– Senedd Cymru am 4:12 pm ar 11 Mawrth 2020.
Eitem 8 y prynhawn yma yw’r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: archwiliad cyfle cyfartal. Galwaf ar Helen Mary Jones i gyflwyno'r cynnig—Helen.
Cynnig NDM7247 Helen Mary Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i ddarparu archwiliad cyfle cyfartal ar gyfer cwmnïau sy'n cael grantiau Llywodraeth Cymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gwella ac annog cyfle cyfartal yn y sector preifat yng Nghymru; a
b) adeiladu ar ganfyddiadau Gwaith Teg Cymru: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Bwriad y cynnig hwn yw bod yn gyfraniad adeiladol at y ddadl ynglŷn â beth fydd yn digwydd i bolisi cydraddoldeb yma yng Nghymru ar ôl Brexit. Ar y meinciau hyn, credwn y dylid datganoli pob agwedd ar gyfraith cydraddoldeb, ond rydym yn ddigon realistig i ddeall, o ystyried natur y Llywodraeth ar ben arall yr M4 ar hyn o bryd, ein bod yn annhebygol o gael y datganoli hwnnw, fel y byddai llawer ohonom yn dymuno’i weld rwy'n siŵr, yn y tymor byr. Rydym yn llwyr gefnogi datganoli llawn a diamwys, ond os nad yw hynny'n mynd i ddigwydd, mae angen inni feddwl beth y gallwn ei wneud yma yng Nghymru o fewn y pwerau sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd.
Credaf fod llawer ohonom o’r farn ein bod yn debygol o weld newidiadau mawr yn yr amgylchedd cydraddoldeb ar lefel y DU neu Brydain. Ceir elfennau o'r Llywodraeth bresennol yn San Steffan sy'n wrthwynebus iawn i reoleiddio, a golyga hynny fod rhai ohonynt, yn fy marn i, yn wrthwynebus i gydraddoldeb. Mae’n rhaid i mi ddweud yn glir, Ddirprwy Lywydd, nad wyf yn awgrymu bod hynny'n wir am feinciau'r Ceidwadwyr yma; mae gennym hyrwyddwyr cydraddoldeb gwych ar feinciau'r Ceidwadwyr, a gwelaf Suzy Davies a Mark Isherwood yma, a cheir llawer o rai eraill. Ond mae'r duedd honno’n bodoli ar lefel y DU. Oni ddefnyddiwyd hynny fel cyfiawnhad dros Brexit—y byddai modd codi beichiau honedig oddi ar fusnes yn y DU? Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi nad yw hynny'n rhywbeth y byddem yn dymuno’i weld, ond os yw'n mynd i ddigwydd, mae llawer o strwythur ein gweithgarwch yma yng Nghymru o ran hyrwyddo cydraddoldeb wedi'i seilio ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb Prydain fel y mae ar hyn o bryd, ac os bydd hynny’n cael ei golli, bydd angen i ni roi camau ar waith yma. Rydym wedi sôn am nifer o ddewisiadau amgen—er enghraifft, ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru.
Rwy'n siŵr nad oes angen i mi nodi bod gennym broblem o ran cydraddoldeb a chyflogaeth yng Nghymru. Gwyddom fod menywod, yn draddodiadol, yn gwneud gwaith am gyflogau isel, gwaith ansicr, gwaith rhan-amser, a hoffwn dalu teyrnged i sefydliad Chwarae Teg, sy’n agos iawn at galon y Dirprwy Weinidog, rwy’n gwybod, am y gwaith y maent wedi'i wneud yn dangos inni beth y mae hynny'n ei gostio i'r economi—nid yn unig yr hyn y mae'n ei gostio i'r menywod unigol, ond beth y mae'n ei gostio i'r economi. Gwyddom, er enghraifft, fod mynediad pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig at swyddi rheoli o ansawdd uchel yma yng Nghymru yn wael iawn, a bod y rhan honno o'r boblogaeth yn fwy tebygol nag unrhyw un arall o fod wedi gor-gymhwyso ar gyfer y swyddi a wnânt. Gwyddom fod 46 y cant o bobl anabl yng Nghymru mewn cyflogaeth o gymharu â 78 y cant o'r boblogaeth gyfan, ac rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom o’r farn fod hon yn sefyllfa foddhaol.
