Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd y datganiad y bore yma gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr cyn belled ag yr oedd busnes yn y cwestiwn. Pe bawn i'n fusnes, Prif Weinidog, i ble fyddwn i'n mynd i chwilio? Gyda phwy fyddwn i'n siarad, er mwyn cael gafael ar y pecyn cymorth a gyhoeddwyd y bore yma?