8. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Archwiliad cyfle cyfartal

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 11 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:18, 11 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn, a dweud hefyd fy mod yn croesawu'r ddadl hon ar sut y gallwn wella ac annog cyfle cyfartal, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sector preifat yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus rydym yn canolbwyntio arnynt mor aml, gan fod cysylltiad clir rhwng hyn a'n dull ehangach o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Gwyddom fod cyfleoedd gwell a thecach i bawb, ym mhob rhan o economi Cymru—. Fe gyfeirioch chi, wrth gwrs, at y Comisiwn Gwaith Teg, ac rydym yn gweithredu yn unol â’r argymhellion. Mae sicrhau gwaith teg yn rhan ganolog o'n rhaglen bolisi. Gwyddom, wrth gwrs, mai cymdeithas decach lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu a lle gall pobl gymryd rhan, ffynnu a chyflawni eu potensial, yw'r gymdeithas a'r economi rydym am eu gweld.

Felly, mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hintegreiddio a'u prif ffrydio ym mhob un o chwe nodwedd gwaith teg, ond byddai'n rhaid rhoi sylw i wahanol ddulliau—ac rydych wedi cydnabod hyn, Helen Mary—wrth ystyried cyd-destun y sector, ac er enghraifft, maint y cyflogwyr a sut y gallent ymgysylltu. Ond rwy'n deall galwad Helen Mary Jones i edrych ar, ac i ystyried deddfwriaeth ynglŷn â sut i sicrhau y gallai cwmnïau sy'n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru symud ymlaen wedyn drwy ddarparu archwiliad cyfle cyfartal a fydd yn ddefnyddiol ac yn adeiladol iddynt.

Byddwn bob amser yn ystyried deddfwriaeth lle mae gennym bwerau i wneud hynny, ond credaf ei bod yn iawn eich bod wedi canolbwyntio hefyd ar y ffaith bod gennym ddulliau eraill. Mae gennym ysgogiadau caffael a grantiau anneddfwriaethol, a all hybu newid. Rydym yn ceisio hybu’r newid hwnnw drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau, ond hefyd gydag undebau llafur a chyrff cyhoeddus, i sicrhau bod polisi'r Llywodraeth yn gweithio fel bod pawb yn cael budd ohono.

Gwyddom fod trefniadau partneriaethau cymdeithasol symlach a chryfach yn cyflawni'r uchelgais honno am ganlyniadau gwell a chyson, ac maent yn sicrhau bod gweithwyr Cymru ym mhob sector yn yr economi yn rhannu twf economaidd, ond yn bwysicaf oll, yn rhannu tegwch yn y gweithle.

Mewn gwirionedd, mae undebau llafur, wrth gwrs, drwy gydfargeinio, wedi bod yn hanfodol wrth hybu llawer o gydraddoldebau yn y gweithle. Mae rhai cyflogwyr hefyd yn cydnabod manteision gweithlu amrywiol ymroddgar sy'n cael eu gwobrwyo'n deg. Felly, mae rhan o'n gwaith yn gweithredu 'Gwaith Teg Cymru' yn cynnwys cwmpasu sut, er enghraifft, y gallem gynnwys amodau ar waith teg a chydraddoldeb mewn cytundebau cyllido.

Mae gennym eisoes allu i atodi ystod o amodau ychwanegol i grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol. Mae’n rhaid i ni daro cydbwysedd, wrth gwrs, o ran yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae'n ymwneud â datblygu dull lle mae cyflogwyr yn cofleidio'r newid hwnnw i gyflawni gwaith teg a gwell canlyniadau cydraddoldeb. Dyna lle mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth, reoli'r broses hon.

Felly, rydym wedi derbyn y chwe argymhelliad blaenoriaethol yn 'Gwaith Teg Cymru', rydym wedi derbyn rhai eraill mewn egwyddor, ac rydym wedi cychwyn ar ein taith i ddod yn genedl gwaith teg. Ond hoffwn ddweud heddiw hefyd fod hyn ochr yn ochr â chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i gymdeithas decach, lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu.

Y bore yma, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau. Rwy'n falch o gael cyfle i ddweud wrth yr Aelodau am edrych ar y datganiad, gan ei fod yn ymwneud â dyddiad cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein holl gyrff cyhoeddus yn gwbl barod ar gyfer hyn, ac y byddant yn ymgysylltu â phartneriaid wrth ddatblygu'r canllawiau. Rydym wedi cael ymgynghoriad da. Bydd y ddyletswydd yn cael ei rhoi mewn grym ar 29 Medi eleni.

Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn bwysig inni edrych ar draws yr elfennau cydraddoldeb. Felly, fis Medi diwethaf, cyhoeddais 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol—Fframwaith a Chynllun Gweithredu', ac mae hwnnw'n galw am weithredu ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth, gan gynnwys datblygu economaidd. Ddoe, cyhoeddais y 'Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yng Nghymru', a ddeilliodd o adolygiad rhywedd Chwarae Teg. Mae'n nodi meysydd blaenoriaethol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb o ran canlyniadau.

Credaf fod y contract economaidd yn allweddol i hyn oll, yn enwedig mewn perthynas â'r ysgogiadau sydd gennym, gan ei fod yn offeryn go iawn ar gyfer newid. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i'r contract economaidd sicrhau bod busnesau'n gwneud newidiadau ac yn dangos ymddygiad busnes cyfrifol. Mae gennym lawer iawn o gymell tawel, ond mae a wnelo hyn â sut rydym yn symud ymlaen, pryd y bydd angen inni ddeddfu a sut y gallwn ystyried tystiolaeth.

Felly, yn olaf, hoffwn ddweud fy mod o'r farn, yn enwedig yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd y gwaith pwysig a wnawn o ran ymchwil ar opsiynau ehangach i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yn ein helpu i gael y dystiolaeth i weld a oes angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cynnig deddfwriaethol hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac Aelodau eraill i fwrw ymlaen â hyn.