Pan fydd Llywodraeth Cymru yn rhoi contractau neu'n rhoi grantiau, mae gennym ganllawiau cryf ar hyn o bryd. Rwy’n cydnabod bod y canllawiau eu hunain yn dda. Mae gennyf rai cwestiynau ynglŷn â pha mor effeithiol y cânt eu defnyddio, a phan fydd busnes yn gwneud ymrwymiadau, fod hynny’n cael ei wirio a bod yr ymrwymiadau ar bapur yn cael eu gwirio i weld a ydynt yn cael eu cyflawni. Ond mae'r holl ganllawiau hynny, neu'r rhan helaeth o'r canllawiau hynny, er bod elfennau, er enghraifft, sy'n dod o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn dod o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Os yw'r Ddeddf Cydraddoldeb yn cael ei diwygio a'i glastwreiddio, bydd angen edrych eto ar y canllawiau hynny.
Credaf y byddai'n iawn rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i’r gofynion hynny fel na all fod unrhyw amheuaeth ynglŷn â'r hyn sy'n ofynnol. Felly, gallai'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon ddarparu ar gyfer: archwiliadau cydraddoldeb cyn contract; ymrwymiadau cydraddoldeb rhwymol penodol wedi'u teilwra i ba bynnag fusnes ydoedd yn rhan o’r broses gontractio; yn hollbwysig, monitro cydraddoldeb yn ystod cyfnod y grant hwnnw neu'r trefniant busnes hwnnw; a chosbau os na chyflawnir yr ymrwymiadau cydraddoldeb hynny heb reswm da. Weithiau, wrth gwrs, bydd rhesymau da pam nad ydynt yn cael eu cyflawni, ond os nad ydynt yn cael eu cyflawni heb reswm, yna dylai fod cosb. Wrth gwrs, byddai angen i'r gofynion hyn fod yn rhesymol ac yn gymesur, gan ddibynnu ar raddfa'r buddsoddiad a maint y sefydliad, ond dylent fod yn berthnasol i bawb, yn fy marn i.
Nawr, mae'r cynnig hwn yn adeiladu, wrth gwrs, ar waith y Comisiwn Gwaith Teg, sy’n galw, wrth gwrs, ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu yn rhai o'r meysydd hyn. Dylwn ddweud, Ddirprwy Lywydd, na chredaf fy mod wedi geirio'r cynnig yn berffaith, oherwydd yn fy marn i, dylai'r dull deddfwriaethol hwn fod yn berthnasol i holl grantiau, benthyciadau a chontractau caffael Llywodraeth Cymru, a gellid ymestyn y ddeddfwriaeth i gynnwys y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y sector iechyd, llywodraeth leol, ac ati. Gellid ymestyn yr un dull hefyd i gynnwys sefydliadau trydydd sector sy'n contractio gyda’r sector cyhoeddus yng Nghymru, neu'n derbyn grantiau ganddo.
Ni fuaswn am roi'r argraff, Ddirprwy Lywydd, ein bod am osod beichiau anghymesur, ond er y gall pob un ohonom fod yn falch fod llai o'n dinasyddion allan o waith bellach, rwy'n siŵr y dylai pob un ohonom bryderu bod cymaint o ansawdd y gwaith hwnnw'n wael. Mae'n waith cyflog isel, mae'n waith ar gontractau dim oriau, mae'n waith ansicr. Gwn y bydd Llywodraeth Cymru yn cytuno â ni ar y meinciau hyn nad yw hynny'n ddigon da, ac nid yw'r cyfyngiadau ar fynediad y rheini sy'n cael cyfleoedd rhag cael cyfleoedd gwell yn ddigon da chwaith. Ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, buom yn trafod yr anghydbwysedd sylweddol rhwng nifer y dynion a'r menywod sy'n ymgymryd â gradd-brentisiaethau, er enghraifft, a sut y gellir mynd i’r afael â hynny. Rwy'n gobeithio, Ddirprwy Lywydd, y gall pob un ohonom gytuno na ddylid gwario arian cyhoeddus Cymru mewn ffyrdd sy’n caniatáu i anghyfiawnder neu anghydraddoldeb barhau, a buaswn yn gofyn i’r Aelodau gefnogi’r cynnig hwn heddiw i'w gwneud hi'm bosibl archwilio ymhellach. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau’r Aelodau i'r ddadl, ac at ymateb.
Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar gyfer y ddadl, felly rwyf am fynd yn syth at y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Helen Mary Jones am gyflwyno'r cynnig hwn, a dweud hefyd fy mod yn croesawu'r ddadl hon ar sut y gallwn wella ac annog cyfle cyfartal, yn enwedig wrth fynd i'r afael â'r sector preifat yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus rydym yn canolbwyntio arnynt mor aml, gan fod cysylltiad clir rhwng hyn a'n dull ehangach o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. Gwyddom fod cyfleoedd gwell a thecach i bawb, ym mhob rhan o economi Cymru—. Fe gyfeirioch chi, wrth gwrs, at y Comisiwn Gwaith Teg, ac rydym yn gweithredu yn unol â’r argymhellion. Mae sicrhau gwaith teg yn rhan ganolog o'n rhaglen bolisi. Gwyddom, wrth gwrs, mai cymdeithas decach lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu a lle gall pobl gymryd rhan, ffynnu a chyflawni eu potensial, yw'r gymdeithas a'r economi rydym am eu gweld.
Felly, mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hintegreiddio a'u prif ffrydio ym mhob un o chwe nodwedd gwaith teg, ond byddai'n rhaid rhoi sylw i wahanol ddulliau—ac rydych wedi cydnabod hyn, Helen Mary—wrth ystyried cyd-destun y sector, ac er enghraifft, maint y cyflogwyr a sut y gallent ymgysylltu. Ond rwy'n deall galwad Helen Mary Jones i edrych ar, ac i ystyried deddfwriaeth ynglŷn â sut i sicrhau y gallai cwmnïau sy'n derbyn grantiau Llywodraeth Cymru symud ymlaen wedyn drwy ddarparu archwiliad cyfle cyfartal a fydd yn ddefnyddiol ac yn adeiladol iddynt.
Byddwn bob amser yn ystyried deddfwriaeth lle mae gennym bwerau i wneud hynny, ond credaf ei bod yn iawn eich bod wedi canolbwyntio hefyd ar y ffaith bod gennym ddulliau eraill. Mae gennym ysgogiadau caffael a grantiau anneddfwriaethol, a all hybu newid. Rydym yn ceisio hybu’r newid hwnnw drwy weithio mewn partneriaeth â busnesau, ond hefyd gydag undebau llafur a chyrff cyhoeddus, i sicrhau bod polisi'r Llywodraeth yn gweithio fel bod pawb yn cael budd ohono.
Gwyddom fod trefniadau partneriaethau cymdeithasol symlach a chryfach yn cyflawni'r uchelgais honno am ganlyniadau gwell a chyson, ac maent yn sicrhau bod gweithwyr Cymru ym mhob sector yn yr economi yn rhannu twf economaidd, ond yn bwysicaf oll, yn rhannu tegwch yn y gweithle.
Mewn gwirionedd, mae undebau llafur, wrth gwrs, drwy gydfargeinio, wedi bod yn hanfodol wrth hybu llawer o gydraddoldebau yn y gweithle. Mae rhai cyflogwyr hefyd yn cydnabod manteision gweithlu amrywiol ymroddgar sy'n cael eu gwobrwyo'n deg. Felly, mae rhan o'n gwaith yn gweithredu 'Gwaith Teg Cymru' yn cynnwys cwmpasu sut, er enghraifft, y gallem gynnwys amodau ar waith teg a chydraddoldeb mewn cytundebau cyllido.
Mae gennym eisoes allu i atodi ystod o amodau ychwanegol i grantiau a mathau eraill o gymorth ariannol. Mae’n rhaid i ni daro cydbwysedd, wrth gwrs, o ran yr hyn y byddai hynny'n ei olygu. Mae'n ymwneud â datblygu dull lle mae cyflogwyr yn cofleidio'r newid hwnnw i gyflawni gwaith teg a gwell canlyniadau cydraddoldeb. Dyna lle mae'n rhaid i ni, fel Llywodraeth, reoli'r broses hon.
Felly, rydym wedi derbyn y chwe argymhelliad blaenoriaethol yn 'Gwaith Teg Cymru', rydym wedi derbyn rhai eraill mewn egwyddor, ac rydym wedi cychwyn ar ein taith i ddod yn genedl gwaith teg. Ond hoffwn ddweud heddiw hefyd fod hyn ochr yn ochr â chychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol sy'n tanlinellu ein hymrwymiad i gymdeithas decach, lle mae amrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi a'i pharchu.
