Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 17 Mawrth 2020.
Rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i'r gwaith helaeth a wnaed o fewn y Llywodraeth i gynllunio ar gyfer Brexit 'heb gytundeb', ein bod wedi gallu modelu senarios amrywiol o ran gallu rhoi pobl i wasanaethu ar y rheng flaen, ac mae Russell George yn hollol iawn ynghylch yr angen i adlewyrchu'r galw, yn Busnes Cymru, a ddaw yn yr wythnosau sydd i ddod, ac felly, fe fydd yn rhaid cynyddu eu capasiti nhw i ymdrin â'r galwadau.
Mae gennym ni brofiad da o weithio mewn gwahanol dasgluoedd hefyd wrth inni ymyrryd ledled Cymru, ac mae honno eto'n sylfaen dda i ni, o ran gallu ymaflyd â busnesau yn gyflym a chynnig toreth o gymorth a chyngor i'w tywys nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Rydym wedi bod yn edrych yn fewnol hefyd ar sut y gallwn ni, dros dro, ailddyrannu adnoddau dynol mewn ffordd sy'n cefnogi busnesau, o fewn fy adran i.
Nawr, o ran y gwaith sydd gan y banc datblygu wrth oresgyn yr her hon, fe fyddaf i'n cwrdd â'r banc datblygu eto ddydd Iau, ac fe fydd gennyf i hefyd—yn yr un ystafell, neu ar alwad cynhadledd ffôn—fanciau'r stryd fawr. Mae'n gwbl hanfodol bod ymyriadau a chynigion y banc datblygu yn plethu'n daclus gyda'r hyn y mae banciau'r stryd fawr yn ei gynnig hefyd. Ac fe fydd yna, rwy'n gobeithio, o ganlyniad i gyhoeddiad gan y Canghellor yn ddiweddarach y prynhawn yma, gyfalaf ychwanegol ar gael o fewn y banc datblygu yn yr wythnosau nesaf.
O ran ardrethi busnes, rwy'n derbyn y pwynt a wnaeth yr Aelod yn llwyr. Mae'r cyhoeddiad a wnaeth Rebecca Evans neithiwr ynglŷn â'r cymorth ardrethi busnes yr ydym ni'n ei gynnig yn berthnasol i ddegau o filoedd o fusnesau yng Nghymru. Eto i gyd, megis dechrau yw hyn, ac mae taer angen y cynnig enfawr hwnnw o gyllid gan Lywodraeth y DU y mae Aelodau, gan gynnwys Alun Davies, wedi sôn amdano eisoes y prynhawn yma. Mae'r £300 biliwn yna a gyhoeddodd Arlywydd Macron neithiwr yn dangos pam mae'r £12 biliwn a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn gwbl annigonol, ac rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn cyhoeddi pecyn enfawr o gefnogaeth y prynhawn yma.
Os gallwn ni sicrhau rhagor o adnoddau, fe fyddwn ni'n gallu eu defnyddio mewn ffordd sydd o fudd i fusnesau o bob math a maint, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fodelu amryw o fesurau, gan gynnwys, fel enghraifft, foratoriwm dros dro ar bob trethiant ar fusnes am dri mis, ond fe fyddai hynny'n gofyn am adnodd ariannol sylweddol. A dyna pam rwy'n obeithiol y bydd y Canghellor yn hael y prynhawn yma gyda'r gefnogaeth angenrheidiol.
Rwy'n cytuno â Russell George hefyd fod rhai sectorau'n cael eu taro'n arbennig o galed. O ran swyddogaeth Llywodraeth Cymru wrth gefnogi busnesau, ein cred ni yw y bydd yna ddau gam i'r her hon: yn gyntaf oll, y cyfnod o oroesi, ac yna'r cyfnod o adferiad. O ran y cyfnod o oroesi, fe fydd ton ar don lle bydd angen cefnogaeth ddwys ar rai sectorau. Ar hyn o bryd, rydym yn gweld hynny yn yr economi gymdeithasol a'r sector gofal cymdeithasol a'r hunangyflogedig, a dyna pam rwy'n awyddus i fodelu'r £100 miliwn o gefnogaeth a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans ar gyfer y rhannau penodol hynny o economi Cymru. O ran yr 'economi gymdeithasol', yr hyn yr wyf yn ei olygu yw twristiaeth, gwestai, bwytai, digwyddiadau, caffis a thafarndai, yn ogystal â rhai rhannau o'r sector manwerthu a rhai meysydd allweddol eraill yn economi Cymru, wrth gwrs. Rwy'n benderfynol y gallwn ni ddefnyddio Busnes Cymru ac awdurdodau lleol ar gyfer dosbarthu arian hanfodol bwysig yn y busnesau hynny sydd ei angen.
O ran gwasanaethau trên, mae Russell George yn llygad ei le, os gwelwn ni nifer sylweddol o bobl yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch neu hunan ynysu, yna fe fydd angen inni wneud penderfyniadau anodd iawn o ran gwasanaethau rheilffyrdd, ac yn yr un modd, fe fyddai hynny'n berthnasol i wasanaethau bysiau hefyd. Mae gan Trafnidiaeth Cymru grŵp strategaeth. Maen nhw'n modelu senarios amrywiol, ac maen nhw'n cyfarfod yn ddyddiol i benderfynu pa gamau allai fod yn angenrheidiol. Ond fe fyddaf i'n ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am unrhyw benderfyniadau a wneir gan Drafnidiaeth Cymru. Maen nhw'n cyflogi miloedd o bobl, Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru, ledled y wlad, ac nid oes amheuaeth gennym ni y bydd nifer sylweddol yn hunan ynysu neu'n dioddef o'r coronafeirws. Wrth gwrs, mae rhai o'r unigolion hynny a gyflogir â swyddi hanfodol ganddyn nhw, y gyrwyr trenau a'r gwarchodwyr yn benodol, ac os bydd yna ostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr proffesiynol penodol hynny sy'n gallu gweithio, yna fe fydd hynny'n sicr o effeithio ar wasanaethau'r rheilffyrdd. Ond fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn rheolaidd iawn am effaith y coronafeirws ar ein rhwydwaith trafnidiaeth ni.
Yn olaf, fe siaradais i â Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU ddoe ynglŷn â'r rhwydwaith bysiau, ac mae'r pwynt a wnaeth Russell George am y gweithlu, proffil oedran y gweithlu, yn rhywbeth sy'n peri pryder i ni. Rydym yn gweithio gyda'r sector i nodi'r posibilrwydd o gael cefnogaeth i gael gyrwyr eraill pe bai llawer o yrwyr yn mynd yn sâl neu'n hunan ynysu. Mae hynny'n arbennig o wir, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, yng nghefn gwlad Cymru, lle mae gennym nifer fawr o fusnesau bach a chanolig yn gweithredu, ac felly rydym yn canolbwyntio ein sylw ar yr ardaloedd gwledig hynny yn benodol ar hyn o bryd sydd eisoes yn wynebu mathau eraill o ynysu.