– Senedd Cymru am 3:54 pm ar 17 Mawrth 2020.
Eitem 3 fydd yr eitem nesaf. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am coronavirus, COVID-19, yw'r datganid hynny. Mae'r Gweinidog iechyd yn hunan-ynysu ar hyn o bryd oherwydd salwch yn ei deulu, ac mae'n parhau â'i gyfrifoldeb gweinidogol ac yn atebol i'r Senedd yma. Os bydd y dechnoleg yn methu, yna mi fydd y Prif Weinidog yn cwblhau'r eitem yma. Os bydd Aelodau angen i'r sain gael ei chwyddo yn ystod yr eitem dylent ddefnyddio'r clustffonau. Dwi'n galw felly ar y Gweinidog iechyd i gyflwyno ei ddatganiad—Vaughan Gething.
A wnewch chi ddweud rhywbeth? Dydy e ddim yn gallu ein clywed ni. Iawn. Hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog am geisio cyflwyno ei ddatganiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau drwy Skype. Dymunaf yn dda i chi wrth i chi hunan-ynysu, Gweinidog, ac wrth i chi barhau â'ch gwaith fel y Gweinidog iechyd—ond nid am y 45 munud nesaf, mae'n ymddangos. Felly, galwaf ar y Prif Weinidog i roi'r datganiad ynghylch y coronafeirws.
Diolch yn fawr, Llywydd. Byddai'r Gweinidog Iechyd wedi dechrau ar ei ddatganiad y prynhawn yma drwy atgoffa'r holl Aelodau o faint sydd wedi newid yn ystod yr wythnos ers iddo gyflwyno ei adroddiad diwethaf i'r Senedd. Yn y cyfnod hwnnw, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan bod y coronafeirws yn bandemig. Mae'r ymateb yng Nghymru a gwledydd eraill y DU wedi newid o gyfyngu'r haint i oedi ei ledaeniad. Yn anffodus, rydym ni hefyd wedi cael ein marwolaethau cyntaf o achos y coronafeirws yma yng Nghymru. Gwn fy mod i, ar ran y Senedd gyfan, yn estyn ein tristwch a'n cydymdeimlad i'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid. Cyn dristed ag yw dweud hyn, mae'n rhaid i ni ddisgwyl y bydd mwy o ddigwyddiadau o'r fath yn yr wythnosau i ddod.
Felly, amcanion Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yng nghyfnod oedi y cynllun i fynd i'r afael â'r coronafeirws yw arafu lledaeniad y feirws ac i leihau effaith penllanw'r haint, ac felly i'w wthio o ddiwedd tymor y gaeaf presennol, sef y cyfnod yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd. Bydd y ddau amcan hyn yn helpu'r GIG i ymdopi â'r heriau y bydd yn eu hwynebu wrth ofalu am niferoedd mwy o bobl sâl iawn. Mae gwneud hyn yn rhoi'r cyfle gorau i ni gyd na chaiff ein GIG ei lethu. Mae hynny yn ei dro yn golygu y gallwn ni achub mwy o fywydau yn y misoedd i ddod.
Llywydd, mae'n anochel y bydd llawer mwy o bobl yn dal y feirws nawr. Bydd y mwyafrif helaeth o bobl yn teimlo'n sâl am gyfnod byr cyn gwella'n llwyr gartref. Ni fydd angen ymyrraeth feddygol arnyn nhw. Yn hytrach, mae angen i ni dargedu ein hadnoddau at y ganran fach o'n cyd-ddinasyddion y bydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw arnynt. Y cyngor gorau sydd gennym ni fel Llywodraeth yn ystod y cyfnod hwn o'r haint yw, nad ceisio adnabod, monitro a chyfyngu ar bob achos, waeth pa mor ysgafn bynnag, yw'r defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni.
Bydd Aelodau yn y fan yma yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, yn y cyfarfod COBRA ddydd Llun yr wythnos hon, wedi cytuno â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU i gynghori'r cyhoedd i gymryd camau eithriadol pellach. Mae ein cyngor i bobl sy'n credu efallai fod y coronafeirws arnyn nhw wedi cryfhau. Dylai unrhyw un sy'n datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd aros gartref am saith diwrnod. Ni ddylen nhw fynd at eu meddyg teulu nac i fferyllfa nac i ysbyty, ac ni ddylen nhw fel rheol gysylltu â'r GIG ar 111. Ni ddylai pobl ofyn am gymorth oni bai eu bod yn methu ag ymdopi â'u symptomau gartref, bod eu cyflwr yn gwaethygu'n sylweddol neu os nad ydyn nhw'n gwella o fewn saith diwrnod.
Fel y gŵyr yr Aelodau yn y fan yma, yn dilyn y cyfarfod COBRA ddydd Llun, y cyngor i bobl nawr yw, os ydych chi'n byw gyda rhywun ar aelwyd lle mae rhywun yn datblygu tymheredd uchel neu beswch parhaus newydd, yna dylai'r aelwyd gyfan aros gartref am 14 diwrnod. Erbyn hyn, mae cyngor pellach ar hunan-ynysu yn y cartref ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cynghorir pobl hefyd i ddefnyddio'r gwiriwr symptomau COVID-19 ar-lein ar wefan Galw Iechyd Cymru os ydych chi'n pryderu am eich symptomau.
Llywydd, rydym ni hefyd wedi gofyn i bobl o bob rhan o'r boblogaeth ehangach i leihau cyswllt cymdeithasol. Mae hynny'n cynnwys gweithio o gartref os gallwch chi a pheidio â mynd o ddewis i ardaloedd gorlawn fel tafarndai neu fwytai. Dylai pawb sy'n 70 oed a hŷn, pobl o dan 70 â chyflyrau iechyd sylweddol a menywod beichiog fynd ati'n awr i ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Mae hynny oherwydd y caiff y grwpiau hyn eu dynodi fel rhai y mae mwy o berygl iddyn nhw fod yn ddifrifol wael ac felly mae angen iddyn nhw gyfyngu ar eu rhyngweithio cymdeithasol i leihau'r perygl o drosglwyddo. I'r rhai sydd o dan 70 sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, yr egwyddor greiddiol yw, os yw eich cyflwr iechyd yn rhoi'r hawl i chi gael pigiad ffliw'r GIG am ddim, yna mae'r cyngor hwnnw'n berthnasol i chi. Yn ystod yr wythnos nesaf, bydd y GIG yn cysylltu'n uniongyrchol ag amrywiaeth o bobl agored i niwed gyda chyngor penodol iddyn nhw ynglŷn â'r peryglon y gallan nhw fod yn eu hwynebu. Mae hynny'n debygol o gynnwys mesurau mwy sylweddol fyth i'r rhai y mae eu systemau imiwnedd wedi eu peryglu'n sylweddol.
Mae'r safbwynt a fabwysiadwyd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ynglŷn â chynulliadau mawr o bobl i'w dilyn bellach ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Ni fydd ein gwasanaethau brys yn mynychu nac yn cynllunio ar gyfer digwyddiadau cyhoeddus mawr. Byddant hwythau hefyd, fel gweddill gwasanaethau'r GIG, yn canolbwyntio eu hamser ar ymdrin â'r ymateb i'r coronafeirws wrth iddo ddatblygu ymhellach.
Llywydd, fel y gŵyr yr Aelodau o adeg gynharach y prynhawn yma, cafwyd cwestiynau ynglŷn â sut yr ydym ni'n mynd ati i brofi ar hyn o bryd. Ar yr adeg hon o gynnydd y clefyd, mae ein pwyslais wedi newid o gynnal profion cymunedol, oherwydd dyna'r cyngor gorau sydd gennym ni. Profir bellach drwy ganolbwyntio ar bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty, yn unol â chanllawiau cenedlaethol ac yn seiliedig ar symptomau a difrifoldeb. Mae tystiolaeth gref o bob cwr o'r byd y gallan nhw ac y byddan nhw yn gwella. Mae a wnelo hyn â sicrhau ein bod ni'n defnyddio ein gallu i brofi drwy ganolbwyntio ar y mannau lle mae'r angen mwyaf. Yn ogystal â'r rhai sydd mewn ysbytai, bydd profion ar gael nawr i bobl sy'n gweithio yn swyddogaethau clinigol allweddol y GIG er mwyn sicrhau na chânt eu tynnu o'r gweithle yn hirach nag sy'n angenrheidiol. Bydd nifer y swyddogaethau hyn fydd yn gymwys yn ymestyn wrth i'n gallu i brofi ddatblygu. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau â'i waith arolygu i ddeall y darlun cyffredinol yng Nghymru.
Llywydd, ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd ein cyd-Aelod, Vaughan Gething, fesurau pellgyrhaeddol dros dro i ryddhau gallu'r GIG i ymdrin â'r achosion. Bydd darparwyr iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn atal apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau nad ydynt yn rhai brys ac fe gaiff y drefn fonitro a rheoleiddio ei llacio ar draws y system iechyd a gofal.
Gwyddom y bydd yr haint hwn yn cynyddu'n sylweddol y galwadau a wneir ar ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr gofal sylfaenol, ac yn benodol, ar y staff yn y sefydliadau hyn. Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Gwener diwethaf yn caniatáu i'n system iechyd a gofal cymdeithasol gadw pobl o'r ysbyty os nad oes angen iddyn nhw fod yno, ac mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen bod pobl sydd â'r angen mwyaf am ofal ysbyty yn cael eu trin yn ddi-oed. Bydd penderfyniadau dydd Gwener yn caniatáu i fyrddau iechyd ac eraill wneud y defnydd gorau o'r gallu sydd ar gael mewn meysydd blaenoriaethol, i adleoli ac ailhyfforddi staff ar gyfer swyddogaethau gwahanol er mwyn ymateb i effaith y coronafeirws a chynnal gwasanaethau ar gyfer triniaethau hanfodol eraill, fel gwasanaethau canser.
Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cymeradwyo'r gyfres nesaf o gamau gweithredu cenedlaethol i gefnogi'r maes iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn barod ar gyfer yr hyn sydd ar y gorwel. Mae'r rhain yn cynnwys: darparu canllawiau ynglŷn â phrofi gweithwyr gofal iechyd symptomatig mewn lleoliadau ynysig; mwy o frys o ran cyflwyno ymgynghoriadau fideo mewn gofal sylfaenol; cyhoeddi canllawiau arfaethedig ynglŷn â darparu gwasanaethau deintyddol fel nad oes rhaid i gleifion a staff ymwneud â'i gilydd yn ddiangen; a gwaith pellach ar fyrder i gynyddu gwelyau, staffio ac offer gofal critigol.
Llywydd, ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, mae fy nghyd-Weinidogion yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i sicrhau eu bod yn barod. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfodydd gydag arweinwyr awdurdodau lleol ac maen nhw wedi parhau i'r wythnos hon. Caiff ein hawdurdodau lleol yr holl gymorth a'r gefnogaeth y gallwn ni eu darparu i gadw gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i barhau. Mae ganddynt hwythau hefyd swyddogaeth arweiniol hynod bwysig, ac mae hynny'n arbennig o arwyddocaol o ran y ffordd y byddan nhw'n gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i gydgysylltu cefnogaeth i'r nifer fawr o bobl a fydd yn ynysu eu hunain nawr.
Mae hon yn sefyllfa ddynamig sy'n datblygu'n gyflym, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu ymhellach fel y bo angen ac yn unol â thystiolaeth. Mae'r Gweinidog iechyd yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â pha benderfyniadau a wnaed—y dystiolaeth—cyn cyfarfod y pwyllgor iechyd ar 18 Mawrth, a gwn ei fod yn dal i obeithio gallu ateb cwestiynau'r Aelodau gyda'r prif swyddog meddygol gerbron y pwyllgor hwnnw.
Yn y cyfamser, mae angen i ni barhau i'n hatgoffa ein hunain a'n holl gyd-ddinasyddion o'r pethau syml hynny y gallwn ni i gyd eu gwneud ac y byddan nhw, gyda'i gilydd, yn gwneud gwahaniaeth; y camau syml hynny i helpu i reoli a chyfyngu ar effaith y feirws. Bydd parhau i olchi dwylo yn rheolaidd a hunan-ynysu pan fo angen yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol, yn ogystal â helpu'r teulu, ffrindiau a chymdogion pan fydd yn rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.
Llywydd, rydym ni'n gofyn i bobl wneud dewisiadau eithriadol fel sy'n gweddu i'r cyfnodau anghyffredin yr ydym yn eu hwynebu. Rydym yn gofyn i bobl wneud hyn, i helpu eu ffrindiau a'u teuluoedd; gofynnwn i bobl wneud hyn i helpu ffrindiau a theuluoedd na fydden nhw yn eu cyfarfod fel arall o bosib. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog Iechyd, minnau a'm cyd-Weinidogion, Llywydd, yn parhau i hysbysu Aelodau a phobl Cymru yn llawn ac yn rheolaidd, wrth i'r clefyd barhau i fynd ar led.
Prif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, ac fe hoffwn innau hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r ddau deulu sydd wedi colli pobl yn y dyddiau diweddar hyn. Ac rwyf hefyd yn credu, bob tro y byddaf i'n codi, y byddaf yn dweud diolch yn fawr iawn wrth y gwasanaethau iechyd—allwn ni ddim dweud hynny ddigon wrth y staff rheng flaen a'r staff gofal cymdeithasol, ond hefyd diolch i'r arwyr di-glod yn y cefndir—yr ymchwilwyr sy'n ceisio canfod iachâd o'r COVID-19 ofnadwy hwn, ac i bawb sy'n cefnogi'r holl bobl hyn yn yr ymdrech hon.
Nawr, gwrandewais arnoch yn astud iawn yn amlwg yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau dweud yn gyntaf oll fy mod i'n llwyr gefnogi popeth yr ydych chi wedi ei wneud yn y fan yma gyda hyn mewn golwg, o awgrymu bod yn rhaid i bobl 70 oed aros gartref i hunan-ynysu; yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gadw'n hunain yn ddiogel; a sut yr ydym ni'n gofalu am bobl sydd â systemau imiwnedd gwan ac sy'n gwella o glefydau anodd iawn. Rydym ni'n eich cefnogi yn hynny o beth, a chredaf fod hynny'n ardderchog.
Ond, rwyf eisiau gofyn ychydig o gwestiynau eraill i chi am yr holl fater o sut yr ydym ni'n mynd ati i fynd i'r afael â COVID-19. Alla i ddim peidio â gofyn i chi eto am y drefn brofi. Clywais yn glir iawn, ac mewn gwirionedd, atseiniodd yn gryf iawn gyda fi, eich sylw am 'Ein tystiolaeth wyddonol, ein Prif Ymgynghorwyr Gwyddonol a'n Prif Swyddogion Meddygol yn rhoi i ni'r dystiolaeth sef y graig y mae'n rhaid i ni seilio ein holl benderfyniadau arni, ac os ydym ni'n symud y graig honno o gwmpas, yna rydym ni mewn sefyllfa anodd iawn, iawn'. Felly, nid wyf yn gofyn i chi wneud hynny, ond yr hyn yr wyf yn gofyn i chi ei wneud efallai yw dweud wrthym ni sut yr ydych chi ar hyn o bryd yn gwerthuso, yn gyson, y penderfyniad presennol i beidio â phrofi niferoedd mwy o'r boblogaeth. Rwy'n credu bod hyn oherwydd bod gen i ddiddordeb mawr mewn enghreifftiau o leoedd fel De Korea sydd wedi llwyddo i leihau eu hachosion o bron i 1,000 y dydd i lai na 100 y dydd. Eu hethos craidd nhw yw bod profi yn ganolog wedi arwain at ganfod yr haint yn gynnar, y cyfyngwyd ar y lledaeniad ac y triniwyd y rheini oedd â'r feirws arnyn nhw yn gyflym. Felly, rwy'n sylweddoli bod pob un o'r llywodraethau cartref yn gytûn mai dyma'r ffordd yr ydym ni'n mynd ati, ond hoffwn wybod sut yr ydych chi'n edrych ar hynny a sut yr ydych chi'n gwerthuso'r perfformiad hwnnw.
Mae gennyf i ddiddordeb mawr hefyd yn yr agwedd o brofi, oherwydd roeddwn i'n meddwl tybed a oes gennych chi unrhyw wybodaeth o gwbl am ymarferoldeb pecynnau profi yn y cartref. Y rheswm, unwaith eto, rwy'n gofyn hynny, yw oherwydd os ydym ni'n profi ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae'n rhaid i ni eu hailbrofi, eu hailbrofi a'u hailbrofi, gan y gallen nhw fod yn dda ar ddydd Llun, ond os ydyn nhw yn byw gyda rhywun sydd wedi cael COVID-19, efallai na fyddan nhw yn dda ar y dydd Mercher neu'r dydd Gwener.
Yn ail, mae gennym ni boblogaeth oedrannus iawn. Mae gennym ni lawer o bobl y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw gartref. Mae gennym ni lawer o bobl ynysig a fydd yn ei chael hi'n anodd iawn mynd allan os yw bysiau'n teithio yn llai aml ac os bydd llai o drafnidiaeth, a phe gallem ni ddefnyddio'r holl grwpiau gwirfoddol gwych hyn sy'n ymffurfio—pobl fel ni—i fynd allan a helpu, byddai mor ddefnyddiol pe gallem ni gael ein profi, oherwydd wedyn gallem ni, mewn gwirionedd—hyd yn oed os na allwn ni wneud y pethau ymarferol o newid rhwymyn yng nghartref rhywun, mewn gwirionedd, yr hyn y gallwn ni ei wneud yw gweld pobl hŷn a siarad â nhw am hanner awr i drechu'r unigrwydd a'r arwahanrwydd hwnnw a fydd, ar ôl 14 wythnos, o bosib iawn wedi eu meddiannu. Felly, pe gallech chi roi unrhyw wybodaeth i ni ynghylch hynny fel y gallwn ni ystyried sut y gallem ni helpu, byddai'n dda iawn pe gallem ni fod yn ffyddiog bod y rhai sy'n mynd i gartrefi pobl—yn helpu'r henoed, yn helpu'r rhai sy'n feichiog ac yn helpu'r rhai sydd â chyflyrau eraill arnyn nhw—yn ddiogel iawn.
Roeddwn i eisiau cyfeirio at allu cael gafael ar feddyginiaethau mewn nifer o ffyrdd gwahanol, un yw cael gafael ar feddyginiaethau o wledydd tramor. Deallaf fod rhai meysydd lle mae meddyginiaethau'n cael eu cadw'n ôl neu lle bu addasu o ran sut y cânt eu cynhyrchu, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi roi unrhyw drosolwg i ni o'r hyn y mae gwledydd y Deyrnas Unedig yn ei wneud i sicrhau y gallwn ni gael meddyginiaethau. Ond, roeddwn i hefyd eisiau siarad yn fyr iawn, Prif Weinidog, am yr hyn y gallech chi ei wneud i sicrhau y bydd meddygfeydd meddygon teulu, a fyddai fel arfer yn rhoi gwerth pythefnos o feddyginiaeth i rywun ar y tro, yn adolygu eu polisi presgripsiynu mewn gwirionedd fel y gall bobl gael digon o feddyginiaeth i'w helpu os ydyn nhw wedi bod yn hunan-ynysu, neu i atal pobl rhag gorfod mynd allan i gael y presgripsiynau rheolaidd hyn. Rwy'n clywed cryn dipyn o bobl yn dweud, 'ni allaf gael mwy na phythefnos ar unrhyw un adeg o unrhyw gyffur penodol'.
Tybed a allech chi roi amlinelliad i ni o ba gefnogaeth y gallech chi ei rhoi hefyd i'r maes iechyd meddwl. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gofal iechyd meddwl mewn argyfwng yn dal i allu darparu cymorth ychwanegol, yn enwedig i'r rhai y mae ei angen arnyn nhw, yn amlwg, nawr? Oherwydd gallai'r cymorth gwirioneddol hwnnw—a'r cymorth angenrheidiol hwnnw—fod yn fwy, mewn gwirionedd, o ystyried yr ofn a'r pryderon y mae pobl yn eu hwynebu.
Mae hyn yn gwestiwn gwbl anarferol, ond teimlaf hyn yn eithaf cryf mewn gwirionedd. Mae pobl yn ofnus. Dydy pobl ddim yn siŵr beth sy'n digwydd. Gwyddom ein bod yn siarad am hyn ac yn cyhoeddi gwybodaeth, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddech chi neu un o'ch Gweinidogion yn ystyried siarad ag ITV, BBC ac S4C ynghylch gwneud datganiad byr ar y newyddion chwech o'r gloch bob nos sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am yr hyn sy'n digwydd. Oherwydd rwy'n credu pan eich bod chi'n darllen y negeseuon e-bost sy'n cyrraedd, pan eich bod chi'n gweld y cyfryngau cymdeithasol, y newyddion ffug a'r ymdeimlad cyffredinol o banig, rwy'n meddwl tybed a fyddai cael sefydlogrwydd yn y cyfryngau Cymreig ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuddiol mewn gwirionedd. Does dim rhaid i chi ddweud rhywbeth newydd bob tro; mae yn ymwneud ag ailadrodd yr un negeseuon a dweud wrth bobl ei bod hi'n iawn, nad oes angen iddyn nhw fynd i brynu tunelli o fwyd, na fyddan nhw'n llwgu i farwolaeth, byddan nhw'n cael y meddyginiaethau y mae eu hangen arnyn nhw, byddan nhw'n cael y gefnogaeth gan yr holl Lywodraethau, byddan nhw'n iawn. Rwy'n credu bod angen i bobl glywed hynny yn feunyddiol, yn feunyddiol ac yn feunyddiol.
