2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 17 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:27, 17 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Andrew R.T. Davies am godi'r mater hwn, a bydd yn gweld bod gan y Gweinidog eitem ar yr agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch coronafeirws. Yn amlwg, bydd hi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i sut i ymateb i'r mater penodol hwnnw, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n trafod gyda'i swyddogion ac yn ystyried barn undebau'r ffermwyr ac eraill yn hyn o beth.