Y bore yma, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau. Rwy'n falch o gael cyfle i ddweud wrth yr Aelodau am edrych ar y datganiad, gan ei fod yn ymwneud â dyddiad cychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein holl gyrff cyhoeddus yn gwbl barod ar gyfer hyn, ac y byddant yn ymgysylltu â phartneriaid wrth ddatblygu'r canllawiau. Rydym wedi cael ymgynghoriad da. Bydd y ddyletswydd yn cael ei rhoi mewn grym ar 29 Medi eleni.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod yn bwysig inni edrych ar draws yr elfennau cydraddoldeb. Felly, fis Medi diwethaf, cyhoeddais 'Gweithredu ar Anabledd: Hawl i Fyw’n Annibynnol—Fframwaith a Chynllun Gweithredu', ac mae hwnnw'n galw am weithredu ym mhob un o adrannau'r Llywodraeth, gan gynnwys datblygu economaidd. Ddoe, cyhoeddais y 'Cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb Rhwng y Rhywiau yng Nghymru', a ddeilliodd o adolygiad rhywedd Chwarae Teg. Mae'n nodi meysydd blaenoriaethol ar gyfer y blynyddoedd i ddod, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb o ran canlyniadau.
Credaf fod y contract economaidd yn allweddol i hyn oll, yn enwedig mewn perthynas â'r ysgogiadau sydd gennym, gan ei fod yn offeryn go iawn ar gyfer newid. Mewn gwirionedd, mae'n rhaid i'r contract economaidd sicrhau bod busnesau'n gwneud newidiadau ac yn dangos ymddygiad busnes cyfrifol. Mae gennym lawer iawn o gymell tawel, ond mae a wnelo hyn â sut rydym yn symud ymlaen, pryd y bydd angen inni ddeddfu a sut y gallwn ystyried tystiolaeth.
Felly, yn olaf, hoffwn ddweud fy mod o'r farn, yn enwedig yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd y gwaith pwysig a wnawn o ran ymchwil ar opsiynau ehangach i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yn ein helpu i gael y dystiolaeth i weld a oes angen inni symud ymlaen gyda deddfwriaeth yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cynnig deddfwriaethol hwn, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ac Aelodau eraill i fwrw ymlaen â hyn.
Diolch. Galwaf ar Helen Mary i ymateb.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n teimlo y gallai'r Senedd fod wedi blino braidd arnaf erbyn diwedd y dydd, gan nad hwn fydd fy nghyfraniad olaf—diolch i Dr Dai Lloyd am ei eiriau caredig. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am gywair ei hymateb. Rwy'n cymeradwyo lawer iawn o'r hyn a ddywedodd. Mae’n llygad ei lle, wrth gwrs, wrth ddweud bod rhai cyflogwyr yn cofleidio’r agenda hon yn effeithiol iawn, ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi y ceir rhai eraill nad ydynt yn gwneud hynny, a’i bod yn anochel y bydd angen moronen yn ogystal â gwialen weithiau yn y Llywodraeth.
Rwy'n croesawu ei datganiad heddiw ynglŷn â deddfu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Credaf efallai y bydd rhai ohonom braidd yn siomedig ynghylch y penderfyniad i’w wthio ymlaen, ond rwy'n deall cyd-destun hynny, a'i bod yn well gwneud hynny ychydig yn hwyrach a'i wneud yn dda na rhuthro a'i wneud yn wael.
Credaf fod llawer o ddulliau i’w cael, fel y dywedodd y Gweinidog—yr ysgogiadau caffael ac ati—i hyrwyddo'r agenda hon yn y sector preifat. Ond y gwir amdani yw bod llawer o'r dulliau hynny'n dibynnu ar ddeddfwriaeth nad yw’n gadarn yn fy marn i, a chredaf ei bod yn cytuno. Mae’r diffiniad o'r chwe nodwedd warchodedig yn bodoli yn y Ddeddf Cydraddoldeb gyfredol. Os caiff y diffiniad ei lastwreiddio, os caiff ei ddiwygio mewn ffyrdd na fydd yn ddefnyddiol, rwy'n awgrymu y bydd angen ymatebion deddfwriaethol arnom, yn ogystal â'r holl bethau eraill y mae'r Gweinidog wedi sôn amdanynt heddiw mewn perthynas â phartneriaeth a rôl bwysig iawn mudiad yr undebau llafur ac ati.
Yn olaf, rwy'n ddiolchgar iawn eto, fel y dywedais, am yr ymateb cadarnhaol iawn, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, fe’i derbyniwyd yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.