– Senedd Cymru am 5:16 pm ar 17 Mawrth 2020.
Mae eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar COVID-19, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—Julie James.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gyda thristwch mawr rydym yn clywed am y marwolaethau cyntaf a gadarnhawyd yng Nghymru o COVID-19. Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo'n ddiffuant â theuluoedd a chyfeillion y rhai a fu farw, ac â phawb yr effeithiwyd ar eu bywydau mor ddifrifol ac mor drasig gan yr argyfwng parhaus hwn sy'n newid yn gyflym.
Fel yr ydych chi wedi clywed, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellgyrhaeddol, trawslywodraethol i frwydro yn erbyn COVID-19 a'i effeithiau ehangach. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda gweinyddiaethau eraill ledled y DU a sefydliadau partner yng Nghymru, gan gynnwys ein holl awdurdodau lleol.
Mae'r Prif Weinidog, sy'n siarad ar ran y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, eisoes wedi nodi, yn gynharach, yr hyn y mae eu hadrannau nhw yn ei wneud. Yn ogystal â'r camau gweithredu hynny, rydym ni wedi defnyddio mesurau newydd i lacio oriau dosbarthu archfarchnadoedd er mwyn helpu i gynnal y cyflenwad bwyd a nwyddau eraill, gan gynnwys y nwyddau hynny y mae galw mawr amdanyn nhw ar hyn o bryd.
Mae Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru) ar waith er mwyn ein helpu i ymateb mewn modd cydgysylltiedig ac effeithiol, gan weithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gennym ni drefniadau sefydledig—sydd wedi eu profi a'u hymarfer dros lawer o flynyddoedd—ac mae'r rhain bellach ar waith.
Mae Cabinet Llywodraeth Cymru hefyd erbyn hyn yn cyfarfod o leiaf unwaith yr wythnos i drafod COVID-19 a'n hymateb iddo, a bydd y Prif Weinidog a/neu'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—ac rwy'n dychmygu, nawr, ag yntau'n hunanynysu, Gweinidogion eraill—yn parhau i fynychu cyfarfodydd COBRA fel bod gennym ni yr wybodaeth ddiweddaraf bob amser.
Mae gan ein hawdurdodau lleol swyddogaeth allweddol o ran cadw gwasanaethau allweddol yn gweithredu, ac rydym ni'n gweithio'n agos gyda nhw a'n pedwar fforwm cydnerthedd lleol i sicrhau bod ganddyn nhw y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Y bore yma, cynhaliais gynhadledd i'r wasg ar y cyd ag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Cynghorydd Andrew Morgan, lle y gwnaethom ni amlinellu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar y cyd.
Yn amlwg, bydd COVID-19 yn effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Bydd llai o bobl ar gael am gyfnod amhenodol i ddarparu gwasanaethau na fydd braidd byth wedi bod mwy o alw amdanyn nhw, os o gwbl, ac mae hyn yn amlwg yn her fawr. Fodd bynnag, rydym ni wedi bod yn gweithio gyda'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol i gynllunio a pharatoi ar gyfer COVID-19, a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod gan ein hawdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i barhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus y mae eu hangen yn fawr dros yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod o'r argyfwng hwn. Yn ogystal â hynny, cyn hir byddwn ni'n gallu defnyddio pwerau ychwanegol cyfyngedig o ran amser, i'w darparu drwy Fil pedair gwlad. Bydd y pwerau hyn yn ein helpu i ymateb yn fwy effeithiol i COVID-19.
Yn y gynhadledd i'r wasg gyda'r Cynghorydd Morgan y bore yma—ac rwyf eisiau ailadrodd hyn yn y fan yma y prynhawn yma yn y Siambr, Dirprwy Lywydd—diolchais i swyddogion llywodraeth leol am eu cyfraniad sylweddol, am ddarparu'r gwasanaethau beunyddiol y mae pobl Cymru mor ddibynol arnyn nhw, ond hefyd am eu hymateb anhygoel i'r llifogydd diweddar mewn rhannau o Gymru. Ac wrth gwrs, nid yw'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar draws llywodraeth leol i fynd i'r afael â chanlyniadau'r llifogydd wedi'i gwblhau eto, ac erbyn hyn mae gwaith pwysig arall wedi dechrau ar COVID-19 hefyd.
Mae yna, wrth gwrs, rai grwpiau penodol y mae'r feirws hwn yn gyfrwng peryglon a heriau penodol iddynt. Rwy'n canolbwyntio'n fawr ar ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o gefnogi'r grwpiau hyn a'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Yn benodol, mae angen ein cefnogaeth yn fwy nag erioed ar y rheini sy'n ddigartref, yn enwedig ar ben mwyaf difrifol y sbectrwm digartrefedd—y rhai sy'n cysgu ar y stryd. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda'r sector i gyflwyno cynigion i gefnogi'r gwaith hanfodol sydd eisoes yn digwydd yn y sector hwn ac i ymestyn y posibiliadau sydd ar gael i helpu pobl oddi ar y stryd, rhoi'r gallu iddyn nhw ddefnyddio gwasanaethau glanweithdra a chymorth, a galluogi ynysu pan fo hynny'n angenrheidiol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod gan awdurdodau lleol y gallu i gael yr arian sydd ei angen i hwyluso hyn. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r angen i gefnogi ac amddiffyn y rhai hynny sy'n gweithio i'r grŵp agored i niwed hwn, ac i sicrhau ein bod yn gweithio'n effeithiol gyda'n partneriaid trydydd sector i gynnal darpariaeth gwasanaethau craidd drwy weithio ar y cyd. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am hyn yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Mae gwaith yn mynd rhagddo hefyd gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r trydydd sector i sicrhau y caiff gwirfoddolwyr eu defnyddio yn strategol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n ddiflino gydag eraill i arafu lledaeniad COVID-19 yng Nghymru ac i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Mae'n bwysig cydnabod bod gan bob un ohonom ni, pob unigolyn yng Nghymru, ran i'w chwarae wrth helpu i gyflawni hyn. Mae cyngor ar beth i'w wneud a pheidio â'i wneud wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff y cyngor hwn ei adolygu'n gyson a'i ddiweddaru yn ôl yr angen.
