Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 11 Mawrth 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fy nghais fyddai, o gofio bod gennym strategaeth ryngwladol yn awr sy'n edrych ar ein cysylltiadau â rhanbarthau eraill sydd â chysylltiadau Celtaidd—Gwlad y Basg, Catalwnia, ac ati—a allwn edrych o bryd i'w gilydd ar chwifio'r baneri hynny, fel y gwnaethom heddiw, ar sail fwy rheolaidd o lawer, ac rwy'n adleisio'r hyn y mae Neil Hamilton newydd ei ddweud, gan y credaf y byddai hynny'n arwydd da o'r ffaith bod Cymru yn genedl sy'n edrych tuag allan.