Tai Gwag

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:37, 11 Mawrth 2020

Ond y gwir amdani yw bod gyda ni o gwmpas 3,000 o dai gwag yng ngogledd Cymru, a rhai ohonyn nhw wedi sefyll yn wag am ddegawd a mwy. Mae hwn yn wastraff adnoddau enfawr iawn, onid yw e? Oherwydd rŷn ni'n gweiddi mas am dai fforddiadwy, ond mae gennym ni filoedd o dai gwag yn y gogledd, ac wedyn dŷn ni'n gweld tai yn cael eu codi ar gaeau gleision ac ar dir sy'n gorlifo yn y gogledd. Felly, yn sicr, mae'n dal i fod yn broblem. Rŷn ni'n gwybod bod y cynllun troi tai yn gartrefi â'r uchelgais o ddod nôl a 5,000 o dai gwag i ddefnydd, ond dwi'n meddwl mai dim ond 98 a lwyddwyd i'w cael nôl i'r sector tai yn y flwyddyn 2018-19. Felly, allwch chi ddweud wrthym ni pa ystyriaeth rŷch chi'n ei rhoi i gymhellion eraill, efallai mwy effeithiol, y gellid eu defnyddio i annog perchnogion tai gwag i fynd i'r afael â'r broblem?