Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 17 Mawrth 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gyda thristwch mawr rydym yn clywed am y marwolaethau cyntaf a gadarnhawyd yng Nghymru o COVID-19. Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â theuluoedd a chyfeillion y rhai a fu farw, ac â phawb yr effeithiwyd ar eu bywydau mor ddifrifol ac mor drasig gan yr argyfwng parhaus hwn sy'n newid yn gyflym.
Fel yr ydych chi wedi clywed, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellgyrhaeddol, trawslywodraethol i frwydro yn erbyn COVID-19 a'i effeithiau ehangach. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweinyddiaethau eraill ledled y DU a sefydliadau partner yng Nghymru, gan gynnwys ein holl awdurdodau lleol.
Mae'r Prif Weinidog, sy'n siarad ar ran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, eisoes wedi nodi, yn gynharach, yr hyn y mae eu hadrannau nhw yn ei wneud. Yn ogystal â'r camau gweithredu hynny, rydym ni wedi defnyddio mesurau newydd i lacio oriau dosbarthu archfarchnadoedd er mwyn helpu i gynnal y cyflenwad bwyd a nwyddau eraill, gan gynnwys y nwyddau hynny y mae galw mawr amdanyn nhw ar hyn o bryd.
Mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) ar waith er mwyn ein helpu i ymateb mewn modd cydgysylltiedig ac effeithiol, gan weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gennym ni drefniadau sefydledig—sydd wedi eu profi a'u hymarfer dros lawer o flynyddoedd—ac mae'r rhain bellach ar waith.
Mae Cabinet Llywodraeth Cymru hefyd erbyn hyn yn cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos i drafod COVID-19 a'n hymateb iddo, a bydd y Prif Weinidog a/neu'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—ac rwy'n dychmygu, nawr, ag yntau'n hunanynysu, Gweinidogion eraill—yn parhau i fynychu cyfarfodydd COBRA fel bod gennym ni yr wybodaeth ddiweddaraf bob amser.
Mae gan ein hawdurdodau lleol swyddogaeth allweddol o ran cadw gwasanaethau allweddol yn gweithredu, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw a'n pedwar fforwm cydnerthedd lleol i sicrhau bod ganddyn nhw y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Y bore yma, cynhaliais gynhadledd i'r wasg ar y cyd ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, lle y gwnaethom ni amlinellu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar y cyd.
Yn amlwg, bydd COVID-19 yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd llai o bobl ar gael am gyfnod amhenodol i ddarparu gwasanaethau na fydd braidd byth wedi bod mwy o alw amdanyn nhw, os o gwbl, ac mae hyn yn amlwg yn her fawr. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i gynllunio a pharatoi ar gyfer COVID-19, a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen yn fawr dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod o'r argyfwng hwn. Yn ogystal â hynny, cyn hir byddwn ni'n gallu defnyddio pwerau ychwanegol cyfyngedig o ran amser, i'w darparu drwy Fil pedair gwlad. Bydd y pwerau hyn yn ein helpu i ymateb yn fwy effeithiol i COVID-19.
Yn y gynhadledd i'r wasg gyda'r Cynghorydd Morgan y bore yma—ac rwyf eisiau ailadrodd hyn yn y fan yma y prynhawn yma yn y Siambr, Dirprwy Lywydd—diolchais i swyddogion llywodraeth leol am eu cyfraniad sylweddol, am ddarparu'r gwasanaethau beunyddiol y mae pobl Cymru mor ddibynol arnyn nhw, ond hefyd am eu hymateb anhygoel i'r llifogydd diweddar mewn rhannau o Gymru. Ac wrth gwrs, nid yw'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws llywodraeth leol i fynd i'r afael â chanlyniadau'r llifogydd wedi'i gwblhau eto, ac erbyn hyn mae gwaith pwysig arall wedi dechrau ar COVID-19 hefyd.
Mae yna, wrth gwrs, rai grwpiau penodol y mae'r feirws hwn yn gyfrwng peryglon a heriau penodol iddynt. Rwy'n canolbwyntio'n fawr ar ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o gefnogi'r grwpiau hyn a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Yn benodol, mae angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed ar y rheini sy'n ddigartref, yn enwedig ar ben mwyaf difrifol y sbectrwm digartrefedd—y rhai sy'n cysgu ar y stryd. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i gyflwyno cynigion i gefnogi'r gwaith hanfodol sydd eisoes yn digwydd yn y sector hwn ac i ymestyn y posibiliadau sydd ar gael i helpu pobl oddi ar y stryd, rhoi'r gallu iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau glanweithdra a chymorth, a galluogi ynysu pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod gan awdurdodau lleol y gallu i gael yr arian sydd ei angen i hwyluso hyn. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r angen i gefnogi ac amddiffyn y rhai hynny sy'n gweithio i'r grŵp agored i niwed hwn, ac i sicrhau ein bod yn gweithio'n effeithiol gyda'n partneriaid trydydd sector i gynnal darpariaeth gwasanaethau craidd drwy weithio ar y cyd. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am hyn yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r trydydd sector i sicrhau y caiff gwirfoddolwyr eu defnyddio yn strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiflino gydag eraill i arafu lledaeniad COVID-19 yng Nghymru ac i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Mae'n bwysig cydnabod bod gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yng Nghymru, ran i'w chwarae wrth helpu i gyflawni hyn. Mae cyngor ar beth i'w wneud a pheidio â'i wneud wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff y cyngor hwn ei adolygu'n gyson a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.
Mae'n gwbl amlwg y bydd yr argyfwng COVID-19 gyda ni am wythnosau lawer, os nad misoedd, a bydd yn effeithio'n ddifrifol ac yn hirdymor mewn amryfal ffyrdd ar unigolion, ar deuluoedd, ar yr economi a thu hwnt. Byddwn yn parhau i drafod â llywodraeth leol a phob plaid yng Nghymru i gynllunio a gweithredu mesurau a fydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu'n effeithiol ar yr adeg hollbwysig hon. Diolch.