Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 17 Mawrth 2020.
Bydd, byddaf i'n archwilio'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cydweithwyr yn dilyn datganiad y Canghellor o ran yr hyn y gallai unrhyw gyhoeddiadau ei olygu i Gymru. Mae'r pwynt ynglŷn â fformiwla Barnett ddim yn addas i'w diben mwyach, yn un da, yn enwedig pan ein bod ni'n ystyried yr arian ychwanegol a gafodd ei ddarparu drwy'r pecyn coronafeirws diweddar yn y gyllideb, nad yw'n ystyried ein heconomi wahanol yma yng Nghymru. Felly, mae gennym ni gyfran fwy o fusnesau bach yma yng Nghymru, er enghraifft, ac rydym ni'n dibynnu'n drwm iawn ar rai sectorau penodol. Felly, bydd y rhain i gyd yn bethau y mae angen i ni fynd ar eu trywydd, ac rydym ni yn eu dilyn gyda'r Trysorlys.
Rydym ni hefyd, mewn cyd-destun ehangach, yn edrych ar y datganiad polisi ariannu a sut y bydd hwnnw yn cael ei gymhwyso yn y dyfodol, gyda golwg ar wneud rhai gwelliannau i hynny, a sicrhau ein bod ni'n cael ein hariannu mewn ffordd decach. Mae hwnnw'n waith sy'n parhau, ond, fel y dywedais i, cyn gynted ag y bydd gennym ni ragor o wybodaeth, byddaf yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'm cyd-Aelodau.