Mae'n gwbl amlwg y bydd yr argyfwng COVID-19 gyda ni am wythnosau lawer, os nad misoedd, a bydd yn effeithio'n ddifrifol ac yn hirdymor mewn amryfal ffyrdd ar unigolion, ar deuluoedd, ar yr economi a thu hwnt. Byddwn yn parhau i drafod â llywodraeth leol a phob plaid yng Nghymru i gynllunio a gweithredu mesurau a fydd yn sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu'n effeithiol ar yr adeg hollbwysig hon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Mark Isherwood.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Yn dilyn eich cynhadledd i'r wasg gydag arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y bore yma, adroddwyd y dywedodd yntau y gellid cwtogi ar gasgliadau biniau a gwasanaethau eraill y cyngor yn ystod yr argyfwng ac fe'ch dyfynnwyd yn dweud na fyddai cwtogi yn syth ond bod yn hynny dan ystyriaeth ar gyfer yr wythnosau a'r misoedd sydd i ddod. Tybed a allech chi ymhelaethu ychydig ar hynny a rhoi rhyw awgrym o amserlen inni, er gwaethaf y ffaith nad oes gan yr un ohonom ni belen grisial i wybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol, a sut y byddwch chi'n ystyried, o bosib, er enghraifft, unrhyw risgiau iechyd a allai fod yn berthnasol i sbwriel heb ei gasglu a allai fod wedi dod o aelwyd sydd ag aelodau wedi'u heintio yn byw ynddo.
Fel llawer o bobl, mae pobl anhygoel wedi dod ataf yn gwirfoddoli i helpu. Mae gen i un achos y fan yma o wraig 63 oed yn Nhreffynnon. Hoffai hi gynnig ei chefnogaeth mewn unrhyw fodd sydd ei angen. Os yw'r rhai dros 70 oed yn mynd i gael eu hynysu, mae hi eisiau gwneud beth bynnag y gall i helpu yn y rheng flaen—glanhau lloriau mewn ysbytai, neu beth bynnag. Mae hi'n cynnig ei gwasanaethau, ac rydym ni'n gwybod, bob un ohonom ni, bod byddin o bobl anhygoel allan yn y fan yna yn cynnig cymorth tebyg. Rwy'n gwybod bod Swyddfa Cymru ddoe wedi dweud eu bod yn darparu mwy o wybodaeth yn ganolog am wirfoddoli erbyn heddiw fel y gallan nhw gyfeirio darpar wirfoddolwyr at y mannau lle mae eu hangen. A ydych chi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hynny ac, os ydych chi ai peidio, pa mor ddatblygedig yw'r sefyllfa nawr gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid o ran galluogi gwirfoddolwyr lleol i gyfrannu trwy gynlluniau dilys sydd wedi'u gwirio'n gywir?
Yn eich ymateb i'r materion a godwyd gydag awdurdodau lleol yn eich uwchgynhadledd gyda llywodraeth leol ar y deuddegfed o'r mis—ni af drwy'r holl faterion, oherwydd fel y gwyddoch chi, mae llawer ohonyn nhw, ond mae ambell un ohonyn nhw—o ran yr angen i hysbysu cyfarwyddwyr iechyd cyhoeddus ac arweinwyr awdurdodau lleol am unrhyw achosion, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn cydgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y mater hwn. Tybed a allwch chi roi unrhyw ddiweddariadau ar hynny. O ran cyflwyno trefniadau staff hyblyg, fe wnaethoch chi gyfeirio at gydberthnasau sefydledig drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ac yn rhan o'r cyngor partneriaeth cymdeithasol cysgodol newydd. Bydd hyn yn galluogi partneriaid cymdeithasol o bob rhan o Lywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus ac undebau llafur i ddatblygu trafodaethau cyflym ac effeithiol ar faterion gweithlu strategol sy'n gysylltiedig â COVID-19. Ond fe wnaethoch chi ddweud hefyd, yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, eich bod yn gweithredu rhwydwaith rhithwir, gan ategu strwythurau partneriaeth cymdeithasol allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Felly, y cwestiwn yw: ble ydych chi wedi cyrraedd o ran ysgogi'r rhwydwaith rhithwir hwnnw? A yw hynny ar waith, neu pryd y gallwn ni ragweld y bydd hynny'n digwydd?
O ran y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, i sicrhau bod ymgeiswyr, p'un a ydyn nhw yn gyflogedig neu'n wirfoddolwyr, yn briodol ar gyfer plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn arbennig, fe wnaethoch chi ddweud eich bod ar hyn o bryd yn ystyried beth y gellir ei wneud i sicrhau dull cyson o fynd ati heb beryglu diogelwch pobl, er mwyn sicrhau ein bod yn cael staff wedi'u clirio ac a fydd yna lacio dros dro ai peidio. Unwaith eto, tybed a wnewch chi gadarnhau a oes unrhyw ddatblygiadau wedi bod yn y pum niwrnod ers hynny i hwyluso ateb yn y maes hwnnw.
Un neu ddau arall o'ch papur: roedd pryderon ynghylch cydnerthedd timau iechyd yr amgylchedd i reoli disgwyliadau bob awr o'r dydd a'r nos. A oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cymryd yr un pwerau â Gweinidogion yn Lloegr i gyfyngu ar symudiadau unigol, yn hytrach na dibynnu ar Orchmynion Rhan 2A? Rydych chi'n dweud bod Gorchmynion Rhan 2A ond yn berthnasol yn Lloegr, ond mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n gyflym i gyflwyno rheoliadau cyfatebol yng Nghymru. Unwaith eto, tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni lle'r ydych chi arni gyda hynny. Efallai fy mod wedi colli rhywbeth a'ch bod eisoes wedi cyhoeddi'r rheoliadau hyn—os nad ydych chi, beth yw'r sefyllfa?
Fe wnaethoch chi ddweud, o ran cofrestru marwolaethau, fod pryderon ynglŷn â'r pwysau cynyddol ar wasanaethau cofrestryddion. A oes unrhyw fesurau arbennig ar y gweill i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig yn nifer y marwolaethau? Rwy'n gwybod, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, fod trefnwyr angladdau yn gweithio'n agos gyda Llywodraethau a chyrff eraill ar gynllunio brys.
Fe wnaethoch chi ddweud bod cyfarfod o'r grŵp cynllunio ar gyfer marwolaethau torfol yng Nghymru wedi'i amserlennu ar gyfer yr wythnos hon, lle y bydd fforymau cydnerthedd lleol ac arweinwyr grwpiau marwolaethau torfol yn trafod y goblygiadau ar bob agwedd ar y broses rheoli marwolaeth, gan gynnwys cofrestru marwolaethau. Tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni a yw'r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal, neu, os nad ydyw, a fydd yn digwydd o hyd? Pa drefniadau, heb fynd i ormod o fanylder, sy'n cael eu rhoi ar waith?
