Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch i chi am gyflwyno'r datganiad, Prif Weinidog, ac a gawn ni ddymuno'r gorau i'r Gweinidog Iechyd a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn o brysur bwyso? Diolchwn i chi hefyd am yr ymdrech yr ydych yn mynd iddi i'n diweddaru ni a'r cyhoedd yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn.
Diolch eto i bawb sy'n helpu—o staff y GIG i'r llu o wirfoddolwyr yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw. Hefyd, hoffwn estyn unwaith eto fy nghydymdeimlad i deulu'r claf a gollodd ei fywyd, gwaetha'r modd, i'r clefyd hwn.
Gweinidog, mae'n hanfodol ein bod ni'n sefyll yn gadarn ac yn unedig yn erbyn y clefyd hwn. Gall y mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i atal lledaeniad y clefyd hwn fod yn anodd eu derbyn ond maen nhw yn angenrheidiol iawn. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y clefyd hwn, sy'n heintus iawn, yn cael ei gyfyngu i'r fath raddau ag sy'n ddynol bosib, oherwydd bob dydd mae'r sefyllfa o ran y coronafeirws yn newid. Wrth i bobl orfod aros yn eu hunfan i wahanol raddau mewn gwledydd drwy'r byd, mae'n rhaid i ni fynd ati mewn ffordd gall, cyfyngu ar ein cysylltiad â phobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o achos y feirws, ac arfer hylendid dwylo rheolaidd.
Bydd fy mhlaid i yn cefnogi eich ymdrechion i gyfyngu ar ein hamlygiad i COVID-19. Mae ein hymdrechion ar y cyd yn hanfodol i atal lledaeniad y clefyd hwn a'i gadw a sicrhau cyn lleied o effaith â phosib. Ac os ydym ni eisiau cadw'r gyfradd i lawr, mae hyn yn angenrheidiol. Bydd yr hyn a wnawn ni, a'r hyn a wnaiff y cyhoedd yn gyffredinol, yn helpu i arafu lledaeniad y clefyd hwn ac yn y pen draw yn helpu i achub bywydau.
Mae cyfnod anodd o'n blaenau ac mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn dod at ein gilydd fel cymuned. Mae'n bosibl bod y camau gweithredu a amlinellwyd gan Brif Weinidog Prydain, ein Gweinidog Iechyd a'n Prif Weinidog ni yma yng Nghymru yn amhoblogaidd ond maen nhw'n hanfodol bwysig.
Gweinidog, mae hylendid dwylo cyn bwysiced ag erioed, ond rwyf wedi clywed adroddiadau nad oes sebon ar ôl mewn rhai ysgolion ac na allan nhw fforddio cael mwy ohono. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan wasanaethau cyhoeddus gyflenwadau digonol o offer hylendid a, phan fo hynny'n gwbl angenrheidiol, offer diogelu personol?
Drwy gydol y cyfnod hwn o brysur bwyso, mae'n rhaid i ni fod mor dryloyw â phosibl gyda'r cyhoedd ynglŷn â pham yr ydym ni'n gweithredu yn y modd yr ydym ni. Gweinidog, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i gynnal cynadleddau rheolaidd i'r wasg gyda swyddogion iechyd y cyhoedd a'r Prif Swyddog Meddygol i roi gwybodaeth a sicrwydd i'r cyhoedd am y camau sy'n cael eu cymryd i frwydro yn erbyn COVID-19, a thawelu meddyliau pobl ynglŷn â'r camau hynny?
Mae'r angen i ddatblygu triniaethau therapiwtig o'r pwys mwyaf. Gweinidog, a allwch chi amlinellu'r hyn y mae ein cydweithwyr ym maes iechyd y cyhoedd ledled y DU, ein sector addysg uwch a'r diwydiant fferyllol yn ei wneud i ddatblygu triniaethau wrth i ni ddisgwyl canlyniad yr arbrofion o ran creu brechlyn?
Yn olaf, Gweinidog, dylid canmol ymdrechion arwrol ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Heb iddyn nhw roi eu hunain mewn perygl byddai ein sefyllfa'n waeth o lawer. Wrth i'r argyfwng hwn ddwysáu, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi hefyd i ddefnyddio gwirfoddolwyr yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol i wneud gorchwylion symlach sy'n rhoi amser i staff clinigol ganolbwyntio ar ofal critigol?
Diolch eto am eich ymdrechion a byddaf yn parhau i weithio gyda chi drwy gydol yr argyfwng hwn.