Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Mae nifer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyd yn gwneud datganiadau ar y coronafeirws COVID-19. O ganlyniad, mae'r datganiadau sydd wedi eu cynllunio ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), adroddiad y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd a fframwaith i wella ansawdd a pherfformiad ym maes gofal brys ac mewn argyfwng wedi eu tynnu'n ôl. Mae trafodion Cyfnod 3 ar gyfer y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) wedi eu gohirio. Yn olaf, mae'r Pwyllgor Busnes wedi penderfynu y bydd agenda yfory yn cynnwys cwestiynau llafar a chwestiynau amserol gan y Cynulliad yn unig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.