Fy nghwestiwn olaf un: canllawiau ar ymdrin ag unrhyw faterion neu achosion mewn porthladdoedd megis Caergybi a Phenfro, yr holodd yr awdurdodau lleol yn eu cylch. Fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn gofyn i Lywodraeth y DU a Llu'r Ffiniau egluro a fyddan nhw'n datblygu canllawiau mwy cynhwysfawr ar gyfer y sector morol ledled y DU, fel y nodwyd eisoes ganddyn nhw. Felly, fy nghwestiwn olaf yw, ac, unwaith eto, mae ychydig o ddyddiau wedi mynd heibio, felly, yn ôl pob tebyg, rydych chi wedi gofyn iddyn nhw erbyn hyn: pa ymateb a gawsoch chi? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau. Byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb pob un ohonyn nhw. O ran casgliadau gwastraff, er enghraifft, a roddwyd fel enghraifft gan y Cynghorydd Andrew Morgan i gwestiwn gan newyddiadurwr a oedd yn bresennol yn y cyfarfod briffio i'r wasg y bore yma, pan ddywedodd y gallai rhai gwasanaethau gael eu cwtogi, yn dibynnu ar brinder staff a materion eraill sy'n codi yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Yr hyn yr oedd yn ceisio'i ddangos oedd, wrth i'r feirws effeithio'n fwy ar bobl ac wrth i fwy o bobl fod yn absennol o'r gwaith, efallai y bydd angen symud pobl o gwmpas yn yr awdurdod lleol i gynnal gwasanaethau hanfodol. Felly, fe'i rhoddwyd yn enghraifft yn unig.
Ond, yr enghraifft a roddodd o safbwynt RhCT yn unig—rwyf i yn pwysleisio hynny; enghraifft yn unig yw hi—oedd y gallen nhw newid i gasgliadau misol ar gyfer peth gwastraff. Roedd yn gyflym iawn, fodd bynnag, i bwysleisio y bydden nhw'n casglu gwastraff bwyd a gwastraff cewynnau, er enghraifft, yn ôl yr arfer—yn wythnosol—er mwyn gwrthbwyso'r risgiau i iechyd.
Mae hynny, Dirprwy Lywydd, yn amser perffaith i mi ddweud wrth bobl bod cyngor ar gael ar wefannau amryw o awdurdodau lleol, a byddaf yn darllen rhai ohonyn nhw i chi. Felly, er enghraifft, o safbwynt iechyd, mae Cyngor Abertawe yn pwysleisio y gellir storio gwastraff personol, fel hancesi papur sydd wedi eu defnyddio a chadachau glanhau un tro, yn ddiogel mewn bagiau sbwriel un tro. Dylid rhoi'r bagiau mewn bag arall, wedi ei glymu'n ddiogel a'i gadw ar wahân i wastraff arall, a dylid neilltuo hwn am 72 awr cyn ei roi yn y gwastraff bag DU arferol er mwyn gwneud yn siŵr bod y feirws wedi marw.
Felly, rwy'n ailadrodd—mai dim ond un o'r enghreifftiau o arfer iechyd da o ran casglu gwastraff yw hynny, ac mae hynny, yn amlwg, i ddiogelu iechyd y gweithwyr sy'n gweithio ym mhen arall y cylch casglu gwastraff a gwaredu gwastraff. Felly, dim ond un enghraifft dda yw honno o bethau y gallai fod angen eu pwysleisio, a phethau eraill y gallai fod angen eu newid. Ni allaf bwysleisio digon nad ydym yn dweud bod hynny'n digwydd nawr. Mae'n enghraifft o un o'r pethau a fyddai'n cael ei ystyried yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
O ran gwirfoddolwyr, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi crybwyll ein bod yn cyfarfod yfory â phartneriaid CGGC ac eraill—cyfres gyfan o sefydliadau trydydd sector a sefydliadau ar draws sectorau—i drafod yr holl fater yn ymwneud â chynnwys y trydydd sector a chydlynu gwirfoddolwyr. Rydym ni hefyd wedi cael cyfarfodydd defnyddiol â CLlLC ynghylch cydlynu gwirfoddolwyr ar gyfer pob ardal awdurdod lleol, ac rydym ni wedi bod yn dweud heddiw bod pobl sy'n dymuno dychwelyd i'r gweithlu gyda chymwysterau perthnasol, neu, yn wir, pobl sydd â chymhwyster cyfwerth, fel y gwestywyr y gwnaethom ni sôn amdanyn nhw yn gynharach, er enghraifft, gysylltu â'u hawdurdodau lleol unigol, a fydd yn gwybod ym mhle y mae'r angen mwyaf am eu sgiliau.
Ni fydd angen pawb ar unwaith—dyna'r peth arall. Mae pobl yn awyddus iawn i gynnig eu gwasanaeth nawr, ond yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei wneud yw sicrhau bod gennym ni gyflenwad cyson o wirfoddolwyr, wrth symud ymlaen, drwy'r hyn a allai fod yn fisoedd lawer i ddod. Felly, rwy'n annog pobl i sicrhau—. Nid dim ond am y deuddydd nesaf—mae hwn yn rhywbeth a fydd yn parhau ac y bydd angen i ni ei gydlynu. Bydd angen i ni wneud yn siŵr nad yw staff yn blino'n llwyr ac nad yw gwirfoddolwyr yn blino'n llwyr, a'n bod ni'n gallu cylchdroi pobl o ran yr hyn y bydd angen ei wneud. Felly, mae llawer o gynllunio o ran y ffordd orau o gydlynu hynny a'r lle gorau i ddefnyddio pobl, a sut i fwrw ymlaen â hynny, ond, fel yr wyf wedi ei ddweud, mae cyfarfod yfory, ac rydym wedi cael sawl sgwrs â CLlLC ynghylch cydlynu hynny yn barod.
O ran yr achosion gwybyddus, rwy'n credu, mewn gwirionedd, ein bod ni'n mynd heibio'r cam hwnnw erbyn hyn. Roedd y sgwrs honno ddydd Iau diwethaf, ac mae hon yn sefyllfa mor gyfnewidiol, ar yr adeg honno roeddem ni'n dal i adrodd am bob achos. Rwy'n credu ein bod ni'n cefnu ar hynny yn gyflym iawn, ond byddaf yn parhau i wneud yn siŵr bod arweinwyr awdurdodau lleol yn gwybod lle mae materion eithafol yn digwydd yn eu hardal benodol nhw, ac rydym ni wedi gwneud yn siŵr bod y cyswllt yno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru.
