Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 17 Mawrth 2020.
Felly, beth yn union ydy canllawiau y Llywodraeth i ysgolion sydd yn mynd i fod yn canfod eu hunain yn y sefyllfa yma lle mae yna ganran fawr o'r staff, bron i hanner o'r staff yn fan hyn, yn ffeindio eu hunain mewn categori agored i niwed? Beth mae'r Llywodraeth yn ei ddweud wrth yr ysgolion pan fyddan nhw'n ffeindio eu hunain yn y sefyllfa yma? Beth ydy'r canllawiau ar gyfer lefelau staffio diogel? Plant, yfory, a fuasai'n arfer cael cinio am ddim yn yr ysgol, beth sydd yn mynd i ddigwydd i'r rheini rŵan?
Rydw i'n gwybod y gwnaethoch chi ddweud yn gynharach eich bod chi'n trafod posibiliadau ynglŷn â beth i'w wneud, ac rydw i'n siŵr yn Rhuthun y bydd ganddyn nhw eu paratoadau nhw. Ond mae'r broblem yn fyw rŵan, onid ydy, ac rydych chi'n deall rŵan pam oeddem ni'n gofyn y cwestiynau yma yn ystod amser busnes a pham bod angen inni gael gwybodaeth ac eglurder am y sefyllfa.
Beth ydy'r canllawiau i rieni sydd yn gweithio yn yr NHS, a'u plant nhw rŵan yn mynd i fod adref? Beth mae'r gweithwyr yna i fod i wneud? Ydyn nhw i fod i gario ymlaen i fynd i'r gwaith ynteu ydyn nhw'n mynd i orfod gwneud rhyw drefniadau byrfyfyr rŵan yn sydyn fel bod y plant yn gallu cael eu gwarchod, achos rydyn ni eu hangen nhw yn eu gwaith? Felly, nifer fawr o gwestiynau. Roeddwn i'n bwriadu eu gofyn nhw yfory i'r Gweinidog addysg. Rydw i'n eu gofyn nhw rŵan i chi, achos mai chi ydy'r Prif Weinidog, os gallwn ni gael eglurder am hynny.
I droi at y cwestiynau eraill. Mi oedd Rhun ap Iorwerth yn mynd i wneud y sesiwn yma ac roedd o'n mynd i ofyn ichi am y ventilators. Mae'n ofnadwy o bwysig—dyna'r neges rydw i'n ei chael gan Ysbyty Gwynedd yn fy ardal i. Mae angen digonedd o ventilators yn ein hysbytai ni, ac mae, wrth gwrs, angen y staff hefyd sydd yn deall sut mae'r ventilators yn gweithio. Beth ydy eich trefniadau chi? Pa gamau ymarferol ydych chi'n gweithio arnyn nhw rŵan er mwyn sicrhau bod yna ddigon o ventilators yn mynd i fod ar gyfer y wardiau fydd eu hangen nhw? Rydyn ni'n ymwybodol bod yna un busnes yng Nghymru sydd yn dechrau cynhyrchu ventilators, neu o leiaf mae ganddyn nhw ddull o gynhyrchu ventilators yn sydyn, a buaswn i'n hapus iawn i basio manylion hynna ymlaen ichi. Mae'r fath yna o beth i'w groesawu, wrth gwrs.
Mae'r cwestiwn olaf ynglŷn â'r profi. Dwi yn dod yn ôl at hwn, at y profi yma. Mae o'n bwysig. Rydw i'n gwybod efallai fod yna deimlad na ddylai'r staff rheng flaen o'r ysbytai fod allan yn y canolfannau profi yma, ac y dylen nhw fod yn yr ysbytai yn paratoi. Rydw i'n deall hynna ac mai mater prinder staff sydd yn gyrru hyn siŵr o fod, ar ddiwedd y dydd, sydd yn gwestiwn arall. Ond heb gael y wybodaeth yma ynglŷn â faint sydd yn cael eu heffeithio gan y feirws, sut ydyn ni'n mynd i gael gwybod sut mae'r twf yma yn amlygu ei hun?
Rydw i'n deall yng Ngwynedd, er enghraifft, mi oedd Ysbyty Bryn y Neuadd ar agor ar gyfer gwneud y profion yma reit ar ddechrau hyn—wel, wythnos diwethaf, a bod yn onest. Ond y wybodaeth rŵan ydy bod hwnna ddim yn cael ei defnyddio ddim mwy—Ysbyty Alltwen yr un peth.
Felly, mae'n gwestiwn gen i oes yna unrhyw un yn fy ardal i yn cael ei brofi ar hyn o bryd. Mae'r mapiau yn dangos Gwynedd fel ardal lle does yna ddim coronafeirws ar hyn o bryd, os nad ydy o wedi newid yn yr oriau diwethaf yma. Mae o'n dangos nad oes yna ddim pobl yn cael eu heffeithio. Wel, does bosib. Does bosib bod pobl ddim yn cael eu heffeithio. A beth mae o'n golygu ydy fod pobl o ardaloedd dinesig yn edrych ar y map ac yn meddwl, 'O, mae Gwynedd yn lân. Does yna ddim byd yng Ngwynedd. Awn ni draw i'r fan honno.' Mae yna hanesion anecdotaidd fod hynny yn digwydd, ond, wrth gwrs, i fynd yn ôl at y profi, os nad ydyn ni'n gwybod beth ydy lefel y broblem, nid ydyn ni'n gwybod a ydy hyn yn cyfrannu at y broblem—ydy hyn yn rhywbeth yr ydyn ni angen bod yn meddwl amdano fo? Bydd yn broblem, mae'n debyg, a fydd yn digwydd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd, dim jest yng Nghymru, ac mae angen edrych ar hwnna.
Jest y pwynt olaf, o ran y profi, rydych chi wedi dweud eich bod chi'n mynd i wneud rhyw fath o byramid o flaenoriaethu. Dwi'n edrych ymlaen at weld hynny yn digwydd. Gweithwyr iechyd, rydych chi'n dweud, ond mae eu teuluoedd yna hefyd. Os oes yna blentyn yn arddangos y symptomau, ac rydych chi'n gweithio yn y sector iechyd, rydych chi angen gwybod, os ydy'r plentyn yn sâl, a ydych chi'n gallu parhau i fynd i'r gwaith. Felly, dwi'n deall pam eich bod chi yn cyfyngu ar y nifer yr ydych chi'n mynd i'w profi, ond dwi yn gofyn am well esboniad ynglŷn â sut ydych chi'n mynd i fod yn mesur y twf sydd yn mynd i ddigwydd, yn anffodus. Diolch yn fawr.