Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Mawrth 2020.
A wnewch chi ddweud rhywbeth? Dydy e ddim yn gallu ein clywed ni. Iawn. Hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog am geisio cyflwyno ei ddatganiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau drwy Skype. Dymunaf yn dda i chi wrth i chi hunan-ynysu, Gweinidog, ac wrth i chi barhau â'ch gwaith fel y Gweinidog iechyd—ond nid am y 45 munud nesaf, mae'n ymddangos. Felly, galwaf ar y Prif Weinidog i roi'r datganiad ynghylch y coronafeirws.