O ran y gweithlu, mae cyfarfodydd cyngor partneriaeth y gweithlu yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf. Fy Nirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, sy'n cadeirio'r cyfarfodydd. Byddan nhw'n gyfarfodydd rhithwir yn bennaf. Byddwn yn sicrhau y gall pobl ymuno yn yr un ffordd ag a wnaethom ni ar gyfer y cyfarfod gydag arweinwyr llywodraeth leol ddydd Iau diwethaf, er enghraifft. Bydd rhai pobl yn bresennol, ond bydd y rhan fwyaf ohono yn rhithwir, a'i bwrpas fydd trafod sut y byddwn yn mynd â'r rhwydwaith hwnnw yn ei flaen yn y dyfodol.
O ran rheoleiddio gwirfoddolwyr a gweithio fel y bo'n briodol, mae gan y Bil brys gyfres o ddarpariaethau arfaethedig ynddo ynghylch cofrestru'n gyflymach a llacio rhai o'r rheolau. Un o'r enghreifftiau rwyf i wedi ei gweld yn cael ei defnyddio yw, pan nad yw rhywun yn gofrestredig eto, nad yw wedi cael gwiriadau'r gwasanaeth datgelu a gwahardd eto a fyddai'n angenrheidiol, efallai y bydden nhw'n cael gweithio gyda gwirfoddolwr sydd wedi ei wirio i sicrhau ei fod yn cael ei oruchwylio ond pan fyddai pâr arall o ddwylo yn ddefnyddiol. Gallai'r math hwnnw o drefniant goruchwylio, na fyddai'n dderbyniol fel arfer, fod yn dderbyniol yn yr amgylchiadau difrifol iawn hyn. Felly, mae hynny, unwaith eto, yn un enghraifft o hynny.
O ran timau iechyd yr amgylchedd ac, mewn gwirionedd, amrywiaeth o dimau eraill mewn awdurdod lleol, rydym yn cynnal trafodaethau parhaus gyda CLlLC ac amrywiaeth o awdurdodau lleol ynghylch sut i fynd i'r afael â rhai o'r materion hynny. Mae arnaf i ofn nad wyf yn gwybod a yw'r cyfarfod wedi ei gynnal, Mark, felly byddaf yn gwneud yn siŵr y cewch chi'r wybodaeth honno cyn gynted â phosib.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Mae gen i nifer o gwestiynau yr hoffwn i eu gofyn i helpu i dawelu meddyliau pobl. Nawr, tynnwyd sylw at y ffaith y gall sefyllfaoedd argyfyngus ddatgelu'r gorau mewn dynoliaeth, ac un o'r pethau mwyaf ysbrydoledig yr ydym ni i gyd wedi eu gweld ledled Cymru yw'r ymdrechion gwych gan y gymuned i helpu pobl sy'n gorfod hunanynysu. A gaf i ofyn i chi a allwch chi gyhoeddi cymorth ariannol i wasanaethau gwirfoddol lleol neu i'r grwpiau cymunedol hyn i brynu offer, offer ymarferol, ond hefyd offer neu gymorth i helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith y bobl sy'n hunanynysu, a hefyd a fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i ddarparu talebau i grwpiau fynd allan i brynu bwyd a chyflenwadau hanfodol i'r bobl sy'n hunanynysu?
Soniodd y Prif Weinidog yn gynharach y bydd profion ar gael i staff clinigol rheng flaen. Wrth gwrs, mae gweithwyr gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, ac yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddant yn cyflawni swyddogaeth hanfodol bwysig. Mae'n rhaid bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i gyfrif staff gofal cymdeithasol yn weithwyr rheng flaen allweddol yn hyn o beth. Felly, a gaf i ofyn a fydd blaenoriaeth iddyn nhw ar gyfer profion, yn ogystal â pha adnoddau ychwanegol a fydd ar gael iddyn nhw? Byddai hynny, yn amlwg, yn cyfrif o ran gweithwyr gofal sy'n mynd i gartrefi pobl, ond hefyd pobl yn y sector gofal preswyl, hefyd; a gaiff eu cynnal gan yr awdurdodau lleol mewn llawer o'r achosion.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod gan y GIG, i bob pwrpas, siec wag i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. A fyddech yn cytuno â mi, Gweinidog, bod angen siec wag ar y gwasanaeth gofal cymdeithasol hefyd er mwyn parhau i ofalu am bobl? O ran cyllid llywodraeth leol, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad y bydd llai o weithwyr a fydd yn gorfod ymdopi â chynnydd yn y llwyth gwaith. Felly, a wnewch chi amlinellu unrhyw lacio ar reolaethau ariannol llywodraeth leol y gallem ni eu disgwyl, gan nad ydym ni eisiau i lywodraeth leol orfod canslo neu beidio â darparu gwasanaethau hanfodol yn yr amser pryderus iawn hwn oherwydd rhesymau ariannol?
Ac yna, fe wnaethoch chi sôn yn eich datganiad am nifer o ddarpariaethau sy'n ymwneud â digartrefedd, ac mae gen i rai cwestiynau yn ymwneud â thai, os caf i. Bydd yr wythnosau nesaf yn anodd i bawb y mae angen iddyn nhw hunanynysu, ond rwy'n siŵr na allwn ni ddychmygu pa mor anodd y bydd hynny i bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel yn eu cartref eu hunain. Rydym ni wedi sôn am lifogydd ychydig o wythnosau yn ôl. Cafodd cartrefi llawer o fy etholwyr i, ac etholwyr pobl eraill, eu dinistrio gan ddŵr brwnt. A fydd y Llywodraeth yn prysuro i wneud gwaith atgyweirio brys yn gynt er mwyn helpu i wneud y cartrefi hyn yn bosibl i fyw ynddyn nhw eto, yn enwedig gan y bydd yn rhaid i bobl dreulio llawer mwy o amser gartref? Yn amlwg, mae'r argyfwng presennol o ran y feirws yn flaenllaw ar feddyliau pobl, ond ni ellir anghofio'r bobl y mae'r llifogydd wedi effeithio arnyn nhw chwaith—nid wyf yn awgrymu am eiliad y byddir yn gwneud hynny.
O ran tai yn fwy cyffredinol, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n orfodol i gynghorau roi rhyddhad treth gyngor a rhent i unrhyw un sy'n hunanynysu ac sy'n methu â mynd i'r gwaith? Hefyd, er mwyn helpu unrhyw un sy'n wynebu braw y feirws hwn ar ben braw digartrefedd posib, a fyddwch chi'n cyflwyno deddfwriaeth i atal y defnydd o adran 21 o Ddeddf Tai 1996, fel na all pobl wynebu cael eu troi allan yn ystod y cyfnod hwn oherwydd eu bod yn cael eu heintio gan y feirws hwn? Byddwn i'n gofyn am unrhyw wybodaeth arall y byddech yn ei darparu, ond rwy'n clywed ac yn croesawu'r hyn y gwnaethoch ei ddweud am y cymorth sy'n cael ei ddarparu i bobl sy'n ddigartref eisoes a hefyd y gweithwyr yn y trydydd sector sy'n helpu pobl ddigartref. Os daw unrhyw wybodaeth arall i'r fei yn yr wythnosau nesaf, neu'r dyddiau nesaf hyd yn oed, byddwn yn ddiolchgar o gael ei gweld.
