Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod yna bwysau digynsail ar ein heconomi ni o ganlyniad i'r achosion o coronafeirws. Fe fydd llawer o gwmnïau yng Nghymru, rhai bach a mawr, yn ymdrin â chanlyniadau'r feirws hwn. O ganslo contractau hyd at gyfraddau cynyddol o salwch staff, o darfu mawr ar y gadwyn gyflenwi hyd at heriau sylweddol y llif arian, fe fydd yr argyfwng hwn yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y mae ein heconomi ni'n gweithio dros y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Mae'n bosib na fydd cyfran sylweddol o'r boblogaeth sy'n gweithio yn gallu gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn. Gan fod Cymru yn dibynnu'n arbennig ar fusnesau bach a chanolig, fe fydd yr effaith ar ein heconomi ni yn un sylweddol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi busnesau i ymdrin ag effeithiau coronafeirws.
Fy nghyngor i bob busnes yw defnyddio'r cymorth a'r cyngor sydd ar gael. Fe ddylai unrhyw fusnes yr effeithir arno gysylltu â llinell gymorth ffôn Busnes Cymru ar 03000 60 3000. Fe allan nhw helpu gyda chyngor ymarferol, o staffio hyd at gynllunio ariannol yn ogystal â chefnogaeth i'r gadwyn gyflenwi. Nawr, mae Banc Datblygu Cymru ar gael hefyd i helpu. Mae ganddo ecwiti ac arian ar gael i'w fenthyca ar unwaith i helpu busnesau drwy'r heriau llif arian a'r heriau eraill y gallan nhw fod yn eu hwynebu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Ddydd Llun, fe gyhoeddais y bydd Banc Datblygu Cymru yn rhoi seibiant o dri mis rhag gorfod ad-dalu cyfalaf i'r busnesau y maent yn eu cefnogi. Mae'r Banc yn cynnal tua 1,000 o fusnesau ar hyn o bryd ac fe fydd hyn yn eu helpu nhw—rhai o'n BBaCh lleiaf ni, sy'n amrywio o fanwerthwyr bwyd bychain i'r diwydiannau creadigol—i gael y cymorth hanfodol sydd ei angen arnynt. Heddiw, fe siaradais i â chadeirydd y Banc Datblygu i drafod mesurau pellach potensial y gallai fod angen inni eu cymryd yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac yna ddydd Iau, fe fyddaf i'n cael trafodaethau pellach gyda banciau'r stryd fawr a Banc Busnes Prydain. Fe fyddaf i hefyd ddydd Iau yn cael cyfarfod cyngor brys ar ddatblygiad economaidd i ddarparu fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth fusnes a thrafod atebion ymarferol i'r heriau sy'n ein hwynebu ni.
Rwyf wedi bod yn cynnal cyfres o drafodaethau â sefydliadau busnes a phartneriaid cymdeithasol, a thrwy ein tair swyddfa ranbarthol, rydym ni'n casglu gwybodaeth fusnes i lywio ein camau lliniaru ni a'r camau nesaf. Fe wnes i gyfarfod â'm huwch dîm arweinyddiaeth yn adran yr Economi a Thrafnidiaeth ddoe ac fe gafwyd cadarnhad y bydd timau'r tasglu ymateb rhanbarthol a sefydlwyd yn ystod ein paratoadau ni ar gyfer Brexit bellach yn mynd ati i gefnogi'r anghenion o ran diswyddiadau a sgiliau wrth iddyn nhw ymddangos. Mae ein cyngor ni ar gael drwy ReAct a Gyrfa Cymru, ac rwyf wrthi'n archwilio ffyrdd o wella'r dulliau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae ein trafodaethau ni â grwpiau busnes a'r wybodaeth a gafwyd ganddynt wedi ein helpu ni i lywio'r pecyn cymorth gwerth £200 miliwn a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Cyllid. Yn rhan o'r pecyn hwnnw, fe fydd busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael 100 y cant o ryddhad ardrethi, ac fe fydd tafarnau â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. Fe fydd £100 miliwn arall ar gael ar gyfer cynllun grant newydd i fusnesau bach. Pa bynnag gyllid canlyniadol pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i gymorth i fusnesau, fe fyddwn ni'n ei glustnodi ar gyfer cymorth i fusnesau yma yng Nghymru drwy wella ein pecyn cymorth ni.