2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru ar 11 Mawrth 2020.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch mynediad at gymorth ariannol brys i drigolion y mae'r llifogydd diweddar wedi effeithio arnynt? OAQ55202
Bydd cartrefi yr effeithiwyd arnynt yn ystod y stormydd diweddar yn derbyn hyd at £1,000 gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gofyn i'r rheini yr effeithiwyd arnynt i gysylltu â thimau cymorth brys eu hawdurdod lleol yn y lle cyntaf, i sicrhau y gallant gael cymorth cyn gynted â phosibl.
Diolch. Fel rwyf wedi'i ddweud yma droeon, yn dra anffodus cafodd fy etholaeth ei tharo gan storm Ciara ar 9 Chwefror 2020. Cyhoeddwyd cynllun argyfwng ar gyfer rhyddhad ardrethi ar 18 Chwefror, a dywedodd y Prif Weinidog,
'Byddwn yn sicrhau bod cymorth ariannol brys ar gael i bobl sydd â chartrefi wedi eu dinistrio oherwydd y llifogydd ac, yn benodol, yn helpu teuluoedd sydd heb yswiriant.'
Nawr, bedair wythnos yn ddiweddarach, mae nifer o fy etholwyr yn dal i gysylltu â mi i ddweud eu bod wedi llenwi'r ffurflenni priodol ond heb glywed unrhyw beth, ac mewn mis, nid yw hynny'n dda. Felly nid ydynt wedi cael ceiniog. Nawr, ar Sunday Politics, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud bod pawb yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu £500 erbyn hyn. Wel, fel y soniais, mae gennyf nifer nad ydynt wedi'i gael, felly rwy'n credu mai'r hyn rwyf am ei wneud, y tu allan i'r Siambr, yw ysgrifennu atoch yn uniongyrchol gyda manylion y rheini, felly efallai—. Ond a ydych yn ymwybodol o broblem gyda phrosesu'r ffurflenni cais? Ac rwyf wedi codi'r mater gyda'r awdurdod lleol, sy'n dweud, 'Wel, rydym wedi gwneud ein rhan ni.' Maent wedi llenwi'r ffurflenni, rydym wedi eu hanfon, ond mae oedi eithaf hir wedi bod, ac mae gennyf un ddynes hefyd sydd heb gael cynnig y £500. Maent wedi cynnig £80 iddi ond mae wedi dioddef gwerth miloedd o bunnoedd o ddifrod, felly rwy'n poeni rhywfaint am y meini prawf. A wnewch chi edrych ar y prosesau? Oherwydd y cyfan rwy'n gofyn amdano yw rhywfaint o degwch a chydbwysedd i fy etholwyr, fel bod ganddynt rywbeth i'w helpu yn ôl ar eu traed yn dilyn y llifogydd ofnadwy hyn ar 9 Chwefror.
Rwyf finnau'n poeni bod pobl yn aros yn rhy hir i gael eu harian. Caiff y rhan fwyaf o geisiadau i'r gronfa cymorth dewisol eu prosesu o fewn 24 awr, felly dylai unigolion gael yr arian yn eu cyfrifon banc yn gyflym iawn yn wir.
Ar 4 Mawrth, gwn fod 278 o ddyfarniadau £500 wedi'u gwneud, a 266 o ddyfarniadau £1000, sy'n gyfanswm o £405,000. Felly, gwn fod y gronfa cymorth dewisol yn ystyried gwirio hawliadau annibynnol drwy ddefnyddio data a ddarperir gan awdurdodau lleol, felly yr hyn y mae unigolion ei angen, mewn gwirionedd, yw i'r awdurdodau lleol hynny wirio a chadarnhau bod llifogydd wedi effeithio ar y cartrefi unigol hynny, a dylai hynny fod yn ddigon i'r gronfa cymorth dewisol. Felly, yn y lle cyntaf, byddai angen i'r awdurdod lleol gadarnhau i'r gronfa cymorth dewisol fod yr aelwydydd hynny wedi cael eu heffeithio, a dylai hynny wneud i bethau symud yn gynt. Ond wrth gwrs, rwy'n awyddus i roi cymorth os gallaf.
Cefais fy nghalonogi gan ymateb y Prif Weinidog ddoe, wrth iddo ddangos parodrwydd i ystyried mabwysiadu cynllun tebyg i'r cynllun cydnerthedd eiddo sy'n weithredol yn Lloegr. Mae'n caniatáu i gartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd wneud cais am hyd at £5,000 i helpu i ddiogelu rhag llifogydd yn y dyfodol. Eto i gyd, dywedodd Gweinidog yr amgylchedd wrthyf y bore yma na fyddai'r aelwydydd hynny'n cael cynllun tebyg yng Nghymru.
Gofynnais hefyd i Weinidog yr amgylchedd ychydig wythnosau'n ôl am gymorth i gartrefi a busnesau gyda chost ynni—mae dadleithyddion a gwresogyddion diwydiannol, offer hanfodol wrth sychu eiddo sydd wedi dioddef llifogydd, yn ddrud iawn i'w gweithredu. Dywedodd y byddai'n edrych ar y mater, a dyfynnaf,
'yn rhan o'n hymateb parhaus'.