Rwyf wedi gadael y rhan olaf o'm sylwebaeth, Llywydd, i'r fferyllfeydd. Maen nhw dan gryn dipyn o bwysau. Mae gennym ni fferyllwyr sy'n dal heb fod ganddyn nhw ddim o'r offer amddiffynnol yr addawyd iddyn nhw. Nid yw'r offer diogelu o ansawdd da iawn ac mae meddygon teulu yn pryderu yn ei gylch eisoes, heb sôn am y fferyllwyr. Mae fferyllwyr o dan bwysau gwirioneddol, oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod pobl yn ffonio eu meddygon teulu, mae meddygon teulu'n dweud, 'peidiwch â dod atom ni, rydym yn cau ein drysau, byddwn yn siarad â chi dros y ffôn, byddwn yn dweud wrthych chi beth sydd ei eisiau arnoch chi.' Wel, dyfalwch i ble maen nhw'n mynd? At y fferyllydd. Mae fferyllwyr yn teimlo dan bwysau aruthrol a'r pwynt y maen nhw'n ei wneud, wrth iddyn nhw ddiffygio'n raddol gyda'r salwch hwn a gorfod hunan-ynysu, gorfod cau am ychydig ddyddiau i lanhau eu fferyllfeydd yn drwyadl, yw: beth sy'n digwydd wedyn? Rydym ni eisoes wedi gweld fferyllydd yn Arberth sydd wedi gorfod cau ac un yn Hwlffordd sydd wedi gorfod cau. Mae hyn yn rhoi pwysau aruthrol ar fferyllwyr. Maen nhw'n credu mai nhw yw'r rhai sy'n gorfod, ac sy'n fodlon—ddim 'yn gorfod'—rhoi meddyginiaeth ar gyfer pethau megis diabetes, meddyginiaeth ar gyfer y galon ac yn y blaen. Dydyn nhw ddim yn credu bod y byrddau iechyd yn eu cefnogi. Maen nhw'n credu eu bod wedi eu gadael yn ddiymgeledd; maen nhw mor brysur yn canolbwyntio ar y rheng flaen mewn ysbytai a meddygfeydd meddygon teulu fel nad oes neb yn meddwl am y bobl sydd wrth eu sodlau yn rhoi sylw i nifer fawr iawn o bobl—nhw yw'r bobl yr eir atyn nhw gyntaf os oes gan bobl broblem. Felly, tybed a allwch chi fynd i'r afael â'r mater hwn efallai gan eu bod yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gymorth, dim cyngor gan y byrddau iechyd eu hunain.
Ac yn olaf, ac mae hyn braidd yn ddigywilydd, ond wrth gwrs roedd gennych chi warws bach braf yn llawn pethau yn barod ar gyfer Brexit, ac roeddwn i'n meddwl tybed a allech chi ddweud wrthym ni a ydych chi'n dal i fod â'r pethau hynny yno, pa fath o bethau ac a ellid defnyddio'r pethau hynny yn yr argyfwng presennol hwn. Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.
Diolch, Llywydd. Diolch i Angela Burns, Llywydd, y prynhawn yma, ac fe wnaf fy ngorau i ateb cwestiynau lle mae'r wybodaeth gennyf wrth law. Rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn deall y bydd rhai o'r cwestiynau manylach, yn golygu, gan nad oeddwn i'n disgwyl bod yn ateb cwestiynau ar y datganiad hwn, y bydd angen i mi roi ymateb mwy gwybodus i'r Aelodau.
Fel y dywedodd Angela Burns, tra ein bod ni wedi bod yn eistedd yn y fan yma y prynhawn yma cyhoeddwyd marwolaeth ail glaf yng Nghymru ac, wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda phawb sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw. A gaf i hefyd adleisio'r hyn a ddywedodd Angela wrth ddiolch nid yn unig i'r staff rheng flaen yr ydym ni wedi pwysleisio eu cyfrifoldebau yn y fan yma y prynhawn yma, ond wrth bawb sy'n eu cefnogi ac sy'n golygu y gallan nhw wneud y swyddi y mae arnom ni angen iddyn nhw eu gwneud?
O ran y gyfundrefn brofi, gallaf roi sicrwydd llwyr i'r Aelod bod y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o bob cwr o'r byd yn parhau i gael ei hadolygu drwy'r amser yn y pwyllgor cynghori gwyddonol. Yn wir, gwn fod y cynrychiolydd o Gymru yn mynd i'r pwyllgor hwnnw heddiw gyda chwestiynau penodol iawn i'w holi ynglŷn â phrofion, a chyngor ar brofi. Felly, caiff y cyngor a gawn gan ein prif swyddogion meddygol a'n prif swyddogion gwyddonol ei brofi bob dydd—ei brofi'n fewnol ganddyn nhw eu hunain, ei brofi yn unol â'r dystiolaeth ryngwladol sy'n dod i'r amlwg—ac, fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, os bydd y cyngor yn newid, yna byddwn yn dilyn y cyngor hwnnw sy'n dod i'r amlwg oherwydd bydd y cyngor hwnnw'n dilyn y dystiolaeth i'r graddau y gall wneud hynny.
O ran sefyllfa ehangu'r profion i ystod ehangach o bobl na staff clinigol rheng flaen, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn ni'n meddwl amdano, wrth gwrs. Bydd angen ei ystyried yng ngoleuni dau beth: y gallu sydd gennym ni i gynnal profion, yr ydym ni eisiau ei gynyddu, ac i ba raddau y mae dargyfeirio pobl i wneud y gwaith hwnnw yn cael blaenoriaeth dros bethau eraill y gallen nhw eu gwneud, ond mae'n dal yn fater dan ystyriaeth yr ydym ni yn ei adolygu drwy'r amser.
Diolch am y sylw a wnaed am bresgripsiynau rheolaidd, y gwnaf yn siŵr y rhoddwn sylw iddo drwy'r trefniadau arferol. O ran iechyd meddwl, bydd yr Aelodau yn y fan yma yn gwybod bod gennym ni gyfres o linellau cymorth yr ydym ni wedi eu sefydlu ar wahanol adegau at wahanol ddibenion. Rydym ni wedi eu defnyddio yn arbennig ar adegau o straen mewn cymunedau gwledig yng Nghymru, a bwriadwn ddefnyddio'r ganolfan alwadau a'r staff arbenigol iawn sy'n gweithio yno yn Wrecsam i sicrhau, pan fydd angen cymorth ar unwaith ar bobl oherwydd bod ganddyn nhw broblem iechyd meddwl, bod angen cymorth arnyn nhw i gyfeirio pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, y bydd y llinell gymorth honno yn barod i ymateb yng nghyd-destun presennol y coronafeirws.
O ran ymddangos ar y newyddion, credaf i mi ddweud yn gynharach y prynhawn yma y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad dyddiol i'r wasg yng Nghymru. Mae'n debyg y byddwn ni'n gwneud hyn am 9:30 bob bore er mwyn gwneud yn siŵr bod pobl yn cael sicrwydd a gwybodaeth yn feunyddiol. Fel arfer, bydd y canolfannau newyddion yn penderfynu wedyn sut i ddefnyddio'r wybodaeth honno, ond rydym ni, yn y ffordd yr awgrymodd Angela Burns, yn awyddus iawn i sicrhau y ceir y llif gwybodaeth mwyaf rheolaidd posibl i'r cyhoedd yng Nghymru.
Rwyf i eisiau cydnabod yn bendant iawn yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd fferyllfeydd cymunedol. Rydym ni bob amser wedi bod yn ffodus iawn yng Nghymru gyda'n rhwydwaith o dros 700 o fferyllfeydd cymunedol. Byddant hwythau hefyd yn teimlo'r straen a byddan nhw'n rhan bwysig iawn o'n gallu ni i ddarparu gwasanaeth cydnerth i bobl ledled Cymru. Rwy'n gwybod bod ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau y cânt yr offer sydd ei angen arnyn nhw ac fe wnaf i ystyried y sylw a wnaeth yr Aelod ynglŷn â'r angen i fyrddau iechyd eu hystyried yn rhan o'u hymateb rheng flaen yng nghyd-destun y coronafeirws.
Yn olaf, y warws Brexit, mae hynny'n golygu bod gennym ni stoc o gyflenwadau meddygol y gallwn ni ddal ati i'w defnyddio, ac mae hynny'n rhan o'r ateb i'r sylw a wnaeth Angela Burns am i feddyginiaethau fod ar gael. Oherwydd y buom yn paratoi am y posibilrwydd o ymadael heb gytundeb, mae peth stoc yn dal ar gael i'w ddefnyddio. Nid oedd yr wybodaeth ddiweddaraf a welais yn frawychus o ran y meddyginiaethau sydd ar gael yn y dyfodol agos. Efallai y bydd adeg yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan na fydd gweithgynhyrchwyr Tsieineaidd, er enghraifft, wedi bod yn gweithio yn y ffordd y maen nhw fel arfer yn ei wneud, pryd y bydd problemau y bydd angen i ni eu hwynebu, ond nid ydyn nhw yn broblemau ar hyn o bryd cyn belled ag y mae'r coronafeirws yn y cwestiwn.
Dwi eisiau holi am dri maes: dau'n ymwneud efo iechyd, ond, os wnewch chi faddau i mi, mae un yn ymwneud efo addysg oherwydd bod yna ddim cyfle i drafod addysg yma y prynhawn yma, a hefyd oherwydd mae yna ddatblygiad wedi ein cyrraedd ni yn ystod yr hanner awr diwethaf yma. Rydym ni wedi dod yn ymwybodol bod yna ysgol wedi cau ei drysau'n barod i ddisgyblion.
Mae Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, wedi canfod bod yna 23 aelod o staff yn y categori agored i niwed, efo pump o staff ychwanegol efo partneriaid sydd yn disgyn i'r categori penodol yna. So, dyna ichi 28 o'u staff nhw, ac rydw i'n credu mai 60 o staff sydd yn Ysgol Brynhyfryd. Mae yna lythyr wedi mynd allan i'r rhieni yn dweud bod yr ysgol yn cau o yfory ymlaen ar gyfer yr holl ddisgyblion. Felly, mae'r sefyllfa yn newid wrth inni fod yn y Siambr yma heddiw yma. Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud y bydd y dysgu yn parhau ar-lein, ac mae hynny, wrth gwrs, yn newyddion da i'r disgyblion hynny a fydd angen cario ymlaen efo'u hastudiaethau. Yn amlwg, maen nhw wedi dechrau rhoi pethau ar waith. Ond mae hwn yn codi cwestiynau mawr rŵan, onid ydy, ynglŷn ag ysgolion yn penderfynu, oherwydd y sefyllfa, eu bod nhw'n cau beth bynnag.
Felly, beth yn union ydy canllawiau y Llywodraeth i ysgolion sydd yn mynd i fod yn canfod eu hunain yn y sefyllfa yma lle mae yna ganran fawr o'r staff, bron i hanner o'r staff yn fan hyn, yn ffeindio eu hunain mewn categori agored i niwed? Beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud wrth yr ysgolion pan fyddan nhw'n ffeindio eu hunain yn y sefyllfa yma? Beth ydy'r canllawiau ar gyfer lefelau staffio diogel? Plant, yfory, a fuasai'n arfer cael cinio am ddim yn yr ysgol, beth sydd yn mynd i ddigwydd i'r rheini rŵan?
