Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Mawrth 2020.
Arweinydd y tŷ, rwy'n sylwi bod nifer o ddatganiadau newydd yn ymddangos ar y papur trefn y prynhawn yma, ac rwy'n deall yn iawn bod pwysau ar amser. Rwyf wedi codi'r mater yng nghwestiynau'r llefarwyr gyda'r Gweinidog materion gwledig, ac rwy'n gwerthfawrogi bod rhywbeth wedi ei nodi ar gyfer datganiad yr wythnos nesaf, ond byddwn i'n gwerthfawrogi rhyw fath o ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos hon os yw'n bosibl, o gofio'r cyfyngiadau amser y mae llawer o ffermwyr yn ei hwynebu o ran mater profion TB, er enghraifft. Does dim ond angen i chi edrych o gwmpas y Siambr hon ar faint o absenoldebau sydd yma heddiw, ac os nad yw milfeddygon ar gael, a chynorthwywyr eraill sy'n ymwneud â'r mathau hynny o brofion, yna'n amlwg mae hynny'n peryglu statws gyrroedd anifeiliaid o ran iechyd. Mae'r rhain yn ddigwyddiadau enfawr yr ydym ni'n ymdrin â hwy ar hyn o bryd. A hefyd darpariaeth porthiant yn ogystal â'r cais ar gyfer y cyfnod taliad sengl, sydd ar agor nawr ac yn dod i ben ganol fis Mai, ac archwiliadau fferm. Nid beirniadaeth yw hon yr wyf i'n ei gwneud—sylw ydyw a fyddai'n cael croeso mawr yn fy marn i pe byddai modd cael eglurhad ynghylch beth yn union sydd i'w ddisgwyl gan ffermwyr a cheidwaid anifeiliaid yma yng Nghymru, o ystyried yr amgylchiadau eithriadol yr ydym ni'n canfod ein hunain ynddynt a'r natur na ellir ei ddarogan. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw'r gyfraith yn caniatáu unrhyw oddefgarwch—mae dull gweithredu dim goddefgarwch o ran profion TB buchol, er enghraifft—a byddai rhywfaint o eglurder, yn sicr yr wythnos hon, i'w groesawu. Pe byddai modd i ni gael hynny ar ffurf datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog, rwy'n credu y byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr.