2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Changhellor y DU cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth y DU? OAQ55234
Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â Gweinidogion Trysorlys y DU ynghylch amrywiaeth o faterion ariannol. Cyn y gyllideb, ysgrifennais at y Canghellor yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer Cymru, gan gynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol ac ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi ein bod, ar ôl 10 mlynedd, wedi gweld cyni yn taro ein cynghorau lleol yn galed iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymdrechion aruthrol i leihau'r effaith y mae cyni San Steffan wedi'i chael ar awdurdodau lleol, ac eto rydym wedi gweld llywodraeth leol yn Lloegr yn dioddef yn barhaus o ganlyniad i'r toriadau yno. Yn y gyllideb hon, nid yw'n gwbl glir eto faint o arian canlyniadol a fydd gennym, os o gwbl, o ganlyniad i'r gyllideb a'r cynnydd i gynghorau lleol yn Lloegr, ond a allwch roi sicrwydd, os daw unrhyw swm canlyniadol yn sgil cynnydd yn y cyllid i awdurdodau yn Lloegr, y bydd hwnnw'n cael ei drosglwyddo'n syth i awdurdodau lleol, oherwydd maent yn wynebu cyfnod anodd? Deallwn fod coronafeirws yn un ymhlith llawer o broblemau eraill. Byddant hefyd yn wynebu heriau o ganlyniad i'r coronafeirws, oherwydd y gwasanaethau—gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol—y maent yn aml yn eu darparu. Mae'n bwysig, felly, ein bod yn eu cefnogi gymaint ag y bo modd. Os daw symiau canlyniadol, hwy a ddylai eu cael.
Fel y mae David Rees yn cydnabod, nid ydym eto wedi deall y darlun llawn o ran lle gallai'r symiau canlyniadol hynny fod. Buaswn yn cynnig un gair o rybudd yn yr ystyr fod symiau canlyniadol yn cael eu rhoi ond maent hefyd yn cael eu tynnu'n ôl, felly mae honno'n ystyriaeth bwysig o ran pryd a sut y caiff arian ei drosglwyddo. Ond wrth inni ddechrau deall y manylion a fydd gennym yn well, yn sicr, bydd cyhoeddiadau pellach i'w gwneud. Rwyf wedi addo y byddaf yn darparu datganiad ysgrifenedig cyn gynted ag sy'n bosibl. Felly, ar ôl y cwestiynau heddiw, rwy'n bwriadu parhau i roi rhagor o wybodaeth i fy nghyd-Aelodau.
O ran y math o ffigurau rydym wedi'u cael—mae angen inni wirio rhai ohonynt, gan nad yw pob un ohonynt yn cyfateb—rydym yn edrych ar oddeutu £122 miliwn o refeniw ac o gwmpas, neu o leiaf, £218 miliwn o gyfalaf. Ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni gofio ein bod wedi cael £100 miliwn o gyfalaf wedi'i dynnu'n ôl oddi wrthym ychydig wythnosau yn ôl, felly bydd yn rhaid i £100 miliwn o'r arian newydd hwnnw heddiw lenwi'r bwlch hwnnw yn y cynlluniau a gyhoeddwyd gennym ac y pleidleisiwyd arnynt ar gyfer y flwyddyn i ddod. Felly, mae rhywfaint o hynny i'w ddeall, ac rydym hefyd wedi cael £3 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Felly, cyn gynted ag y bydd gennym fwy wybodaeth, byddwn yn gallu gwneud rhagor o gyhoeddiadau ar wariant ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Weinidog, rwy'n gwybod y bydd y coronafeirws wedi effeithio ar unrhyw sgyrsiau rhag-gyllidebol rydych wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU, ond pan oeddech yn cael y trafodaethau hynny, tybed beth oedd eich barn ar y cytundebau sector masnach amrywiol sy'n bwysig i Lywodraeth y DU, ac y gall Cymru elwa'n uniongyrchol ohonynt mewn rhai achosion, yn enwedig cytundeb y sector twristiaeth. Rwy'n credu eich bod wedi sôn am y sector lletygarwch ychydig yn gynharach. Felly, a allwch ddweud ychydig wrthyf am y sgyrsiau hynny ac a ydych yn disgwyl unrhyw beth yng nghyhoeddiad y gyllideb mewn perthynas ag unrhyw gytundeb sector dur—a oes gennych unrhyw sylw ar hynny? Cwestiwn byr gennyf fi, rwy'n gwybod, ond mae'n bwysig. Diolch.
Roedd sawl peth yn amlwg drwy eu habsenoldeb, rwy'n credu, yng nghyllideb y Canghellor heddiw, ac un ohonynt oedd unrhyw gyfeiriad at y diwydiant dur. Ni chafwyd unrhyw eglurder ynglŷn â gwariant ar reilffyrdd. Cawsom gyfeiriadau at wariant ar reilffyrdd ym Manceinion, Leeds ac ardaloedd eraill—Darlington—ond dim byd i Gymru. Ac nid oedd unrhyw ymrwymiadau ymchwil a datblygu go iawn i ni yng Nghymru, ac nid oedd yn ddigon uchelgeisiol, yn fy marn i, o ran mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Felly, roedd llawer o bethau a oedd, gobeithio, yn amlwg drwy eu habsenoldeb, ac roedd dur yn un o'r meysydd hynny, ond rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y DU. Felly, er enghraifft, ar ddyfodol y diwydiant modurol, mae hwnnw'n faes sydd o ddiddordeb arbennig i'r ddwy Lywodraeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o awyddus i ddatblygu'r sector hwnnw. Felly, mae Ken Skates yn arwain ar rywfaint o waith ar y ffordd orau o sicrhau bod buddsoddiad a ddaw i'r DU hefyd yn bwydo drwodd i Gymru.