Rydw i'n gwybod y gwnaethoch chi ddweud yn gynharach eich bod chi'n trafod posibiliadau ynglŷn â beth i'w wneud, ac rydw i'n siŵr yn Rhuthun y bydd ganddyn nhw eu paratoadau nhw. Ond mae'r broblem yn fyw rŵan, onid ydy, ac rydych chi'n deall rŵan pam oeddem ni'n gofyn y cwestiynau yma yn ystod amser busnes a pham bod angen inni gael gwybodaeth ac eglurder am y sefyllfa.
Beth ydy'r canllawiau i rieni sydd yn gweithio yn yr NHS, a'u plant nhw rŵan yn mynd i fod adref? Beth mae'r gweithwyr yna i fod i wneud? Ydyn nhw i fod i gario ymlaen i fynd i'r gwaith ynteu ydyn nhw'n mynd i orfod gwneud rhyw drefniadau byrfyfyr rŵan yn sydyn fel bod y plant yn gallu cael eu gwarchod, achos rydyn ni eu hangen nhw yn eu gwaith? Felly, nifer fawr o gwestiynau. Roeddwn i'n bwriadu eu gofyn nhw yfory i'r Gweinidog addysg. Rydw i'n eu gofyn nhw rŵan i chi, achos mai chi ydy'r Prif Weinidog, os gallwn ni gael eglurder am hynny.
I droi at y cwestiynau eraill. Mi oedd Rhun ap Iorwerth yn mynd i wneud y sesiwn yma ac roedd o'n mynd i ofyn ichi am y ventilators. Mae'n ofnadwy o bwysig—dyna'r neges rydw i'n ei chael gan Ysbyty Gwynedd yn fy ardal i. Mae angen digonedd o ventilators yn ein hysbytai ni, ac mae, wrth gwrs, angen y staff hefyd sydd yn deall sut mae'r ventilators yn gweithio. Beth ydy eich trefniadau chi? Pa gamau ymarferol ydych chi'n gweithio arnyn nhw rŵan er mwyn sicrhau bod yna ddigon o ventilators yn mynd i fod ar gyfer y wardiau fydd eu hangen nhw? Rydyn ni'n ymwybodol bod yna un busnes yng Nghymru sydd yn dechrau cynhyrchu ventilators, neu o leiaf mae ganddyn nhw ddull o gynhyrchu ventilators yn sydyn, a buaswn i'n hapus iawn i basio manylion hynna ymlaen ichi. Mae'r fath yna o beth i'w groesawu, wrth gwrs.
Mae'r cwestiwn olaf ynglŷn â'r profi. Dwi yn dod yn ôl at hwn, at y profi yma. Mae o'n bwysig. Rydw i'n gwybod efallai fod yna deimlad na ddylai'r staff rheng flaen o'r ysbytai fod allan yn y canolfannau profi yma, ac y dylen nhw fod yn yr ysbytai yn paratoi. Rydw i'n deall hynna ac mai mater prinder staff sydd yn gyrru hyn siŵr o fod, ar ddiwedd y dydd, sydd yn gwestiwn arall. Ond heb gael y wybodaeth yma ynglŷn â faint sydd yn cael eu heffeithio gan y feirws, sut ydyn ni'n mynd i gael gwybod sut mae'r twf yma yn amlygu ei hun?
Rydw i'n deall yng Ngwynedd, er enghraifft, mi oedd Ysbyty Bryn y Neuadd ar agor ar gyfer gwneud y profion yma reit ar ddechrau hyn—wel, wythnos diwethaf, a bod yn onest. Ond y wybodaeth rŵan ydy bod hwnna ddim yn cael ei defnyddio ddim mwy—Ysbyty Alltwen yr un peth.
Felly, mae'n gwestiwn gen i oes yna unrhyw un yn fy ardal i yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Mae'r mapiau yn dangos Gwynedd fel ardal lle does yna ddim coronafeirws ar hyn o bryd, os nad ydy o wedi newid yn yr oriau diwethaf yma. Mae o'n dangos nad oes yna ddim pobl yn cael eu heffeithio. Wel, does bosib. Does bosib bod pobl ddim yn cael eu heffeithio. A beth mae o'n golygu ydy fod pobl o ardaloedd dinesig yn edrych ar y map ac yn meddwl, 'O, mae Gwynedd yn lân. Does yna ddim byd yng Ngwynedd. Awn ni draw i'r fan honno.' Mae yna hanesion anecdotaidd fod hynny yn digwydd, ond, wrth gwrs, i fynd yn ôl at y profi, os nad ydyn ni'n gwybod beth ydy lefel y broblem, nid ydyn ni'n gwybod a ydy hyn yn cyfrannu at y broblem—ydy hyn yn rhywbeth yr ydyn ni angen bod yn meddwl amdano fo? Bydd yn broblem, mae'n debyg, a fydd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd, dim jest yng Nghymru, ac mae angen edrych ar hwnna.
Jest y pwynt olaf, o ran y profi, rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i wneud rhyw fath o byramid o flaenoriaethu. Dwi'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd. Gweithwyr iechyd, rydych chi'n dweud, ond mae eu teuluoedd yna hefyd. Os oes yna blentyn yn arddangos y symptomau, ac rydych chi'n gweithio yn y sector iechyd, rydych chi angen gwybod, os ydy'r plentyn yn sâl, a ydych chi'n gallu parhau i fynd i'r gwaith. Felly, dwi'n deall pam eich bod chi yn cyfyngu ar y nifer yr ydych chi'n mynd i'w profi, ond dwi yn gofyn am well esboniad ynglŷn â sut ydych chi'n mynd i fod yn mesur y twf sydd yn mynd i ddigwydd, yn anffodus. Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau yna. Dwi'n clywed am Ysgol Brynhyfryd am y tro cyntaf ar fy nhraed yn fan hyn. Beth sy'n fy nharo i yw bod ysgolion yn yr un lle â meddygon teulu a'r fferyllfeydd dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw y prynhawn yma. Os oes nifer o staff yn y cyd-destun yna—os nad oes digon o staff i redeg y fferyllfa, neu'r feddygfa teulu, wel, bydd yn rhaid iddyn nhw gau'r drws am dymor i gael staff nôl ac i agor unwaith eto.
Yn y tymor byr, y canllawiau yw yr un canllawiau y mae'r ysgolion yn eu defnyddio pan mae pethau eraill, fel eira, yn bodoli—jest i wneud pethau fel mae'r ysgolion wedi gwneud dros y blynyddoedd i ymdopi â rhywbeth sydd yn digwydd fel hyn. Wrth gwrs, bydd mwy o ganllawiau yn dod mas pan fydd pethau yn bwrw ymlaen, ond yn y tymor byr, dwi'n siŵr y bydd pobl yn yr ysgol ac yn yr awdurdodau lleol yn gallu rhoi pethau yn eu lle i ymdopi â'r hyn sydd wedi digwydd yn yr un ysgol. Dwi'n cydnabod, wrth gwrs, beth roedd Siân Gwenllian yn dweud am ganllawiau cyffredinol pan fydd pethau yn datblygu, a bydd y Gweinidog Addysg yn gallu ymateb cwestiynau am bethau fel yna yfory ac ar ddydd Iau hefyd.
Dwi'n cytuno yn llwyr gyda'r hyn roedd Siân Gwenllian yn dweud am ventilators. Rŷn ni'n gweithio dros y Deyrnas Unedig i gyd gyda'n gilydd, gyda'r Alban, gyda phobl yng Ngogledd Iwerddon ac yn Lloegr hefyd i wneud un ymdrech gyda'n gilydd. Byddai'n grêt i gael manylion am unrhyw gwmni sy'n gallu helpu, ac rŷn ni'n edrych am bobl eraill sy'n gallu ailaddasu beth maen nhw'n gwneud nawr i greu mwy o ventilators. Wrth gwrs, rŷn ni'n siarad am bethau eraill hefyd—non-invasive ventilators, fel dwi'n cofio, a phethau eraill mae'r meddygon yn gallu eu defnyddio. Ac fel roedd Siân Gwenllian yn dweud, rŷn ni eisiau cynyddu nifer y ventilators sydd gyda ni, ond hefyd mae'n rhaid inni hyfforddi pobl sydd wedi bod yn gwneud pethau hollol wahanol yn yr ysbytai i'w defnyddio nhw yn y ffordd gywir hefyd.
Ar brofi, wel, dwi wedi dweud beth roeddwn i'n mynd i'w ddweud am pam rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n ei wneud.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i wneud ei waith o gadw golwg ar y clefyd ledled Cymru. Credaf fod Merthyr yn rhan arall o Gymru lle mai ychydig iawn o achosion sydd ar yr adeg hon yn yr ymdrech arolygu. Mae ffyrdd soffistigedig iawn, Llywydd—ymhell y tu hwnt i'm gallu i i esbonio—lle gall modelwyr ddweud wrthych chi pa mor gyffredin yw'r clefyd mewn cymuned o nifer y bobl sydd angen gofal dwys. Bydd cymarebau y gallan nhw eu casglu o'r dystiolaeth sydd ganddyn nhw eisoes. Byddan nhw'n dweud, 'Mae'r nifer yma o bobl yn cael gofal dwys. Mae hynny'n golygu mai dyma pa mor gyffredin yw'r haint yn y gymuned ar lefel gymunedol.' Ac mae hynny i gyd yn digwydd. Nid yw'r newid yn y drefn brofi yn golygu nad oes unrhyw wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yn gymunedol. Ond fel yr wyf i'n ei ddweud, ceir trafodaeth ddyddiol ynghylch pa un a oes angen gwneud hynny'n wahanol neu ei gryfhau mewn ffyrdd eraill.
Ac rwy'n deall yn llwyr y sylwadau a wnaeth Siân Gwenllian ar y diwedd am y cyd-destun teuluol y mae gweithwyr clinigol yn gweithredu oddi mewn iddo, ac am i hynny gael ei gynnwys yn y drefn brofi. Bydd cylchlythyr—rwyf yn gobeithio y bydd ar gael heddiw—a anfonir at y GIG drwy swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol yn manylu ynghylch sut y caiff y gyfundrefn honno ei chynnal.
Diolch i chi am gyflwyno'r datganiad, Prif Weinidog, ac a gawn ni ddymuno'r gorau i'r Gweinidog Iechyd a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn o brysur bwyso? Diolchwn i chi hefyd am yr ymdrech yr ydych yn mynd iddi i'n diweddaru ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn.
Diolch eto i bawb sy'n helpu—o staff y GIG i'r llu o wirfoddolwyr yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw. Hefyd, hoffwn estyn unwaith eto fy nghydymdeimlad i deulu'r claf a gollodd ei fywyd, gwaetha'r modd, i'r clefyd hwn.
Gweinidog, mae'n hanfodol ein bod ni'n sefyll yn gadarn ac yn unedig yn erbyn y clefyd hwn. Gall y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i atal lledaeniad y clefyd hwn fod yn anodd eu derbyn ond maen nhw yn angenrheidiol iawn. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y clefyd hwn, sy'n heintus iawn, yn cael ei gyfyngu i'r fath raddau ag sy'n ddynol bosib, oherwydd bob dydd mae'r sefyllfa o ran y coronafeirws yn newid. Wrth i bobl orfod aros yn eu hunfan i wahanol raddau mewn gwledydd drwy'r byd, mae'n rhaid i ni fynd ati mewn ffordd gall, cyfyngu ar ein cysylltiad â phobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o achos y feirws, ac arfer hylendid dwylo rheolaidd.