Nawr, wrth edrych ar grŵp arall a allai wynebu tlodi dybryd o ganlyniad i'r feirws, rydym ni wedi bod yn siarad yn y Siambr eisoes am yr ansicrwydd ynghylch os a phryd y bydd ysgolion yn cau. A allwch chi ddweud wrthym ni pa ddarpariaeth yn union a fydd ar gael i blant, os bydd ysgolion yn cau, a fyddai fel arall wedi bod yn ddibynnol ar brydau ysgol am ddim? Mae'n ymddangos i mi fod hynny'n rhywbeth y gallai awdurdodau lleol fod yn helpu ag ef, i'w gydlynu, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod bod llawer o rieni ac athrawon wedi ysgrifennu ataf i yn ei gylch, gan fynegi pryder gwirioneddol am hynny.
Unwaith eto, rwy'n gwybod y bydd yr wythnosau nesaf yn peri pryder i bawb yn y gymdeithas, ond efallai mai rhai o'r bobl sydd mewn mwyaf o berygl ac nad ydym yn meddwl amdanyn nhw ar unwaith yw pobl sy'n dioddef cam-drin domestig, pa un a ydyn nhw'n byw mewn llochesau neu yn byw gyda'r un sy'n eu cam-drin mewn perthynas gymhellol a rheolaethol, a'u bod yn mynd i wynebu hunanynysu gyda'r un sy'n eu cam-drin a gallai'r cam-drin waethygu. Rwy'n sylweddoli nad yw hyn yn rhywbeth sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch swyddogaeth chi, ond a oes unrhyw beth y gallai awdurdodau lleol fod yn ei wneud o ran llinell gymorth neu ryw fath o ddarpariaeth ychwanegol, mewn modd ategol i'r hyn yr oeddwn i'n holi yn ei gylch o ran cefnogaeth neu sicrwydd i bobl sy'n teimlo unigrwydd? A allai rhywbeth mwy penodol fod ar gael i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig?
Yn olaf, Gweinidog, mae nifer o isetholiadau i fod i gael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n gwybod bod un yng Ngorllewin Abertawe, ac roedd un i fod i'w gynnal yng Nghaerffili. A wnewch chi gadarnhau, os gwelwch yn dda, y caiff yr isetholiadau hyn yn bendant eu gohirio nes bod y gwaethaf o'r argyfwng hwn wedi mynd heibio?
Diolch i chi am y gyfres honno o gwestiynau pwysig. O ran yr is-etholiadau, rydym ni eisoes wedi cysylltu ag awdurdodau lleol sydd ag is-etholiadau ar fin digwydd i ddweud y bydd y Bil brys yn cynnwys darpariaethau i'w gohirio, ac y dylai awdurdodau wneud y peth iawn a'u gohirio ymlaen llaw. Felly, o ran yr un yn Abertawe, rwy'n credu bod y swyddog cofrestru etholiadol eisoes wedi ysgrifennu i ddweud eu bod yn atal yr holl waith ar yr etholiadau.
Mae ychydig yn fwy cymhleth ar gyfer etholiadau a oedd yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos. Felly, rwy'n credu bod un wedi ei drefnu ddydd Iau yng Nghaerdydd, felly rydym yn trafod gyda Chyngor Caerdydd ynghylch y peth gorau i'w wneud yn y fan yna, ac, yn amlwg, ni fydd y Bil mewn grym erbyn hynny, ond, serch hynny, rydym yn gofyn i bobl wneud y peth iawn o ran yr is-etholiadau. Mae hynny'n eithaf syml.
Mae'r holl fater sy'n ymwneud â phrydau ysgol am ddim a'r broblem o ran beth arall y mae plant yn ei gael mewn ysgolion ar wahân i addysg yn fater anodd iawn, ac un o'r rhesymau pam yr ydym yn annog ysgolion i aros ar agor, o leiaf tan wyliau'r Pasg. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun y mis, felly y pythefnos o'r tymor ysgol sy'n weddill a'r pythefnos o wyliau'r Pasg, i roi'r cynlluniau ar waith i sicrhau bod plant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn parhau i allu eu derbyn drwy ba drefniadau bynnag y gallwn eu rhoi ar waith. Byddwn yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac, yn amlwg, cydweithwyr ym maes addysg i roi'r darpariaethau hynny ar waith, ac mae hynny'n berthnasol i lawer iawn o ddisgyblion. Mae gan rai ysgolion yn fy etholaeth i nifer sylweddol iawn o ddisgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim a fyddai, yn amlwg, dan anfantais fawr.
Ond mae yna grwpiau eraill o blant. Mae yna grwpiau o blant sydd yng ngofal eu rhieni, ond dim ond oherwydd eu bod yn cael eu goruchwylio yn yr ysgol. Felly, bydd yn rhaid i ni sicrhau bod trefniadau diogelu ar gyfer y plant hynny. Mae nifer o rai eraill. Mae yna restr hir, hir o bethau y mae angen i ni eu gwneud y mae ysgolion yn eu gwneud fel arfer y bydd angen i ni eu rhoi ar waith. Er fy mod i'n derbyn popeth y mae'r Aelodau wedi ei ddweud o bob rhan o'r Siambr, Dirprwy Lywydd, ynghylch yr anawsterau o ran ysgolion ac yn y blaen—mae'r Gweinidog addysg wedi bod mewn cyfarfod ar ôl cyfarfod ag amryw o bobl yn ei gylch, ac rwy'n gwybod y bydd yn ateb cwestiynau ac yn cyfarfod â'r pwyllgor yfory—yn amlwg, mae nifer o bethau y mae angen i ni eu rhoi ar waith yn gyflym er mwyn sicrhau y gallwn ni gwmpasu cynifer o'r pethau hynny ag y bo modd a bod gan bob ardal awdurdod lleol nifer o ganolfannau a all gamu i'r adwy yn hynny o beth. Felly, mae gennym ni lawer o waith i'w wneud i gyrraedd y sefyllfa honno. Rydym yn dal ar y cam o geisio prynu rhywfaint o amser, os mynnwch chi, i sicrhau bod y trefniadau hynny ar waith mewn modd cydlynol a rheoledig, a bod yr wybodaeth briodol ar gael i bobl, yn hytrach na'i fod dim ond ar gael yn ôl y galw, sef y perygl fel arall.
