Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 11 Mawrth 2020.
Weinidog, fel Llyr, roeddwn yn edrych ar y data ar gyfer 2018-19, ac mae'n eithaf siomedig. Mae'n faes heriol—cartrefi gwag yn y sector preifat a gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu gwahanol fecanweithiau ariannol i sicrhau bod rhai o'r cartrefi hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto—ond mae perfformiad yn amrywio. Mae Ynys Môn wedi sicrhau bod 12 y cant o'u heiddo preifat gwag yn cael ei ddefnyddio unwaith eto; 1.6 y cant yng Nghonwy; 8.6 y cant yn Sir Ddinbych; a 5.6 y cant yn Wrecsam. Felly mae cryn amrywiaeth yno, ac rwy'n gobeithio y bydd yr arferion gorau'n cael eu gwella ymhellach ac yna'n cael eu mabwysiadu gan yr awdurdodau eraill.