Bydd fy mhlaid i yn cefnogi eich ymdrechion i gyfyngu ar ein hamlygiad i COVID-19. Mae ein hymdrechion ar y cyd yn hanfodol i atal lledaeniad y clefyd hwn a'i gadw a sicrhau cyn lleied o effaith â phosib. Ac os ydym ni eisiau cadw'r gyfradd i lawr, mae hyn yn angenrheidiol. Bydd yr hyn a wnawn ni, a'r hyn a wnaiff y cyhoedd yn gyffredinol, yn helpu i arafu lledaeniad y clefyd hwn ac yn y pen draw yn helpu i achub bywydau.
Mae cyfnod anodd o'n blaenau ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned. Mae'n bosibl bod y camau gweithredu a amlinellwyd gan Brif Weinidog Prydain, ein Gweinidog Iechyd a'n Prif Weinidog ni yma yng Nghymru yn amhoblogaidd ond maen nhw'n hanfodol bwysig.
Gweinidog, mae hylendid dwylo cyn bwysiced ag erioed, ond rwyf wedi clywed adroddiadau nad oes sebon ar ôl mewn rhai ysgolion ac na allan nhw fforddio cael mwy ohono. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus gyflenwadau digonol o offer hylendid a, phan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, offer diogelu personol?
Drwy gydol y cyfnod hwn o brysur bwyso, mae'n rhaid i ni fod mor dryloyw â phosibl gyda'r cyhoedd ynglŷn â pham yr ydym ni'n gweithredu yn y modd yr ydym ni. Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnal cynadleddau rheolaidd i'r wasg gyda swyddogion iechyd y cyhoedd a'r Prif Swyddog Meddygol i roi gwybodaeth a sicrwydd i'r cyhoedd am y camau sy'n cael eu cymryd i frwydro yn erbyn COVID-19, a thawelu meddyliau pobl ynglŷn â'r camau hynny?
Mae'r angen i ddatblygu triniaethau therapiwtig o'r pwys mwyaf. Gweinidog, a allwch chi amlinellu'r hyn y mae ein cydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ledled y DU, ein sector addysg uwch a'r diwydiant fferyllol yn ei wneud i ddatblygu triniaethau wrth i ni ddisgwyl canlyniad yr arbrofion o ran creu brechlyn?
Yn olaf, Gweinidog, dylid canmol ymdrechion arwrol ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Heb iddyn nhw roi eu hunain mewn perygl byddai ein sefyllfa'n waeth o lawer. Wrth i'r argyfwng hwn ddwysáu, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi hefyd i ddefnyddio gwirfoddolwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i wneud gorchwylion symlach sy'n rhoi amser i staff clinigol ganolbwyntio ar ofal critigol?
Diolch eto am eich ymdrechion a byddaf yn parhau i weithio gyda chi drwy gydol yr argyfwng hwn.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones am yr holl bethau a ddywedodd wrth gyflwyno ei chwestiynau? Cytunaf yn fawr iawn â'r sylwadau a wnaeth am yr ymdrechion ar y cyd y bydd angen i ni eu gwneud ledled y Siambr hon ac yn llawer ehangach wrth wynebu'r argyfwng sydd ar ein gwarthaf.
O ran ei chwestiynau penodol ar yr offer hylendid sydd ar gael mewn ysgolion, trafodais hyn y bore yma gyda'r Gweinidog Addysg ac mae cynlluniau yn yr arfaeth i symud adnoddau o rannau eraill o'r sector cyhoeddus i helpu lle mae hynny'n broblem.
O ran cynadleddau rheolaidd i'r wasg, rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn i'r rheini gael eu cyflwyno gan gyfuniad o wleidyddion sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, ond hefyd y rhai sy'n darparu'r cyngor y seilir y penderfyniadau hynny arno. Hoffwn ddiolch ar goedd i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, sydd wedi bod wrth ei ddesg heb egwyl nawr ers wythnosau lawer, gan wneud yn siŵr ein bod i gyd yn cael yr holl gyngor sydd ei angen arnom.
Mae datblygu triniaethau ar gyfer y coronafeirws yn ymdrech ryngwladol, Llywydd, lle mae'r DU yn gwneud ei rhan, oherwydd mae arnom ni angen holl ymdrechion gwyddonwyr ac arbenigwyr eraill, nid yn unig yn y wlad hon ond mewn mannau eraill, i wneud y datblygiadau angenrheidiol mor gyflym â phosib.
Yn olaf, o ran ymdrechion eraill , gadewais y Siambr ychydig yn gynharach yn y trafodion, Llywydd, i fynd i gwrdd â phennaeth newydd y lluoedd arfog yma yng Nghymru. Cefais sicrwydd ganddo ynghylch parodrwydd y lluoedd arfog yng Nghymru i ymgymryd â swyddogaethau lle y gallai fod angen eu cymorth dros yr wythnosau i ddod. Bydd y Bil brys, y caiff yr Aelodau yn y fan yma y cyfle i'w drafod yr wythnos nesaf, yn cynnwys, rwy'n rhagweld, pwerau newydd y gall Gweinidogion Cymru eu defnyddio i allu cyflymu'r broses o ehangu swyddogaethau cymorth i bobl na chânt eu cyflogi yn y ffyrdd hynny ar hyn o bryd.
Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. A gaf i ddiolch ar goedd i bawb yng Nghymru sy'n ceisio cadw ein gwasanaethau cyhoeddus i fynd yn wyneb y salwch hwn? Atebwyd llawer o'm cwestiynau, ond roedd arnaf eisiau holi ynghylch y mater o awyryddion hefyd. Yn amlwg, clywais eich ateb i Siân Gwenllian. Rwy'n siŵr nad fi fydd yr unig un a oedd yn arswydo ei bod hi'n ymddangos ein bod yn crefu am gymorth y sector gweithgynhyrchu i'n helpu gyda'r sefyllfa o ran awyryddion. Tybed a allech chi fod ychydig yn fwy penodol ynghylch y niferoedd yn hyn o beth a pha fath o asesiad yr ydych chi wedi ei wneud o faint o ddiffyg sydd gennym ni mewn gwirionedd yn y maes hwnnw.
Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedwyd am ddechrau profi pob gweithiwr gofal iechyd. Credaf fod hynny'n hollbwysig. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n cael eglurder, cyn gynted â phosibl, ar y mater ynghylch plant a phobl eraill sy'n ddibynnol ar weithwyr iechyd. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe gellid rhannu'r cylchlythyr y cyfeiriasoch chi ato sy'n cael ei gyflwyno heddiw gydag aelodau'r Cynulliad, gan fy mod i'n sicr wedi cael nifer o ymholiadau gan weithwyr gofal iechyd yn fy etholaeth i.
Roeddwn eisiau gofyn am welyau gofal critigol. Byddwn i gyd wedi gwylio'r sefyllfa yn yr Eidal gyda gofid, ond, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gan yr Eidal 12.5 o welyau gofal critigol i bob 100,000 o'r boblogaeth, o'i gymharu â 6.6 fesul 100,000 yn Lloegr, ac nid wyf yn siŵr beth yw'r ffigur yng Nghymru. Felly, hoffwn ofyn pa asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r diffyg a pha gynlluniau penodol sydd ar waith i geisio rhoi hwb gwirioneddol i'r gallu hwnnw nawr, pan fydd gwir angen hynny arnom ni. Cyfeiriodd Angela Burns at iechyd meddwl: credaf fod hynny'n hollbwysig, nid yn unig o ran sicrhau bod pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl—sydd wedi cael diagnosis o afiechyd meddwl—yn cael cymorth, ond hefyd, rwy'n credu, yn rhagweithiol, o ran cydnabod y bydd hyn yn her iechyd meddwl fawr i'r wlad i gyd, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod bod llawer o bobl ifanc yn teimlo'n hynod o bryderus a bod pobl o bob oed yn teimlo'n bryderus iawn ac a fyddai'n elwa ar glywed neges iechyd y cyhoedd gref o ran sut yr ydym ni i gyd yn gofalu am ein hiechyd meddwl mewn cysylltiad â'r argyfwng hwn. Diolch.
Diolch i Lynne Neagle am y cwestiynau yna. Llywydd, wnaf i ddim ceisio rhoi rhif, y rhifau penodol y gofynnodd Lynne amdanyn nhwt o ran awyryddion. Mae'n ddigon posibl bod y Gweinidog Iechyd wedi eu cael; does gennyf i ddim atgof ohonyn nhw. Ond gallwn ofyn i Vaughan roi'r manylion hynny. Af ati'n sicr i wneud yn siŵr, pan gyhoeddir y cylchlythyr, yr hysbysir Aelodau yn ei gylch ac y cynhwysir dolen fel ei fod ar gael i bawb.
O ran gofal critigol, nid wyf ar unrhyw gyfrif eisiau tanbwysleisio y pwysau real iawn, iawn a fydd yna i allu gofal critigol yn y wlad hon i ymdopi. Credaf fod cymariaethau â gwledydd eraill yn aml yn anodd, gan fod diffiniadau'n wahanol a bod y modd y cyfrifir gwelyau yn wahanol, ond, o roi hynny i gyd o'r neilltu, nid oes amheuaeth o gwbl y bydd y pwysau y byddwn yn ei wynebu yn real iawn. Y peth cyntaf y byddwn yn ei wneud fydd gweithredu'r cynlluniau sydd gan y byrddau iechyd eisoes, sy'n eu galluogi i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol presennol. Pan gyhoeddodd ein cyd-Aelod, Vaughan Gething, £15 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yng ngallu gofal critigol y llynedd, roedd pwyslais arbennig ar allu allgymorth gofal critigol. Gan fod cleifion yn aml yn aros ar ward gyffredin lle mae amwysedd o ran pa un a ellir gofalu amdanyn nhw yn briodol yno—a oes angen gofal critigol ac allgymorth gofal critigol arnyn nhw? Roedd caniatáu i'r bobl hynny barhau i gael gofal yn y ward y maen nhw ynddi yn rhan bwysig o gynllun y llynedd, a bydd yn rhan o waith cynllunio'r gwasanaeth iechyd, ac mae mwy yn cael ei wneud i gynllunio ar gyfer y galw yr ydym yn gwybod y bydd yn bodoli.
O ran iechyd meddwl, cytunaf yn llwyr â'r sylwadau a wnaeth Lynne Neagle. Mae'n un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi bod yn awyddus i beidio â phenderfynu'n fyrbwyll i gau ysgolion, oherwydd gwyddom fod miloedd o bobl ifanc yn ein hysgolion sy'n dibynnu ar y gwasanaethau iechyd yr ydym ni wedi eu datblygu yn eithaf diweddar yn ein hymagwedd ysgol gyfan. Ac os ydym ni'n cyrraedd adeg lle nad yw ysgolion bellach yn gallu agor yn y modd y maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, yna yn ogystal â meddwl am sut y gallwn ni ymateb i anghenion pobl y mae angen prydau ysgol am ddim arnyn nhw, a sut y byddwn ni'n ymdrin â phlant pobl sy'n weithwyr rheng flaen ac y mae angen iddyn nhw fod yn eu gwaith, mae angen hefyd i ni gynllunio ar gyfer diwallu anghenion iechyd meddwl y bobl ifanc hynny y darperir ar eu cyfer ar hyn o bryd mewn ysgolion ac na ellir darparu ar eu cyfer yn y modd hwnnw os bydd yn rhaid cau ysgolion.
