Part of 3. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 11 Mawrth 2020.
Wel, rydym yn cytuno â'r argymhelliad i sefydlu'r llysoedd, fel y dywedais yn fy ateb cynharach. Mae swyddogion wedi dechrau gweithio yn y maes hwn drwy drafodaethau am yr argymhelliad penodol hwnnw, yn fwyaf diweddar yng nghyfarfodydd y rhwydwaith cyfiawnder teuluol ym mis Tachwedd y llynedd, ac eto ar 4 Mawrth eleni. Mae llywydd yr adran deulu, fel y nododd yn ei chwestiwn rwy'n credu, wedi datgan ei fod yn gryf o blaid llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, gan eu bod yn cyd-fynd yn dda â'r ddeddfwriaeth llesiant sydd gennym yng Nghymru, ac yn cynrychioli'r ymagwedd ataliol honno yn sylfaenol yn hytrach na dull cosbol. Yn y cyfarfod o'r rhwydwaith cyfiawnder teuluol ar 4 Mawrth, cafwyd cyflwyniad am swyddogaethau ac effeithiolrwydd y llysoedd cyffuriau ac alcohol i deuluoedd, a chytunwyd y byddai awdurdodau lleol yn ystyried cynllun peilot mewn perthynas â'r mater hwnnw.