4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 17 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:06, 17 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am ei atebion i Russell George. Rydym ni, fel y dywedodd ef, yn wynebu sefyllfa gwbl ddigynsail, ac roeddwn i'n falch iawn o'i glywed ef a'r Prif Weinidog yn cytuno â'r farn ar y meinciau hyn ac, yn fy marn i, ar draws y Siambr fod angen ymateb anferth i'r sefyllfa hon ledled y Deyrnas Unedig gyfan. Nid ydym ni, yn llythrennol, y rhan fwyaf ohonom ni, wedi wynebu unrhyw beth fel hyn erioed. Mae pobl yn siarad am yr ail ryfel byd, ond ni all unrhyw un ohonom ni gofio sut beth oedd hynny mewn gwirionedd, ac rwy'n credu, yn wir, y bydd angen rhywfaint o'r raddfa honno o uchelgais ac ymateb arnom. Mae'r Gweinidog yn llygad ei lle wrth ddweud bod yn rhaid i hynny gael ei arwain gan Lywodraeth y DU.

Rwy'n awyddus i ganolbwyntio fy nghwestiynau i, Llywydd, ar y materion hynny sydd o fewn cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ond mae'n bosib y bydd rhai o'r cwestiynau hynny'n cyfeirio at ei drafodaethau ef a'i gydweithwyr gyda Gweinidogion y DU. Yn gyntaf, fe hoffwn i ddweud ein bod ni, yn amlwg, yn croesawu'r cyhoeddiad ar ryddhad ardrethi busnes, ond fel y mae eraill wedi ei ddweud eisoes, ni fydd hynny'n helpu llawer o fusnesau oherwydd nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd. A wnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym am y cynigion ar gyfer y cynllun grant? Efallai na all roi manylion inni, ond rwy'n credu y byddai'r gymuned fusnes yn ddiolchgar iawn o glywed pryd y bydd yn gallu rhoi manylion inni, oherwydd mater yw hwn o fusnesau yn mynd i'r wal wrth ein bod yn siarad nawr, yn enwedig y rhai sy'n gweithio ar lwfansau cynnil iawn. Felly mae'n gwbl hanfodol, os na all ef ddweud unrhyw beth mwy wrthym gyda llawer mwy o fanylder heddiw—ac rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd ynglŷn ag ymgynghori â'r sector busnes, oherwydd, wrth gwrs, mae hynny'n briodol— pe gallem gael rhyw syniad o'r hyn y gallai'r amserlen fod ar gyfer hynny.

Fe hoffwn i awgrymu i'r Gweinidog y gellid gwneud mwy i hysbysu busnesau am y ffaith mai'r llinell gymorth arferol yw'r man cywir i fynd. Rwy'n credu ei fod ef, mae'n debyg, yn cytuno â mi nad ydym bob amser mor llwyddiannus ag yr hoffem fod wrth gyfathrebu â busnesau bach iawn. Mae'n bosib y bydd yna bethau, wrth gwrs, y gall pob un ohonom ni eu gwneud, yn Aelodau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ni ein hunain, i helpu busnesau sy'n cysylltu â ni i fod yn ymwybodol o'r llinell gymorth. Ond rwy'n credu bod yna fwy o waith i'w wneud ynglŷn â hyn er mwyn i bobl ddeall nad dim ond llinell ar gyfer busnes fel arfer yw honno, ond ei bod hi hefyd yn llinell y gellir ei defnyddio mewn argyfyngau.