Nid wyf wedi clywed neb yn y Siambr yn dadlau dros weithredu ar fyrder i gau ysgolion, ac mae'r mater yn un priodol iawn i'w ystyried, ond rhan o'r rheswm dros fod yn awyddus i ysgolion barhau ar agor cystal ag y gallan nhw am gyhyd ag y gallan nhw yw rhoi cyfle i bob un ohonom ni gynllunio ar gyfer y nifer fawr o anghenion y mae ysgolion yn eu diwallu heddiw ac y bydd yn rhaid eu diwallu mewn ffyrdd gwahanol os nad yw'r system bresennol yn parhau fel y mae hi ar hyn o bryd.
Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob plaid nawr, felly a gaf i ofyn i'r bobl sy'n dal i fod ar ôl y byddwn yn galw arnyn nhw yn y datganiad hwn i ddim ond gofyn eu cwestiynau, os gwelwch yn dda? Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd, rwy'n ceisio gweld pa gwestiynau nad ydyn nhw wedi eu gofyn eisoes; mae un neu ddau. Fel y gwyddoch chi, gyda'm cylch gwaith—. Ac unwaith eto diolch i chi am ddangos arweiniad, a hefyd i Vaughan Gething, ac rwy'n gobeithio y daw yntau a'i deulu drwy hyn yn iawn.
Mae'r mater—gyda'm het portffolio ar fy mhen nawr— rwyf wedi cael llawer o bobl yn cysylltu sy'n dal i bryderu'n fawr am y sector gofal cartref a pha fath o gymorth y maen nhw'n mynd i'w gael o ran yr offer diogelu y mae angen iddyn nhw eu gwisgo. Nawr, fe soniais i am hyn yr wythnos diwethaf, ac fe grybwyllwyd y mater ynghylch y grŵp cynllunio ac ymateb gofal cymdeithasol. Mae darparwyr gofal cartref wedi cael eu cynghori i adolygu eu rhestr o gleientiaid a sicrhau ei bod yn gyfredol, gan gynnwys faint o gymorth anffurfiol sydd ar gael i unigolion. Felly, pa ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i rannu gwybodaeth am unigolion sy'n cael gofal yn y cartref â phartneriaid lleol, megis arweinwyr grwpiau cefnogi gwirfoddol sy'n ymateb i COVID-19?
Byddwch yn ymwybodol, mae'n debyg, Prif Weinidog, y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn arf cymorth mewn argyfwng o'r fath, ac mae llawer iawn o bobl yn cynnig eu hunain, rhai gyda hyfforddiant, rhai hebddo. Maen nhw yn wirioneddol ceisio cael arweiniad gennyf i, fel Aelod Cynulliad, o ran sut y gallan nhw ddod â phopeth ynghyd a sicrhau y caiff y math hwn o gymorth ei ddefnyddio i'r eithaf. Felly, pe gallech chi roi neges o gefnogaeth yn hynny o beth—.
Mae yna hefyd bobl sy'n weithwyr gofal cymdeithasol sydd wedi ymddeol, sydd wedi cysylltu i ddweud, 'Rwy'n hapus i ail-gydio ynddi a helpu lle bo angen'. Unwaith eto, mae hynny'n adnodd na fanteisiwyd arno, a byddai'n ddoeth, yn fy marn i, i ni beidio â'i anwybyddu. Mae ein comisiynydd pobl hŷn wedi dweud bod angen i Gymru fod yn greadigol iawn er mwyn sicrhau bod pob person hŷn yn gwybod bod ganddyn nhw bobl sy'n gofalu amdanyn nhw ac sydd mewn cysylltiad. Mae hi wedi cyfarfod â Llywodraeth Cymru, Age Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, felly a allech chi egluro beth yr ydych chi'n ei wneud i helpu sefydliadau i ganfod pa gymorth sydd ei angen ar bobl hŷn, ac i'w ddarparu?
Mae canolfannau dydd, cylchoedd chwarae a meithrinfeydd wedi cysylltu â mi hefyd ynglŷn â chyngor ac arweiniad, am eu bod yn credu nad ydyn nhw wedi cael dim o ran, unwaith eto, offer amddiffynnol a chyngor ynghylch yr hyn y dylen nhw ei wneud. Maen nhw i gyd yn byw, ar hyn o bryd, fel yr ydym ninnau i gyd, o un awr i'r llall, o un diwrnod i'r llall, ac maen nhw eisiau rhyw fath o gyngor.
Hefyd, cwestiwn sydd gennyf i chi, Prif Weinidog: o ran profi, a fydd unrhyw gynlluniau, yn y dyfodol, i gyflwyno pecynnau hunan-brofi yn y cartref?
Yn olaf, mae Cadeirydd Cymdeithas Lletygarwch Llandudno a gwestywyr eraill, sydd—mae'r rhain yn fyddin o wirfoddolwyr sydd yn gwbl gyfarwydd â'r safonau hylendid bwyd, sydd wedi hen arfer—. Maen nhw'n dweud y gallen nhw helpu, lle bo angen, fel gwirfoddolwyr, drwy newid gwelyau, paratoi bwyd. Felly, mewn cyfnod mor anghyffredin, a wnewch chi edrych ar bob ffordd o ymgysylltu â'r gymuned fusnes yr effeithir arni mor wael ar hyn o bryd? Ond, er eu bod yn poeni a all eu busnes barhau, maen nhw'n barod i dorchi llewys a bod o ryw wasanaeth yn eu cymunedau. Felly, unwaith eto, pe gallech chi ymateb i'r rheini—. Diolch.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Credaf fod Janet Finch-Saunders yn iawn i boeni am y sector gofal cartref. Rwyf innau'n poeni cryn dipyn amdano, oherwydd rydym ni'n dibynnu cymaint arno, ac eto bydd pobl sy'n gweithio yn y maes hwn yr un mor agored i gael y feirws, a'r sylwadau a wnaeth Janet ynglŷn â gofyn i ddarparwyr adolygu eu rhestrau a bod yn sicr y gallan nhw flaenoriaethu ymweliadau i le mae wirioneddol eu hangen yn sicr yn rhan o'r gwaith paratoi hwn.
Gwnaed sylw pwysig am rannu gwybodaeth. Rydym ni i gyd yn gyfarwydd â'r rheolau llawer llymach yn ddiweddar—rheolau cyffredinol rheoliadau diogelu data—sy'n gwneud awdurdodau cyhoeddus yn nerfus ynghylch rhannu gwybodaeth rhag ofn eu bod yn torri rhyw reoliad neu'i gilydd. Felly, bwriadwn grybwyll hyn drwy'r trafodaethau ar lefel y DU fel y gallwn ni roi rhywfaint o sicrwydd i awdurdodau cyhoeddus na fydd rhoi gwybodaeth i helpu rhywun arall i wneud y peth iawn yn yr amgylchiadau hyn yn arwain at oblygiadau wedyn, ac mae hwnnw'n sylw pwysig a wnaed.
Drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rhagwelwn yn fuan iawn y bydd pob awdurdod lleol yn dod yn ganolbwynt i bobl leol a fu'n weithwyr gofal yn y gorffennol, neu wedi ymddeol yn ddiweddar neu sydd wedi symud i ryw swydd arall, sydd yn fodlon dychwelyd i'r gweithlu hwnnw. Yr awdurdod lleol—eu hawdurdod lleol nhw—fydd y pwynt cyswllt cyntaf, fel bod rhyw fath o system yn seiliedig ar barodrwydd pobl i ymateb yn y ffordd honno.
Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau yn gynharach, Dirprwy Lywydd, mae cyfarfod yn cael ei drefnu yfory gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, gyda chymdeithasau gwirfoddol sirol ac eraill i geisio harneisio'r holl ymdrech honno y gwyddom y mae pobl yn barod i'w gwneud yn lleol. Nid oeddwn wedi meddwl am westywyr yn y ffordd y disgrifiodd Janet, ond mae hi'n iawn, wrth gwrs, eu bod nhw'n bobl sydd â sgiliau penodol o ran gofalu am bobl yn y cyd-destun hwnnw, ac efallai eu bod nhw mewn sefyllfa i addasu'r sgiliau hynny a helpu mewn sefyllfaoedd eraill. Felly, unwaith eto, diolch i chi am wneud y pwynt hwnnw a byddaf yn sicrhau y caiff ei drosglwyddo.
Meithrinfeydd—credaf fod cyngor ar gael i feithrinfeydd. Mae'n sector gwasgaredig; efallai nad yw pawb yn gwybod ble i chwilio am y cyngor sydd ar gael iddyn nhw. Ond, unwaith eto, ledled y Deyrnas Unedig, mae meithrinfeydd yn un o'r sectorau hynny lle bydd angen gweithredu i sicrhau bod darparwyr da sy'n gwneud gwaith gwirioneddol bwysig—ac rydym ni wedi gweld twf mewn darparwyr yng Nghymru drwy'r cynnig gofal plant ac yn y blaen—yn dal i fod yno ar ôl y coronafeirws, pan fydd angen eu gwasanaethau eto, tra yn y cyfnod byr efallai y byddan nhw'n cael trafferth oherwydd eu bod yn dibynnu ar rieni sy'n talu ffioedd ac nad yw eu plant efallai'n mynychu. Felly, mae gwaith yn mynd rhagddo i geisio sicrhau bod Trysorlys y DU yn deall ymyrraeth tymor byr i gadw'r busnesau hynny'n fyw, oherwydd maen nhw yn fusnesau da ac yn fusnesau hyfyw ac mae angen iddyn nhw fod yn hyfyw pan fydd hyn i gyd wedi dod i ben.
Prif Weinidog, clywais eich ateb i gwestiynau blaenorol am brofi, ond hoffwn, os yw'n bosib, bwyso arnoch chi ychydig ymhellach ar hyn. Mae llawer o aelodau'r cyhoedd yn ddryslyd iawn pan eu bod yn eich gweld chi yn rhoi un gosodiad ac yna mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu dadansoddiad gwahanol iawn. Rwyf wedi gweld y prynhawn yma, dros y ffin yn Lloegr, y cynhaliwyd 7,000 o brofion yn ystod y 24 awr diwethaf. Felly, mae gennym ni drefn wahanol iawn rhwng nid yn unig y Llywodraeth yn y fan yma a llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig, ond trefn wahanol yn y fan yma i'r hyn sy'n cael ei argymell gan Sefydliad Iechyd y Byd.