I ddioddefwyr cam-drin domestig, yn sicr, rydym ni mewn gwirionedd eisoes wedi bod yn ystyried nid yn unig ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig presennol, ac nid wyf yn golygu hyn mewn unrhyw ffordd ystrydebol, ond gall cael eich cyfyngu mewn lleoliad agos gyda'ch anwyliaid fod yn straen mawr, hyd yn oed i bobl sydd mewn perthynas hollol resymol. Felly bydd angen i ni agor llinellau cymorth, agor llinellau therapi siarad, a bydd y math hwnnw o beth, a hefyd y llinell gymorth Byw Heb Ofn—sy'n anodd iawn ei ddweud—yn dal i fod ar gael, a byddwn yn sicrhau ei bod ar gael drwy'r holl sefyllfa hon. Ond, bydd, fe fydd yn rhaid i ni roi nifer o drefniadau ar waith.
O ran tai a digartrefedd, fel y dywedais yn fyr yn fy natganiad, rydym ni eisoes yn ystyried trefniadau i sicrhau bod pobl yn y rheng flaen o ran digartrefedd ac yn cael y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw. Rwyf i ar ddeall bod y Gweinidog yn Lloegr wedi cyhoeddi £3.2 miliwn cychwynnol yn gynharach heddiw ar gyfer ei chymorth ar gyfer digartrefedd. Nid wyf i'n gwybod ar hyn o bryd a oes unrhyw beth yn hynny ar gyfer Cymru, ond yn amlwg, rydym ni eisoes yn ystyried mesurau i weithredu ar hynny.
Mae materion eraill yn ymwneud â thai. Rydym ni wedi bod yn annog landlordiaid preswyl sydd â morgeisi prynu i osod, lle mae eu benthyciwr yn cael eu hannog i roi ysbaid o dalu eu morgais iddyn nhw, i drosglwyddo hynny i'w rhentwyr, yn amlwg. Felly rydym ni'n annog Rhentu Doeth Cymru i wneud hynny, ac i fod yn deg, mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi bod yn gofyn i'w landlordiaid sicrhau eu bod yn gwneud hynny. Byddwn yn ysgrifennu at landlordiaid cymdeithasol ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd ynghylch rhent mewn tai cymdeithasol—landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chynghorau yn y dyddiau nesaf—a byddaf yn rhoi diweddariad arall i Aelodau'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, trwy ddatganiad ysgrifenedig mae'n debyg, yn ddiweddarach yr wythnos hon, ynghylch rhai o'r darpariaethau yr ydym ni'n eu hystyried. Mae hynny'n cynnwys y rhai a ddioddefodd yn y llifogydd diweddar, y mae llawer ohonynt mewn llety dros dro, a'r hyn y byddwn yn ceisio ei wneud i sicrhau ein bod yn cael y bobl hynny i lety mwy addas. Yn amlwg, os mai eu cartref eu hunain yw hynny, yna mae hynny'n llawer mwy delfrydol, ond i rai ohonyn nhw, nid yw hynny'n mynd i fod yn bosib yn y tymor byr. Felly, rydym ni'n ystyried hynny hefyd.
Nid wyf i'n gwybod beth mae siec wag y GIG yn ei olygu. Rydym ni'n gobeithio ei fod yn golygu y bydd digon o arian yn dod atom ni, ac yn amlwg rydym ni'n ariannu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd. Yn amlwg, bydd angen i ni gynnwys gofal cymdeithasol yn hynny. Gwireb lwyr yw hynny. Mae llond gwlad o bethau y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdanyn nhw wrth ateb cwestiynau ynghylch iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac yng nghwestiynau'r Prif Weinidog gynnau a gaiff eu hystyried yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gan gynnwys rhyddhau pobl sy'n addas i'w rhyddhau o'r ysbyty ond nad ydyn nhw wedi gallu cael eu rhyddhau yn gyflymach. Bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd iawn ynglŷn â faint o ddewis sydd gan bobl, ac yn y blaen, er mwyn ymdopi â'r argyfwng, ond byddwn yn edrych ar bob un o'r agweddau hynny.
Heddiw, cyflwynodd Andrew Morgan a minnau apêl yn ystod y gynhadledd i'r wasg i unrhyw un sydd â phrofiad ym maes gofal cymdeithasol, neu unrhyw un sydd o'r farn y gallen nhw helpu, i gynnig eu gwasanaethau i'w hawdurdod lleol i weld a allan nhw fod o gymorth yn ystod y dyddiau a'r misoedd nesaf. Rwy'n ailadrodd yr apêl honno yn awr: dylai pobl gysylltu â'u hawdurdod lleol ac egluro yr hoffen nhw gael eu hystyried. Yn rhan o'r ddeddfwriaeth frys, rydym yn ystyried darpariaethau sy'n effeithio ar bobl sydd â phensiwn. Felly, ar hyn o bryd, mae yna ddarpariaethau adfachu ar gyfer pobl sy'n gweithio mwy nag oriau penodol ac yn y blaen, felly rydym ni'n ystyried eu llacio yn rhan o'r ddeddfwriaeth frys sy'n cael ei chyflwyno i ymateb i'r argyfwng hwn.
Mae llawer iawn o bethau eraill yn ymwneud â chynorthwyo gwahanol sefydliadau'r trydydd sector â phob math o bethau—offer ac yn y blaen—ond mewn gwirionedd, ag adnoddau staffio ac ati, a gaiff eu hystyried yn y cyfarfod yfory. Rwy'n siŵr y byddwn yn diweddaru'r Aelodau'r Cynulliad yn unol â hynny.
Rwy'n credu y bydd croeso i'ch datganiad, Gweinidog, ledled y wlad, ac yn sicr mae'r ymrwymiad i gydweithio ac arwain yr ymateb gan awdurdodau lleol yn rhywbeth a fydd yn cael ei werthfawrogi yn fawr gan bobl ledled Cymru. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi amlinellu a ydych yn ystyried darparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol o ran yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw. Rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn disgwyl i'r cyngor lleol ddarparu cymorth i'w cymunedau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym yn gwybod y bydd awdurdodau lleol eu hunain o dan bwysau aruthrol, o ran gwasanaethau cymdeithasol ac o ran materion eu gweithluoedd, a fydd hefyd yn dioddef yn sgil y feirws hwn. Ond byddai gen i ddiddordeb mewn deall sut rydych chi'n bwriadu ymdrin â'r mater hwnnw.