A fyddech cystal â rhoi gwybod imi pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal o ran darparu cymorth ariannol, ar gyfer mesurau i wrthsefyll llifogydd yn y cartref, ac i gael cymorth i dalu costau ynni y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer cartrefi a busnesau sy'n dioddef llifogydd? Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod llawer iawn o angen yn bodoli, felly a allwch ddweud wrthym pa adnoddau ychwanegol rydych yn eu darparu i ddiwallu'r angen hwnnw?
Wel, rwyf wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â llifogydd, felly ni fyddwch yn gweld cyhoeddiadau sy'n ymwneud yn benodol â Chymru yn y gyllideb ar gyfer llifogydd heddiw. Yr hyn a welwch yw cyhoeddiad o £120 miliwn am atgyweiriadau a £200 miliwn yn uniongyrchol i gymunedau lleol ar gyfer gwrthsefyll llifogydd. Nawr, nid ydym yn deall eto faint o arian canlyniadol a allai ddeillio o hynny, ond rydym wedi bod yn glir iawn mai ein hystyriaeth gyntaf, a'r un bwysicaf i ni, oedd mynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol, ac yna, wrth gwrs, bydd gwaith parhaus yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau cydnerthedd cymunedol yn y dyfodol.
Rwy'n gobeithio y bydd arian ychwanegol, ar ben yr hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi yn y gyllideb heddiw, yn dod i Gymru. Dyna'n sicr y drafodaeth rydym wedi gallu ei chael gyda Llywodraeth y DU, ac maent wedi cydnabod bod y sefyllfa yma yng Nghymru yn anarferol, er fy mod yn siomedig na chlywais Gymru'n cael ei chrybwyll yn y rhestr o leoedd yr effeithiwyd arnynt yn natganiad y Canghellor heddiw.
Ond gallai'r rhain fod yn faterion y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn eu blaenoriaethu yn y dyfodol, ond nid ydym wedi cyrraedd man lle rydym yn trafod materion mwy hirdymor, felly bydd y rhain yn drafodaethau rwyf eto i'w cael, er y gallai'r Gweinidog fod yn cael y trafodaethau hynny gyda'i swyddogion.
Drefnydd, tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y sefyllfa mewn perthynas ag ariannu problemau seilwaith mawr? Rwy'n gwybod bod Llywodraeth y DU wedi codi mater anfon manylion ac yn y blaen, ond wrth gwrs, mae llawer o'r difrod i'r seilwaith, mae rhywfaint ohono o dan ddŵr, mae rhywfaint ohono'n anhygyrch ac yn y blaen, ond yn sicr mae Rhondda Cynon Taf yn defnyddio llawer o'i chronfeydd wrth gefn i wneud y gwaith hwnnw, ac yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth hefyd. Ond y peth allweddol yw bod yr arian y dywedwyd wrthym ar lefel Llywodraeth y DU y byddai'n cael ei drosglwyddo i Gymru yn eithaf hanfodol yn awr, o ran yr ymrwymiad, beth bynnag yw lefel y difrod i'r seilwaith, ein bod yn gwybod y bydd yr arian ychwanegol hwnnw gan Lywodraeth y DU yn mynd tuag at y problemau strwythurol mawr hynny. A fu unrhyw drafodaethau pellach? A oes unrhyw awgrym y bydd sicrwydd y bydd yr arian sydd ei angen arnom yn dod i ni pan fyddwn ei angen er mwyn gwneud y gwaith ailadeiladu ac ac atgyweirio ar y seilwaith?
Wel, ymrwymodd Prif Weinidog y DU i roi cyllid i Gymru i'n helpu i fynd i'r afael â'r llifogydd, ac yn sicr, byddwn yn ei ddal at ei air. Mae Mick Antoniw yn hollol gywir i ddweud nad ydym yn gwybod eto beth yw maint yr her sydd o'n blaenau, o ran y gwaith adfer, gan fod cymaint o'r gwaith tirfesur strwythurol angen ei wneud o hyd. Mae llawer o'r mannau y mae angen eu harolygu yn anhygyrch ar hyn o bryd. Felly, mae llawer o waith i'w wneud ar asesu a deall yr hyn y gallai'r ffigur fod yn y dyfodol.
Rydym wedi gadael i Lywodraeth y DU wybod ein bod yn sôn mae'n debyg am gannoedd o filiynau, yn hytrach na degau o filiynau. Rwy'n gwybod fy mod wedi clywed ffigurau o gwmpas £180 miliwn, ond mae awdurdodau lleol yn casglu gwybodaeth bellach drwy'r amser. Felly, nid wyf yn credu y byddwn yn deall yr effaith lawn am fisoedd o ran y gwariant ar waith adfer, ond yn sicr, byddwn yn dal y Prif Weinidog at ei air.