Felly, byddai'n ddefnyddiol, yn fy marn i, i ni ddeall pam mae hynny'n digwydd. Pam mae gennym ni gyngor sy'n wahanol i'r hyn a dybiwn sy'n cael ei dderbyn gan Weinidogion yr Alban a Lloegr? A ydym ni'n siarad â Sefydliad Iechyd y Byd i ddeall pam maen nhw'n darparu'r cyngor hwnnw i lywodraethau ledled y byd sy'n ymwneud â hyn? Ac a allwn ni sicrhau ein bod ni yn y fan yma yn cael y cyngor gorau posibl sydd ar gael i ni ac y profir hynny wedyn yn erbyn y cyngor a roddir i Weinidogion eraill mewn Llywodraethau eraill, nid yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, ond ledled Ewrop a gweddill y byd?
Rwy'n credu bod llawer ohonom ni wedi drysu braidd pam nad ydym ni fel pe byddem yn rhoi mwy o bwyslais ar brofi, ac wedyn sicrhau, pan gynhelir profion, os ydym ni'n edrych ar bersonél rheng flaen allweddol, y caiff gwasanaethau cymdeithasol a gofalwyr eu cynnwys mewn gwirionedd hefyd.
Diolch i'r Aelod am y y cwestiynau yna, Llywydd. Rwy'n credu fy mod i wedi dweud ambell waith y prynhawn yma y byddwn ni'n ystyried ehangu, lle gallwn ni, y profion ar weithwyr allweddol i gynnwys grwpiau eraill. Rwyf yr un mor ofidus ag Alun Davies ynghylch y dryswch anochel ym meddyliau'r cyhoedd pan eu bod yn clywed gwahanol grwpiau a gwahanol ffynonellau o arbenigedd yn dweud gwahanol bethau. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn darparu cyngor ar gyfer ymhell dros 100 o wledydd, ac ni fydd y defnydd o'r cyngor hwnnw byth yn union yr un fath mewn unrhyw le, oherwydd bod yn rhaid i'r cyngor hwnnw gael ei raddnodi yn ôl amgylchiadau unrhyw un o'r gwledydd hynny sy'n aelodau o'r cyngor.
Gallaf ddweud yn bendant bod y cyfarfodydd a gynhelir rhwng y pedwar prif swyddog meddygol a'r cynghorwyr gwyddonol yn cael gwybodaeth gan Sefydliad Iechyd y Byd, eu bod yn clywed ganddyn nhw yn uniongyrchol, nad ydyn nhw byth yn cynghori mewn anwybodaeth o'r ffynonellau hynny o gyngor. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru fod yn glir ac yn ddiamwys yn y modd hwn, oherwydd credaf mai dyma'r peth gorau y gallaf ei wneud—sef ceisio gwrthsefyll y dryswch yr wyf yn cytuno sy'n destun gofid—a dyma yw hynny: mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar y cyngor a gawn ni gan y bobl a gyflogir i'w roi i ni, sy'n deall Cymru orau, sy'n deall y wyddoniaeth orau, ac sydd felly yn y sefyllfa orau i gynghori'r Llywodraeth. Pa bynnag ffynonellau eraill o gyngor sydd ar gael, eu lle nhw yw hidlo hynny, eu lle nhw yw distyllu hynny, eu lle nhw yw dweud wrth Lywodraeth beth sy'n briodol i'w wneud, ac yna mae'n rhaid i Lywodraeth weithredu ar y cyngor hwnnw.
Prif Weinidog, Diolch am eich datganiad y prynhawn yma. A gaf i ategu'r sylwadau gan gydweithwyr sydd wedi crybwyll yr agwedd iechyd meddwl ar hyn? Rydym yn llythrennol yn gweld bywydau pob dydd pobl, ym mha faes bynnag y maent yn byw, yn cael eu darnio gan hyn, ac mae unffurfiaeth a rheoleidd-dra yn un o'r ffactorau sefydlogi ym mywydau'r rhan fwyaf o bobl. Er fy mod yn gwerthfawrogi holl ymdrechion y GIG i ddarparu gofal critigol ar hyn o bryd a darparu gwelyau, bydd galw enfawr ar y gwasanaethau darpariaeth iechyd meddwl sydd yn y wlad hon. Mae hi'n gysur gennyf eich clywed yn cyfeirio at gymunedau gwledig a'r gefnogaeth a fu ar gael i gymunedau gwledig drwy rai o'r helyntion iddynt eu hwynebu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dau beth yr hoffwn eu gofyn i chi, os yn bosib, os gwelwch yn dda, Prif Weinidog. Mae'r un cyntaf yn adeiladu ar y pwynt a godwyd gan Janet Finch-Saunders am bobl a allai fod o gymorth yn y sector gofal. Rwyf wedi cael amryw o gartrefi gofal dros y 48 awr ddiwethaf yn cysylltu ac yn cyfeirio at y ffaith bod eu niferoedd staffio yn prinhau yn feunyddiol ac, yn amlwg, yn ôl y rheolau, mae'n rhaid i staff fod yn gofrestredig—ac yn briodol iawn mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gofrestredig—er mwyn i'r amgylchedd fod yn un diogel. Ond mae modd, buaswn yn awgrymu, o'r ddadl a gyflwynwyd i mi, o ystyried cofrestriadau newydd a gweithio gyda'r arolygiaeth i sicrhau bod yr amgylchiadau'n briodol fel y gall darparwyr cartrefi gofal weithio mewn amgylchedd newydd i brysuro cofrestriadau ac ymdrin â'r amgylchiadau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd ac yn yr wythnosau sydd i ddod, sy'n amgylchiadau unigryw. Byddwn yn ddiolchgar deall a wnaed unrhyw gynnydd yn hynny o beth.
Yr ail beth—ac rwy'n sylweddoli na allwch chi efallai roi ateb i mi ar hyn o bryd, ac yn rhan o'r hyn yr ydych yn ymdrin ag ef ar hyn o bryd mae bron yn ymddangos yn amherthnasol, ond o gofio bod llawdriniaethau wedi'u canslo, bod llawdriniaethau arferol, llawdriniaethau beunyddiol wedi eu canslo, nid yw'n afresymol y bu pobl yn dod ataf fi a llawer o Aelodau Cynulliad eraill i geisio deall pryd y gellid ailgyflwyno trefn o lawdriniaethau y byddem yn ei hystyried yn arferol i'r GIG. Wrth inni sefyll yma heddiw, mae'n ymddangos bod hynny'n bosibilrwydd sydd ymhell iawn ar y gorwel. Gwelaf fod Lloegr newydd ymuno â'r un drefn ag a gyhoeddodd Cymru ddydd Gwener. Ond nid yw'n gais afresymol i etholwyr sy'n cysylltu ag Aelodau'r Cynulliad i geisio deall pryd y gallai'r llawdriniaeth hirddisgwyliedig honno y buont yn aros amdani i roi terfyn ar eu poen a'u rhoi ar lwybr adferiad—efallai—gael ei hystyried yn y GIG yn y dyfodol. Gallai fod yn chwe mis; gallai fod yn dri mis; gallai hyd yn oed fod yn 12 mis, ond gwerthfawrogir rhyw syniad pryd y gallem ni roi gwybod i etholwyr am y normaleiddio hwnnw.
Diolch i Andrew R.T. Davies am yr holl gwestiynau hynny ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am iechyd meddwl. Nid fod bywydau wedi cael eu troi wyneb i waered, ond maen nhw wedi cael eu troi wyneb i waered mewn ffordd gwbl anrhagweladwy ac ar gyflymder na allai neb fod wedi'i ragweld. Felly, mae pobl a oedd â bywydau hollol sefydlog a llwyddiannus ddim ond ychydig wythnosau'n ôl yn syllu ar anawsterau gwirioneddol. Credaf y bydd y ddau beth hynny—y ffaith na allech chi gynllunio ar ei gyfer, ac iddo eich taro mor gyflym—yn golygu y bydd effaith wirioneddol ar les pobl. Mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu ac y mae arnom ni eisiau eu dysgu o brofiadau hyd yn oed mor bell ag 20 mlynedd yn ôl yn yr argyfwng clwy'r traed a'r genau. Rwyf wedi bod yn siarad â'r cyn-Brif Weinidog heddiw am rai o'i brofiadau bryd hynny a'r hyn y gallem ei wneud o hyd o ran helpu pobl i gael rhwyfaint o reoleidd-dra i'w bywydau drachefn.
Bydd y Bil brys a gyhoeddir yn ddiweddarach yr wythnos hon yn darparu ffyrdd y gallwn ni fod ag agwedd fwy hyblyg at gofrestru a rheoleiddio fel y gallwn ni gael pobl yn ôl i'r gweithle ynghynt lle mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae'n rhaid cadw mewn cof, hyd yn oed mewn argyfwng, mae'n rhaid i ni gofio bod pobl agored iawn i niwed yn y lleoliadau hyn ac nad yw diogelu yn rhywbeth y gallwch chi ei ddiystyrru'n llwyr. Felly, bydd yn rhaid cael rhai ffyrdd o hyd i wneud yn siŵr bod pobl sy'n cynnig helpu yn fath o bobl y byddech yn hapus eu gweld yn y swydd honno. Ond bydd y system, rwy'n credu, yn llai o lawer ac wedi'i chynllunio i geisio cael pobl i wneud y swyddi y mae arnyn nhw eisiau eu gwneud.
Rwy'n llwyr ddeall, wrth gwrs, y bydd ar bobl eisiau gwybod pryd y bydd y byd yn dechrau dychwelyd i'w drefn arfer, gan gynnwys sut mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithredu. Rwy'n ofni na allaf gynnig yr arlliw lleiaf o ddyddiad neu hyd yn oed amserlen y prynhawn yma a fyddai o gymorth i bobl. Hyd yn hyn, fy mhrofiad i yw bod pobl yn deall yn iawn yr angen i bobl sydd ag anghenion mwy taer gael blaenoriaeth. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw, cyn gynted ag y gwelwn ni'r penllanw hwn yr ydym yn ei ddisgwyl ac yna achosion yn lleihau, ac y gallwn ni roi argoelion dibynadwy i bobl o sut y gallai'r system ddychwelyd i'r man lle'r oedd hi o'r blaen, yna wrth gwrs byddwn yn awyddus iawn i wneud hynny.
Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau eu gofyn wedi'u hateb erbyn hyn, heblaw am un: ynghylch profi, unwaith eto, Prif Weinidog. Ond gobeithio, bydd hwn yn un nad ydych chi eisoes wedi ymdrin ag ef. Mae'n ymwneud â lleoliadau preswyl a chartrefi gofal. Gofynnwyd i mi godi'r mater hwn yn benodol: a fu penderfyniad penodol i beidio â phrofi mewn lleoliadau gofal a phreswyl yn rhan o'r drefn arferol. Oherwydd, mae bron pob un o'r bobl sydd ynddynt yn y categori risg uchel ac agored i niwed ac mae'r gallu i hunanynysu os bydd unrhyw un yn cael eu heintio gan y feirws yn y lleoliadau hynny yn brin iawn, iawn. Felly, byddai angen i ni gynllunio'n eithaf cynnar ar gyfer unrhyw un yn un o'r lleoliadau hynny â'r feirws a rheoli'r cyflwr hwnnw. A oes unrhyw gynlluniau i ystyried profion rheolaidd yn y lleoliadau hynny? Ac os nad, pam ddim? Oherwydd mae angen i ni wybod sut yr ydym ni'n mynd i reoli'r sefyllfa pe byddai'n codi.