Fe soniodd y Gweinidog yn ei ymateb i Russell George am rywfaint o'r argyfwng llwyr y gall rhai busnesau lletygarwch a theatrau, sinemâu ac yn y blaen fod ynddo. Rydym ni, wrth gwrs, mewn sefyllfa lle y cynghorir pobl i beidio â defnyddio'r busnesau hyn ond, ar y llaw arall, nid yw'n orfodol i gau'r busnesau hynny. Felly, ni all y busnesau hynny a allai gael yswiriant pe byddent yn cael eu cau'n ffurfiol allu gwneud hynny ar hyn o bryd. Fy nealltwriaeth i yw y gallai hynny fod yn fater i Lywodraeth y DU. Ond tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog, gyda'i gydweithwyr a chyda'r Cwnsler Cyffredinol yn benodol, edrych ar bwerau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1994, sy'n rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru wahardd digwyddiadau a chyfarfodydd, a gweld a oes modd, wrth inni aros—ac wrth gwrs, efallai y cawn ni ragor o gyhoeddiadau yn nes ymlaen heddiw—i Lywodraeth y DU weithredu, a oes modd rhoi gorchymyn o'r fath ar fusnesau fel y gallan nhw hawlio efallai, y rhai ohonyn nhw sydd ag yswiriant ymyrraeth busnes, er enghraifft. Rwy'n gofyn hefyd i'r Gweinidog pa asesiad y mae ef wedi ei wneud neu y gall ef ei wneud o faint o'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt sy'n meddu ar yswiriant o'r fath. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer o'r busnesau llai yr yswiriant hwnnw, neu ni fydd ganddynt warchodaeth yn y sefyllfa benodol hon. Fe fyddwn i'n dweud wrth y Gweinidog y bydd angen cymorth grant ar rai o'r busnesau hyn yn y byrdymor i'w cadw nhw i fynd. Unwaith eto, roeddwn i'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn dweud na ddylai unrhyw fusnes a oedd yn fusnes hyfyw 10 diwrnod yn ôl beidio â bod felly ar ddiwedd yr argyfwng hwn ac rwy'n credu bod angen mwy o ystyriaeth gydlynol i wneud yn siŵr y bydd hynny'n digwydd.

Ynglŷn â mater arall, fe ddywedwyd wrthyf i y gallai rhai busnesau sy'n cael eu gorfodi i gau ddefnyddio'r amser hwn i ailddatblygu o bosib, yn benodol eu hadeiladau. Rwy'n gofyn i'r Gweinidog a all ef ystyried, o ran rhai o gynlluniau presennol y Llywodraeth ar gyfer rhoi grantiau—rwy'n credu mai busnesau twristiaeth gododd hyn gyda mi, ond efallai fod yna eraill—a ellid cyflymu'r broses honno? Oherwydd os oes gennych chi fusnes gwely a brecwast ac nad oes dewis ond ei gau oherwydd nad oes neb yno a'u bod yn gwybod, yn y tymor canolig, bod angen iddyn nhw wneud datblygiadau, a allai rhywfaint o'r adnoddau fod ar gael iddyn nhw yma, fel y gallan nhw fanteisio ar hynny, gan eu bod ar gau.

Gan droi at drafnidiaeth gyhoeddus am foment, mae'r Gweinidog yn cyfeirio at y cyngor a roddir i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Tybed a wnaiff ystyried eto, gyda'r Gweinidog Iechyd, a oes angen inni ddweud mwy wrth ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i'w helpu nhw i gadw'n ddiogel. I lawer o bobl, fel y gŵyr y Gweinidog, nid oes ganddynt ddewis. Fe ddywedodd ef ei hun: mae rhai ohonom yn lwcus ac efallai y gallwn ni weithio o gartref, ond mae yna bobl na allan nhw wneud hynny. Ac a wnaiff ef hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw faterion o ran mesurau y gellid eu cymryd i leihau gorlenwi.