Ond hefyd cymorth i fentrau cymdeithasol. Rwyf i wedi cael fy holi yn ystod y diwrnod diwethaf gan Sefydliad Sofrydd, Sefydliad Llanhiledd a Kidz R Us yn Nhredegar, pob un yn fenter gymdeithasol sy'n wynebu problemau gwirioneddol o ran eu gallu i gynnal gwasanaethau yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae yna rai pobl sydd wedi dychryn yn fawr mewn cymunedau ledled y wlad, ac mae'n bwysig, felly, bod y math o gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i gefnogi busnesau hefyd ar waith i gefnogi mentrau cymdeithasol fel na chollir seilwaith cymdeithasol ein cymunedau o ganlyniad i hyn.
Ar yr un pryd, wrth gwrs, mae'n wych gweld y ffordd y mae pobl yn ymateb i'r argyfwng hwn, o ran y gefnogaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddulliau eraill y mae pobl yn ceisio ei rhoi i helpu'r rhai sy'n agored i niwed mewn gwahanol gymunedau. Byddai'n ddefnyddiol iawn i'r Llywodraeth hon weld sut y gall hi helpu a chefnogi hynny, rhannu'r arferion gorau, darparu adnoddau, os oes modd, i wahanol grwpiau cymunedol a fydd yn cefnogi ac yn cynnal pobl agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.
Yn olaf, mae llawer o bobl wedi awgrymu wrthyf y byddai'n ddefnyddiol iawn pe gellid sefydlu llinell gymorth lle gallai pobl, pobl oedrannus yn arbennig a fydd gartref am gyfnodau hir yn ystod y misoedd nesaf, ffonio un rhif ledled Cymru, wedi ei ateb yn lleol, am gymorth neu gefnogaeth. Fe wnaethom ni siarad yn gynharach ynghylch materion yn ymwneud ag iechyd meddwl yn gysylltiedig â'r mater hwn, ond pobl sy'n teimlo'n unig, pobl sy'n teimlo ofn, pobl na allan nhw gael y cymorth a'r gefnogaeth a allai fod gan eraill—pwynt cyswllt lle gallan nhw cysylltu â rhywun a gofyn am y cymorth a'r gefnogaeth honno. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Alun Davies, am hynny. O ran yr un olaf yna, mae gen i ddiddordeb mawr, ac nid ydym ni wedi gwneud hynny eto, ond mae'r awgrym wedi ei wneud i mi ac rydych chithau wedi ei wneud yn fedrus iawn y prynhawn yma, i ddechrau siarad â darparwyr ynghylch yr hyn y gellir ei ddarparu drwy BT ac ati—mae darparwyr eraill ar gael—ar gyfer y cyfleuster cynadledda hwnnw. Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol i weld beth y gallwn ei sefydlu er mwyn i grwpiau gwirfoddol allu defnyddio eu ffôn eu hunain gartref a bod ar gael i siarad â rhywun yn lleol ac i sefydlu'r grwpiau ymgysylltu cymdeithasol. Mae yna bob math o bethau yn digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, felly mae a wnelo hynny â rhoi adnoddau i'r awdurdodau lleol allu cynorthwyo i gydgysylltu hynny a sicrhau ei fod yn ymledu i ardaloedd lle nad yw, efallai, wedi dechrau'n ddigymell.
Yr hyn yr ydym yn ei ddweud ar hyn o bryd yw y byddwn yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael y cymorth a'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ymateb i'r argyfwng. Nid wyf i'n gwybod sut y bydd hynny'n edrych ar hyn o bryd, ond rydym ni wedi rhoi sicrwydd iddyn nhw, sut bynnag y bydd yn edrych, y byddwn ni'n gallu camu i'r adwy iddyn nhw ac, yn amlwg, rydym ni'n lobïo Llywodraeth y DU o awr i awr am gymorth i ni ein hunain hefyd. Mae'n amlwg yn gwbl hanfodol bod gennym ni bobl yn gwneud y peth iawn am y rhesymau iawn ar yr adeg iawn ac nad ydyn nhw'n poeni ynghylch a ydyn nhw'n galllu ei fforddio ar hyn o bryd ai peidio. Felly, rydym ni wedi gwneud hynny yn glir iawn a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Yn y cyfarfod yfory â'r trydydd sector, mentrau cymdeithasol, byddwn yn trafod cymorth busnes ar gyfer mentrau cymdeithasol. Fe wnes i gyfarfod ddoe, rwy'n credu, â Chanolfan Cydweithredol Cymru, a byddwn yn rhoi'r math hwnnw o gymorth, felly rwy'n cytuno'n llwyr: mae mentrau cymdeithasol ledled y wlad yn rhan annatod o wead lle yr ydym ni.
Mae fy nghyd-Aelod y Dirprwy Weinidog, Hannah Blythyn, yn edrych ar ganolfannau cyngor ar bopeth a'r hyn y gallwn ei wneud yn y fan honno a gyda'r undebau credyd hefyd i weld sut y gallwn ni gydlynu rhai o'r dulliau gweithredu. Felly, bydd cefnogi'r undebau credyd, er enghraifft, i allu cynorthwyo pobl nad oes ganddyn nhw ddim cynilion ac ati heb fod unrhyw fai arnyn nhw, oherwydd yr economi gìg, yn rhan hanfodol o'r hyn yr ydym yn ei wneud hefyd.
A gaf i groesawu eich datganiad, yn enwedig yr addewid i gyflwyno rhagor o fanylion am sut y caiff y rhai sy'n cysgu allan eu helpu? Mae'n rhaid mai nhw yw'r grŵp mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas ac mae hyn yn ychwanegu ofn a diflastod mawr, o bosib, at eu sefyllfa ac mae'n briodol ein bod ni'n sicrhau y gallwn ni ddarparu cymaint o adnoddau â phosib i'r grŵp hwnnw o bobl.
Dim ond un cwestiwn sydd gen i—rydych chi wedi ateb cynifer o gwestiynau yn y datganiad hwn, oherwydd ei fod yn faes mor bwysig. Mae llawer o bobl sydd yn agos iawn at fod yn cysgu allan yn gwerthu The Big Issue, a bydd eu gwerthiant yn debygol o ostwng yn sylweddol. Tybed a oes unrhyw bosibiliadau, un ai drwy gymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru neu annog Llywodraeth y DU i ystyried sut y gellid cefnogi'r ffrwd incwm honno, oherwydd gallem ni yn y pen draw fod â mwy o bobl ar y stryd, yn sicr pobl sy'n agored i niwed, beth bynnag, mewn sefyllfa lawer mwy bregus yn ystod y tri neu bedwar mis nesaf pan nad oes ganddyn nhw yr incwm hwnnw.
