Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Mawrth 2020.
Weinidog, rwy'n gwybod y bydd y coronafeirws wedi effeithio ar unrhyw sgyrsiau rhag-gyllidebol rydych wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU, ond pan oeddech yn cael y trafodaethau hynny, tybed beth oedd eich barn ar y cytundebau sector masnach amrywiol sy'n bwysig i Lywodraeth y DU, ac y gall Cymru elwa'n uniongyrchol ohonynt mewn rhai achosion, yn enwedig cytundeb y sector twristiaeth. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am y sector lletygarwch ychydig yn gynharach. Felly, a allwch ddweud ychydig wrthyf am y sgyrsiau hynny ac a ydych yn disgwyl unrhyw beth yng nghyhoeddiad y gyllideb mewn perthynas ag unrhyw gytundeb sector dur—a oes gennych unrhyw sylw ar hynny? Cwestiwn byr gennyf fi, rwy'n gwybod, ond mae'n bwysig. Diolch.