Yn ogystal â hynny, o ran trafnidiaeth gyhoeddus, fe fydd yn gwybod bod llawer o gwmnïau bysiau llai yn arbennig a fydd wedi colli llawer o fusnes. Fe fyddan nhw wedi colli eu busnes twristiaeth: mae hynny'n digwydd eisoes. Fe godwyd gyda mi y gallai hon fod yn broblem i'r cwmnïau hynny os byddwn yn mynd i lawr y llwybr o gau ysgolion, oherwydd dyna eu hunig waith hirdymor cynaliadwy—. Mae darparu cludiant ysgol yn ffordd gynaliadwy iddyn nhw o gadw busnesau yn hyfyw yn yr hirdymor. Tybed a fyddai modd iddo gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidogion priodol i weld a allwn ni gefnogi Llywodraeth Leol i barhau i dalu am y contractau hynny, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio. Fe fyddai'n ddealladwy iawn, rwy'n siŵr y byddai ef yn cytuno, i bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar lefel leol ddweud, 'Wel, os nad yw'r plant yn mynd i'r ysgol, 'dydyn ni ddim yn mynd i dalu am y bysiau.' Ond y gwir amdani yw, yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, ac fe wn i ledled y Canolbarth a'r Gorllewin, os na thelir am y gwasanaethau hynny, ni fydd y cwmnïau bysiau hynny'n goroesi erbyn inni ddod allan o'r argyfwng, felly mae'n rhaid inni feddwl sut y gallwn ni gadw'r rhain yn gynaliadwy.

Mae e'n sôn yn ei ddatganiad am dâl salwch statudol, ac wrth gwrs, fe fydd hwnnw o gymorth i'r bobl hynny sydd allan o waith am eu bod nhw'n sal, neu am eu bod nhw'n ynysu eu hunain. Ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi y bydd llawer iawn o bobl a allai eu cael eu hunain allan o waith dros dro neu'n barhaol oherwydd hyn. Tybed a oes modd iddo gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU ynglyn â sut y gallen nhw, er enghraifft, gyflymu'r broses geisiadau am gredyd cynhwysol, ac fe fyddem ni'n dadlau ar y meinciau hyn, am fwy o amser yn y tymor byr efallai i fod yn fwy uchelgeisiol ac edrych ar incwm sylfaenol i bawb. Ond o fewn pwerau Llywodraeth Cymru ei hun, wrth gwrs, mae gennym ni'r taliadau cymorth brys, a tybed a fydd ef yn cynnal trafodaethau priodol gyda'r Gweinidogion priodol ynglŷn â'r cynllun hwnnw, ac ystyried a allwn ni roi mwy o arian i mewn i hwnnw, fel y gallai teuluoedd sydd mewn argyfwng am eu bod nhw'n hunan ynysu, er enghraifft, ac nad oes ganddyn nhw incwm o bosib, geisio cael rhywfaint o gymorth o'r gronfa honno. Ac fe fyddai angen newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer honno, wrth gwrs.

Yn olaf, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud ei fod yn cynnal trafodaethau gyda'r banciau masnachol. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom yn credu bod arnyn nhw ddyled i ni: cafodd y banciau eu hachub mewn argyfwng a achoswyd ganddyn nhw. Fe ddywedodd etholwr wrthyf i heddiw, er enghraifft, fod yr HSBC eisoes yn gwrthod cynyddu cyfleusterau gorddrafft ar gyfer rhai busnesau gwledig, oherwydd gallai eu benthyciadau nhw fod yn eithaf mawr yn barod gan eu bod ar ddiwedd tymor y gaeaf a dim ond nawr y mae'n amser iddyn nhw allu gwneud eu harian. Fe hoffwn i ofyn iddo am godi'r mater hwnnw'n benodol oherwydd bod y busnesau bach gwledig hynny, unwaith eto, yn fychan iawn, ac maen nhw'n gwybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf. Fe ddylai eu banciau nhw wybod eu bod nhw'n cael amser caled yn y gaeaf, ac ni ddylai hynny eu hatal nhw rhag cael eu cefnogi i gael benthyg, ac mae'n hollol annerbyniol os yw'r banciau mawr hyn yn gwneud hynny, a gwn fod yr HSBC yn gwneud hynny mewn un achos.

Ac fe hoffwn i orffen fy nghyfraniad i, Llywydd, drwy ddiolch unwaith eto i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a gofyn iddo ef—fel rwy'n siŵr y gwnaiff—roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni oll. Wrth gwrs, fe fydd ef yn disgwyl cael ei graffu'n drwyadl o'r meinciau hyn, ond fe fyddwn ninnau hefyd yn cynnig ein cefnogaeth iddo ef wrth ymdrin â sefyllfa sy'n gwbl ddigynsail, fel yr ydym ni i gyd yn cytuno.