth gwerth tir weithio yng Nghymru; mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych ar hyn ers peth amser. Onid yn awr yw'r amser i fanteisio ar y momentwm, i newid y cyd-destun, ac i Lywodraeth y DU gynhesu at y syniad efallai? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar dreth gwerth tir yn fuan?