Baneri ar Ystâd y Cynulliad

Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 3:32, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch iawn o weld baner Catalonia yn chwifio heddiw, ond ar sail fwy rheolaidd, tybed a allem barhau i chwifio baner y Gymanwlad, a welais yn gynharach yn yr wythnos. Rydym wedi bod yn aelodau o'r Gymanwlad, yn amlwg, ers ei sefydlu. Mae ganddi 54 aelod-wladwriaeth, mae iddi 11 miliwn milltir sgwâr o dir, mae’n ymestyn dros bob un o'r chwe chyfandir cyfannedd, mae’n cynnwys 20 y cant o dir y byd ac mae ganddi boblogaeth o 2.4 biliwn o bobl. Mae’r datganiad a wnaed yn Llundain a sefydlodd aelod-wladwriaethau’r Gymanwlad fel rhai cyfartal a rhydd yn 1949 yn datgan mai democratiaeth, hawliau dynol a rheolaeth y gyfraith yw ei gwerthoedd, gwerthoedd y dylai pob cymdeithas flaengar eu cynnal a’u hamddiffyn yn yr unfed ganrif ar hugain. Ac wrth gwrs, mae'r Frenhines wedi llywyddu drosti fel pennaeth y Gymanwlad am 68 mlynedd. Felly, tybed a allai'r Llywydd ddweud wrthym a wnaiff y Comisiwn edrych yn ffafriol ar y cais hwn naill ai i chwifio baner y Gymanwlad yn barhaol, yn amodol ar achlysuron arbennig fel heddiw, neu faneri unigol gwledydd y Gymanwlad?