Cymorth Ariannol Brys Llifogydd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 3:07, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Cefais fy nghalonogi gan ymateb y Prif Weinidog ddoe, wrth iddo ddangos parodrwydd i ystyried mabwysiadu cynllun tebyg i'r cynllun cydnerthedd eiddo sy'n weithredol yn Lloegr. Mae'n caniatáu i gartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i ddiogelu rhag llifogydd yn y dyfodol. Eto i gyd, dywedodd Gweinidog yr amgylchedd wrthyf y bore yma na fyddai'r aelwydydd hynny'n cael cynllun tebyg yng Nghymru.

Gofynnais hefyd i Weinidog yr amgylchedd ychydig wythnosau'n ôl am gymorth i gartrefi a busnesau gyda chost ynni—mae dadleithyddion a gwresogyddion diwydiannol, offer hanfodol wrth sychu eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, yn ddrud iawn i'w gweithredu. Dywedodd y byddai'n edrych ar y mater, a dyfynnaf, 

'yn rhan o'n hymateb parhaus'.

A fyddech cystal â rhoi gwybod imi pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal o ran darparu cymorth ariannol, ar gyfer mesurau i wrthsefyll llifogydd yn y cartref, ac i gael cymorth i dalu costau ynni y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer cartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd? Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod llawer iawn o angen yn bodoli, felly a allwch ddweud wrthym pa adnoddau ychwanegol rydych yn eu darparu i ddiwallu'r angen hwnnw?