Diolch i Dawn Bowden am y cwestiwn yna. Rwy'n llwyr gydnabod bod gan lawer ohonom ni yn y fan yma, yn sicr y mae gen i, berthnasau sy'n agos iawn atom ni yn byw yn y lleoliadau hynny. Felly, rwy'n deall y pwynt yn llwyr. Dirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio fy mod wedi gallu ateb, yn rhannol o leiaf, y rhan fwyaf o'r cwestiynau y mae'r Aelodau wedi'u codi. Nid oes gennyf ateb ar unwaith o'm blaen o ran y drefn brofi mewn cartrefi gofal preswyl. Mae'n ddigon posib y byddai Vaughan yn gwybod, ond fe gaf i ateb, a gwneud yn siŵr fod yr Aelod yn ei gael, ac yna ei gylchredeg yn ehangach, oherwydd rwy'n credu y bydd o ddiddordeb i fwy na dim ond ychydig ohonom ni yma.
Mae gennyf dri Aelod arall. Fe wnaf i ymestyn y ddadl hon, ond nid wyf yn awyddus i'w ymestyn yn rhy hir. Felly, unwaith eto, rwy'n gofyn ichi fod yn gryno. Mark Isherwood.
Diolch, Llywydd. Dirprwy Lywydd, nid Llywydd. Mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.] Iawn.
Ewch yn eich blaen, Mark.
Yn gyntaf, ar ran rhai rhieni sy'n hunanynysu oherwydd bod gan eu plant gyflyrau sylfaenol, maen nhw wedi dweud, 'Er bod y prif swyddog meddygol wedi dweud wrthym ni y caiff plant eu harbed o gymharu ag oedolion, pa gyngor y byddech chi'n ei roi i rieni plant sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol o dan yr amgylchiadau presennol?'
Yr ail fater, ar ran menywod beichiog—yn amlwg, dywedwyd wrthyn nhw i aros gartref. Mae hynny'n cynnwys fy merched, tri ohonyn nhw, sy'n feichiog ar hyn o bryd. Pa ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud ar gyfer yr adeg pan fydd yr enedigaeth yn dechrau? Mae gennym ni un sydd i ddod mewn 10 diwrnod. Pa sicrwydd sydd gan fy merched i a'r miloedd o fenywod eraill sydd yn yr un sefyllfa, pan fyddan nhw'n esgor, y byddan nhw'n ddiogel pan fyddan nhw'n mynd i'r ysbyty?
Cysylltodd etholwyr â mi yn Sir y Fflint, pobl dros eu 70, 'Nid yw fy ngwraig a minnau'n gallu cofrestru gyda'r fferyllfa i sicrhau y caiff ein presgripsiynau amlroddadwy eu danfon yn ddidrafferth gan ein meddyg teulu i fferyllfa fel sy'n digwydd yn Lloegr o dan y gwasanaeth presgripsiynau electronig, oherwydd nid yw hynny ar gael yng Nghymru.' Mae angen gwneud rhywbeth am hyn yn gyflym, oherwydd mae'n debyg y bydd angen i bobl sydd dros 70 oed hunanynysu.
O ran presgripsiynau dramor, mae gan un arall o'm merched i gyflwr sylfaenol. Ar hyn o bryd mae hi dan gyfyngiadau symud yn Sbaen, ond mae hi'n un o filoedd o bobl eraill. Pa ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud i sicrhau y gall y bobl hynny, fel hi, sydd angen presgripsiynau amlroddadwy, gael gafael arnyn nhw?
Ambell gwestiwn arall a ofynnwyd i mi gan etholwyr heddiw: 'Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu profion ar gyfer staff y GIG, nid dim ond gweithwyr gofal iechyd â symptomau sy'n ynysu, fel y gallan nhw wybod a allan nhw fynd i weithio â chydwybod glir?' Rhiant oedd hwnnw i ddau weithiwr gofal iechyd sydd â pheswch ac sydd gartref, ond nid ydyn nhw'n gwybod a ydyn nhw mewn gwirionedd yn gallu mynd i'w gwaith a helpu. Cysylltodd cynghorydd lleol â mi heddiw, 'Rwyf wedi cael gwybod o ffynhonnell ddibynadwy nad yw staff y gwasanaethau brys yn cael yr offer diogelu personol cywir i ymdrin â'r feirws.' Unwaith eto, tybed a wnewch chi roi ymateb i'r cynghorydd lleol hwnnw? Diolch.
Edrychwch, rwy'n gyndyn o ddarparu atebion nad ydyn nhw o bosib yn gywir ac yn ddibynadwy. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, mae'r cyngor ar gyfer disgyblion sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol yn eithaf clir: dylen nhw aros gartref. Gwasanaethau i fenywod beichiog: yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, y cyngor iddyn nhw yw y dylen nhw hunanynysu, ond pan fo ganddyn nhw apwyntiadau gyda'r gwasanaeth iechyd, dylen nhw eu cadw. Ni ddylen nhw beidio â pharhau â'r gofal y bydden nhw fel arfer yn disgwyl ei gael yn ystod beichiogrwydd. Dylen nhw fynd i'r apwyntiadau hynny, dylen nhw wneud yn siŵr eu bod wedi'u paratoi cystal ar gyfer y digwyddiadau hynny ag y gallan nhw fod, ond y tu hwnt i hynny dylen nhw ymbellhau'n gymdeithasol i gymaint graddau a phosib.
O ran fferyllfeydd, rwy'n ofni nad oes gennyf i'r atebion i'r naill bwynt na'r llall, ond fe geisiaf gael ateb, yn enwedig ar y mater tramor. Rwy'n credu y caiff y mater ynghylch profi ei amlinellu yn y cylchlythyr y cyfeiriais ato y prynhawn yma. Yr wybodaeth sydd gennyf i yw, er bod rhai anawsterau lleol anorfod wrth ddosbarthu cyfarpar diogelu personol, fod y system yn gweithio, mae yn digwydd, a lle mae yna rai anawsterau, maen nhw'n wirioneddol leol eu natur.
Yn fyr iawn, mae yna newidiadau mawr ym maint y boblogaeth mewn ardaloedd o Gymru, yn cynnwys fy etholaeth i, o un flwyddyn i'r llall, a hynny yn rhannol oherwydd nifer y bobl sy'n aros mewn ail gartrefi ar rai adegau o'r flwyddyn. O ystyried y nifer cyfyngedig o welâu gofal dwys ac adnoddau gofal dwys sydd yna mewn rhannau o Gymru, yn cynnwys Ysbyty Gwynedd, er enghraifft, ac o ystyried y cyfyngiadau sydd yna ar deithio di-angen ar yr adeg hon, pa ganllawiau mae'r Llywodraeth yn bwriadau eu rhoi er mwyn ceisio osgoi sefyllfa lle fydd pobl yn heidio i ddefnyddio eu hail gartrefi? Mae yna bwysau, wrth gwrs, yn mynd i fod ar ein gwasanaeth ni beth bynnag.
Dwi wedi clywed y pwynt yna o'r blaen, ond mae nifer o bobl sy'n byw yng Nghymru nawr yn symud i aros gyda'u teulu nhw yn Lloegr ar hyn o bryd. So, mae pobl yn symud i mewn i Gymru a thu fas i Gymru hefyd. Dwi ddim wedi clywed dim byd eto oddi wrth y byrddau iechyd sy'n dweud y bydd y broblem yna yn mynd i gael effaith ar y gwasanaethau y maen nhw'n darparu, ond os bydd pethau yn codi, bydd y system tu fewn i Lywodraeth Cymru yn gallu ymateb i'r pwyntiau yna.
Dim ond dau gennyf i. Diolch i chi am gadarnhau y dylai plant sydd â chyflyrau sylfaenol aros gartref os yw hynny'n bosib. Nid wyf i eisiau eich holi chi am ysgolion yn gyffredinol, wrth gwrs, ond i rai ysgolion arbennig dyna'r unig fath o blant sydd ganddyn nhw, felly a oes unrhyw gyngor penodol i ysgolion arbennig lle mai dim ond plant ag anableddau dysgu neu gyflyrau sylfaenol sy'n mynychu?
Ac yna yn ail, a oes unrhyw wybodaeth ar gael ar hyn o bryd a fydd yn ein helpu i ailasesu'r posibiliadau o gael eich ail-heintio â COVID-19? Beth sy'n digwydd yn yr amgylchiadau hynny lle mae rhywun wedi hunanynysu, heb gael ei brofi, yn teimlo'n ddigon da i fynd yn ôl i'r gwaith, ond wedyn nad yw eto wedi cael ei brofi ? Gan nad ydym yn gwybod a yw hyn—. Wel, bydd y ddau gynnydd yna y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn y cwestiynau yn gynharach heddiw. Beth ydym ni'n ei wneud os nad ydym ni'n profi'r boblogaeth i sicrhau nad yw ail-heintio yn bryder gwirioneddol?
Diolch, Suzy Davies, am y ddau bwynt yna. Bûm i'n trafod ysgolion arbennig hefyd yn gynharach y bore yma. Pan fo disgyblion mewn ysgolion arbennig, ac yn sicr bydd mwy o fyfyrwyr yno sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol, ni ddylai'r myfyrwyr hynny fod yn yr ysgol. Ond mae yna lawer o ddisgyblion eraill sy'n mynychu ysgolion arbennig sydd heb y cyflyrau hynny, ac mae'n bwysig iawn bod y teuluoedd hynny'n parhau i gael y cymorth y mae ysgolion arbennig yn ei roi iddyn nhw. Felly, ein hymagwedd gyffredinol yw bod yn rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail y plentyn ac nid y lleoliad. Yn sicr, nid oes gennym ni gyngor o unrhyw natur gyffredinol i ysgolion arbennig yng Nghymru y dylen nhw fod yn cau oherwydd y coronafeirws.
O ran ail-heintio, rydym ni'n dysgu am hyn o bob cwr o'r byd, o ran cyfraddau ail-heintio a pha mor agored yw pobl sydd wedi cael yr haint unwaith i'w gael eto. Sut beth fydd y feirws hwn? Nid yw'n feirws yr ydym ni'n gwybod amdano. A fydd yn ymddwyn fel mathau eraill o feirysau yr ydym ni'n datblygu imiwnedd iddyn nhw, neu a fydd yn ymddwyn mewn unrhyw wahanol ffyrdd? Felly, mae'n bwynt pwysig y mae Suzy Davies yn ei wneud ac, ar hyn o bryd, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, rydym ni'n elwa ar wybodaeth a chyngor yr ydym ni yn eu cael o rannau eraill o'r byd sydd â mwy o brofiad o ymdrin â'r coronafeirws na ni, ac yna'n paratoi ar gyfer yr hyn y gallem ni ei wynebu yn y fan yma, ac nid oes unrhyw sicrwydd, yn fy marn i, Dirprwy Lywydd, y caiff y profiad mewn un rhan o'r byd eu hailadrodd yr un fath mewn mannau eraill.
Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.