Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod

Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:24, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ymateb. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y gallem fod yn wynebu sefyllfa, o gofio natur y Llywodraeth ar ben arall yr M4 a'r pwysau yno i ddadreoleiddio, a'r hyn y byddai llawer ohonom yn pryderu yn ei gylch o ran diffyg ymrwymiad posibl i gydraddoldeb, lle mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gydraddoldeb a Deddf Cydraddoldeb 2010—gallem ei gweld yn cael ei diwygio mewn ffordd na fyddai llawer ohonom yn ei hoffi? A yw'n cytuno â mi hefyd mai un llwybr y gallem ei ddewis yng Nghymru i ddarparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer materion cydraddoldeb, ac yn enwedig yn yr achos hwn, ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, fyddai ymgorffori confensiynau priodol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru? Roeddwn yn falch iawn o'i glywed yn sôn am yr ymchwil, ac rwy'n meddwl tybed a all roi awgrym y prynhawn yma—gwn nad yw wedi'i gomisiynu'n uniongyrchol—pryd y bydd y gwaith ymchwil hwnnw wedi'i gwblhau a phryd y gallai fod yn briodol ei rannu â'r Cynulliad hwn a'r pwyllgorau priodol.