Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 11 Mawrth 2020.
Yn sicr. Wel, mae'n cyfeirio at Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, sydd i bob pwrpas, wrth gwrs, yn Fil hawliau rhyngwladol i fenywod ac yn ymgorffori'r egwyddorion cydraddoldeb y byddem yn dymuno eu gweld yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo. A byddem yn gwrthwynebu'n sylfaenol unrhyw ymgais i wanhau'r Ddeddf Cydraddoldeb.
Rydym wedi ceisio sicrhau, wrth edrych ar gwestiynau'n ymwneud â chonfensiynau, ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd gyfannol. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod ei hun, a'r ystyriaethau a ddeilliodd o'r archwiliad ar ei gydymffurfiad ym mis Chwefror y llynedd—lle roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gysylltiedig er mwyn gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru a materion Cymreig yn cael eu cynrychioli a'u codi'n uniongyrchol yn ystod y broses archwilio honno—mae'r ystyriaethau hynny wedi cyfrannu'n uniongyrchol at yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, ac mae'r casgliadau interim wedi'u hystyried gan y Cabinet. Ond mewn perthynas â'r gwaith ymchwil y mae'n cyfeirio ato, deallaf y bwriedir i hynny fod wedi dod i ben erbyn diwedd y flwyddyn hon, fel bod ei gasgliadau ar gael yn ystod tymor y Cynulliad hwn, yn ôl yr hyn a ddeallaf.