Mae hynny'n bwynt arbennig o wych. Nid wyf i wedi cysylltu â The Big Issue hyd yn hyn, ond rwy'n credu bod hynny ar restr y swyddogion o bethau i'w gwneud, felly byddwn ni yn awyddus i gael gwybod sut y gallwn ni eu cefnogi. Rwy'n poeni'n fawr am y syrffwyr soffa, fel y gelwir nhw, neu bobl sydd yn agos iawn at fod yn cysgu ar y stryd, yn llithro i'r sefyllfa honno, oherwydd, yn amlwg, wrth i deuluoedd hunanynysu gartref, maen nhw'n annhebygol o fod mor awyddus i dderbyn pobl yn cysgu ar eu soffa, neu beth bynnag, fel y byddan nhw fel arfer. Felly, rydym ni yn ymwybodol iawn o'r syniad y gallai fod ymchwydd sydyn o bobl sy'n cael eu hunain yn ddigartref yn gyflym, neu yn gynt nag y bydden nhw yn ei wneud fel arall. Byddwch yn gwybod y buom ni, mewn cyfnodau arferol, yn cynnal ymgyrch fawr yn ddiweddar i annog pobl i gydnabod eu bod yn ddigartref, a byddwn yn parhau i wneud hynny gymaint â phosib hefyd. Ond rydym ni yn pryderu yn fawr y bydd hynny yn wir yn digwydd.
O ran y rhai sy'n cysgu ar y stryd, byddaf i'n cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon, ond yn y bôn yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud, yn amlwg, yw gwneud yn siŵr y gall pobl gael eu derbyn yn y mannau lle y gallan nhw gael eu derbyn, bod gennym ni wasanaethau carfan. Felly, i bob pwrpas, os ydych chi wedi eich heintio bydd gennych chi gasgliad o wasanaethau—neu os yw'n bosibl eich bod wedi eich heintio. Os nad ydych chi wedi eich heintio, bydd gennych chi gasgliad gwahanol o wasanaethau. Mae yna lawer o garfannau gwahanol yn y frawdoliaeth gysgu ar y stryd hefyd—pobl â materion eraill y bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod mewn carfannau ac nid wedi eu dosbarthu ar hap. Fe fydd problemau mawr ynghylch a allwn ni sicrhau llety mewn gwestai neu lety gwely a brecwast. Mewn gwirionedd, yn eironig, wrth gwrs, oherwydd y feirws, mae'r math hwnnw o lety gael iddyn nhw yn fwy nag y byddai fel arfer, felly byddwn ni yn defnyddio hynny.
A bydd carfan o bobl nad ydym ni'n gallu eu rhoi mewn llety, am bob math o resymau. Rydym ni'n gwybod bod gan rai sy'n cysgu allan broblemau gwirioneddol gyda hynny. Felly, byddwn yn ceisio sefydlu, yn enwedig yn y pedair dinas sydd â'r broblem fwyaf yng Nghymru, ardaloedd diogel ar gyfer pebyll a lle y gallwn ni osod darpariaeth iechyd a glanweithdra ac yn y blaen ar gyfer pobl pan nad ydym yn gallu eu rhoi mewn llety. Yn hollol, heb unrhyw amheuaeth, fe fydd rhai pobl yn y garfan honno. Felly, byddwn yn gwneud hynny a byddaf yn cyflwyno datganiad yn ddiweddarach yn yr wythnos pan fyddwn yn fwy sicr o'r hyn y byddwn yn ei wneud, ond byddwn yn ymateb i hynny.
Roeddwn i wrth fy modd o weld bod Gweinyddiaeth y DU newydd gyhoeddi'r cyllid cychwynnol hwn, fel y'i gelwir, o £3.2 miliwn. Byddwn yn awyddus iawn i weld faint o hynny a ddaw i ni a'r hyn y gallwn ei wneud â'r arian ychwanegol hwnnw. Felly, mae'r cyfan rwyf i wedi ei ddweud yn bethau yr ydym ni eisoes yn eu gwneud gyda'n pethau ein hunain, felly byddwn yn ystyried unrhyw beth y gallwn ni ei wneud yn ychwanegol at hynny.
Rwy'n credu bod The Big Issue yn un diddorol iawn; byddwn yn sicr yn mynd ar drywydd hynny. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi ei ddweud dro ar ôl tro y prynhawn yma, nid ydym yn honni bod gennym ni fonopoli ar syniadau da, felly byddwn yn falch iawn o glywed unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano a allai fod yn ddefnyddiol.
Gwnaf i ddim cymryd llawer o amser. Syniad sydd gen i sydd wedi cael ei basio i fi yng nghyd-destun yr angen acíwt a allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer cartrefi dros dro ar gyfer gweithwyr iechyd a gweithwyr allweddol eraill. Mae'n codi o senario lle mae yna ddyn sydd yn hŷn ac yn gorfod hunan-ynysu ar hyn o bryd. Mae ei fab o yn heddwas sydd yn weithiwr allweddol ddim eisiau ynysu ei hun, ond does ganddo fo nunlle i fynd i fyw. Felly, mi fyddem ni o bosibl yn gallu cael budd o ddod o hyd i leoedd i'r gweithwyr allweddol yma ymgartrefu dros dro.
A oes yna fudd ydych chi'n meddwl yn y Llywodraeth yn edrych ar y posibilrwydd o estyn allan at bobl sydd â thai gwag, ail gartrefi, Airbnbs ac yn y blaen, i weld a oes modd gallu defnyddio yr eiddo gwag hynny yn ystod y cyfnod yma er mwyn cartrefu gweithwyr allweddol?
Oes, rwy'n credu bod hwnnw'n syniad gwych. Nid yw'n un yr oeddwn wedi'i ystyried, felly rwy'n falch iawn bod y syniad wedi'i godi. Byddwn yn sicr yn ystyried hynny. Mae hynny'n gwbl hanfodol, onid yw e', os ydych chi'n byw gydag aelod o'r teulu sydd â hynny a'ch bod yn gallu cael eich gwahanu oddi wrtho, yna mae hynny'n amlwg yn syniad gwych? Gwyddom fod gwestai ledled Cymru â chyfraddau llenwi isel iawn, er enghraifft, o ganlyniad i'r feirws, felly mae'n sicr yn werth ei ystyried, ac fe wnawn ni wneud hynny, a byddwn yn adrodd yn ôl ar hynny ar unwaith.
Diolch yn fawr, Gweinidog.