1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Mawrth 2020.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y coronafeirws yng Nghymru? OAQ55255
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Wrth i bandemig byd-eang y coronafeirws ddatblygu, ein blaenoriaeth ni yw cadw pobl yn ddiogel gan leihau effaith gymdeithasol ac economaidd y clefyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol. Mae'r Gweinidog iechyd wedi gwneud datganiadau ysgrifenedig a llafar rheolaidd ar coronafeirws, a bydd yn gwneud datganiad pellach i'r Siambr y prynhawn yma.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd y datganiad y bore yma gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu'n fawr cyn belled ag yr oedd busnes yn y cwestiwn. Pe bawn i'n fusnes, Prif Weinidog, i ble fyddwn i'n mynd i chwilio? Gyda phwy fyddwn i'n siarad, er mwyn cael gafael ar y pecyn cymorth a gyhoeddwyd y bore yma?
Diolchaf i Carwyn Jones am hynna, gan ei fod yn caniatáu i mi wneud y pwynt pwysig iawn hwnnw bod gennym ni un pwynt mynediad ar gyfer y cyngor hwnnw yma yng Nghymru, sef defnyddio gwasanaeth Busnes Cymru. Dyna'r rhif i'w ddefnyddio, dyna'r lle i fynd. Y tu ôl i'r rhif hwnnw, wrth gwrs, ceir llu o wahanol gyngor a gwahanol fesurau y gellir eu cymryd i helpu busnesau yma yng Nghymru.
Yn ogystal â'r holl gyfarfodydd y mae fy nghyd-Weinidog Ken Skates yn eu cynnal gyda chyrff cynrychioliadol yr wythnos hon, gwn ei fod wedi bod yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i wneud yn siŵr eu bod nhw'n ymateb yn hyblyg i bobl sy'n dibynnu ar fenthyciadau a chredyd ganddyn nhw. Rydym ni'n gwybod y bydd gan fusnesau yng Nghymru fynediad at wasanaethau Banc Busnes Prydain a'r posibiliadau newydd a amlinellwyd yn hynny o beth gan Ganghellor y Trysorlys.
Rydym ni'n edrych i raddau helaeth iawn, Llywydd, at Lywodraeth y DU a'r datganiad yr ydym ni'n ei ddisgwyl yn ddiweddarach heddiw am gymorth pellach i fusnesau i ganiatáu iddyn nhw oroesi drwy'r wythnosau a'r misoedd anodd sydd i ddod, fel y byddan nhw, a'r bobl hynny sy'n dibynnu arnyn nhw am incwm, yn dod allan yr ochr arall i coronafeirws ac yn gallu parhau â'u bywydau unwaith eto, a bwrw ati i wneud llwyddiant ohonyn nhw.
Prif Weinidog, un o'r diwydiannau sy'n debygol o gael ei daro'n sylweddol o ganlyniad i ostyngiad i nifer yr ymwelwyr yw ein diwydiant twristiaeth. Mae'n chwarae rhan enfawr yn yr economi, yn enwedig yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin. Ac, wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwneud yr hyn a allwn i ddiogelu'r busnesau hynny a allai gael eu heffeithio'n andwyol, ac yn wir y swyddi niferus yn y busnesau hynny, y mae cymaint o fywoliaethau teuluoedd yn dibynnu arnyn nhw.
Efallai y bydd rhai o'r busnesau yn y diwydiant twristiaeth ychydig yn fwy na rhai o'r eithriadau a gyhoeddwyd eisoes yn y drefn ardrethi busnes. Er enghraifft, ceir busnesau unigryw fel pierau, lle na fydd y cymorth ardrethi busnes a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn gymwys iddyn nhw, er bod llawer o fusnesau llai sydd, efallai, wedi eu lleoli ar y pierau hynny. Tybed a fyddwch chi'n gallu cynnwys trefniadau sydd weithiau'n anarferol yn y diwydiant twristiaeth, o gofio ei bwysigrwydd i economi Cymru, fel y gellir darparu cymorth ychwanegol efallai i fusnesau sydd â'r mathau hynny o drefniadau anarferol.
