Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch. Wrth gwrs, o ran llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, yn ystod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni, dywedodd Albert Heaney, cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol ac integreiddio Llywodraeth Cymru, fod y farnwriaeth yn ystyried eu bod yn gadarnhaol iawn, ac yn ddull da o weithredu a all fod o gymorth mawr i deuluoedd. Yn yr un modd, fis Hydref diwethaf, galwodd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru am sefydlu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru ar unwaith. Fel y dywedais o'r blaen, credaf fod y dystiolaeth yn dangos y gallai creu llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd yng Nghymru fod er budd gorau plant a rhieni, ac mae'n debygol iawn fod hynny'n wir. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae argymhelliad y Comisiwn ar Gyfiawnder yn cael ei ddatblygu?