Diolchaf i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae yn llygad ei le: mae'r diwydiant twristiaeth yn arbennig o bwysig yng Nghymru, fel rhan o'n heconomi ac fel sector sy'n cyflogi cynifer o bobl. Yn fy llythyr at y Canghellor yn gynharach heddiw, fe'i hanogais i fabwysiadu dull o gynorthwyo busnesau ledled y Deyrnas Unedig sy'n cydnabod y crynodiad o sectorau penodol mewn mannau penodol. O ran y pwynt y mae'n ei wneud am fusnesau nad ydyn nhw'n cyd-fynd, o reidrwydd, â phroffil arferol y sector, darparwyd arian ychwanegol gennym ni i awdurdodau lleol y llynedd y gallan nhw ei ddefnyddio at ddibenion rhyddhad ardrethi dewisol, oherwydd weithiau yr awdurdod lleol sydd agosaf at y busnesau anarferol hynny sy'n gallu gwneud y penderfyniadau hynny. Byddwn yn cadw hynny mewn cof a'r pwyntiau y mae ef wedi eu gwneud y prynhawn yma pan fyddwn ni'n dod i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio'r £100 miliwn nad ydym ni wedi penderfynu sut i'w ddefnyddio eto o'r symiau a ddaeth i Gymru o'r gyllideb yr wythnos diwethaf.
O ran coronafeirws, mae demograffeg iechyd yn wahanol iawn yma yng Nghymru, o'i chymharu â, wel, hyd yn oed Lloegr, o ran canran uwch o lawer o boblogaeth oedrannus yma yng Nghymru, o ran y ganran uwch o lawer o bobl â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chlefydau cronig eraill yma yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ac o ran llawer llai o welyau uned gofal dwys fesul pen o'r boblogaeth yma, hyd yn oed o'i gymharu â Lloegr. Mae hefyd yn dioddef yn andwyol o'i chymharu â gwledydd eraill Ewrop, ac o ran llawer llai o feddygon gofal dwys fesul pen o'r boblogaeth yma, llawer llai na Lloegr a llawer llai na'r Eidal, sy'n mynd trwy armagedon llwyr ar hyn o bryd o 400 o farwolaethau y dydd, a llawer llai o awyryddion a diffyg dillad diogelu a masgiau mewn ymarfer cyffredinol fel mewn mannau eraill. Felly, y gwir amdani yw ein bod ni mewn sefyllfa o ryfel nawr. Mae Cymru'n wynebu her enfawr, gyda llai o adnoddau na Lloegr hyd yn oed. Rydym ni angen wardiau ynysu penodol nawr. Ni allaf feddwl ond am un ward yn unig yng Nghymru ar hyn o bryd y gallwn ni ei defnyddio fel ward ynysu COVID. Rwy'n gweld staff meddygol a nyrsio sydd wedi ymladd y bydd gofyn iddyn nhw bellach wneud penderfyniadau erchyll yn fuan iawn ynglŷn â phwy sy'n cael eu hawyru a phwy nad ydyn nhw'n cael eu hawyru gan nad yw'r awyryddion gennym ni.
Felly, rydym ni dair wythnos y tu ôl i'r Eidal. A gaf i ofyn sut y mae'r Prif Weinidog yn arwain yr ymgyrch yma i arfogi ein GIG a'n staff rheng flaen yn benodol i ymateb i'r her fwyaf hon yn ystod cyfnod o heddwch sy'n wynebu Cymru?
Wel, rwy'n cytuno â Dr Lloyd am y niwed dynol y bydd coronafeirws yn ei wneud a'r pwysau sydd eisoes yn wynebu pobl sy'n gweithio yn y sector, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n dweud wrthyn nhw, ac wrth bobl a fydd yn pryderu am yr hyn a ddaw yn ystod yr wythnosau nesaf, bod yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ledled y Deyrnas Unedig wedi eu cynllunio i effeithio ar gynnydd y clefyd, fel bod y galw ar y gwasanaeth iechyd yn cael ei leddfu cymaint ag y gallwn ni i wneud y galw ar ein gwasanaethau iechyd, offer ffisegol ond hefyd adnoddau dynol y gwasanaeth iechyd—i allu gwneud hynny mor hylaw ag y gall fod. Mae gennym ni agweddau cadarnhaol iawn yma yng Nghymru, yn ogystal â heriau, o ran ymroddiad a phenderfyniad ein staff, o ran parodrwydd ein poblogaeth i gymryd y camau cyfunol hynny a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Felly, yn y dyddiau anodd sydd o'n blaenau, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud y mwyaf o'r asedau sydd gennym ni, i wneud y penderfyniadau iawn y gallwn ni i gyd eu gwneud yn unigol yn ogystal â chyda'n gilydd, oherwydd yn y modd hwnnw, gyda'n gilydd, y byddwn ni'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ac yn sicrhau bod y gallu i reoli effaith y clefyd hwn cystal â phosibl.